search.noResults

search.searching

note.createNoteMessage

search.noResults

search.searching

orderForm.title

orderForm.productCode
orderForm.description
orderForm.quantity
orderForm.itemPrice
orderForm.price
orderForm.totalPrice
orderForm.deliveryDetails.billingAddress
orderForm.deliveryDetails.deliveryAddress
orderForm.noItems
THE HERALD FRIDAY FEBRUARY 10 2017


45 Newyddion Cymraeg


 MAE GWASG Y Lolfa wedi


cyhoeddi yr wythnos hon eu bod am atgynhyrchu un o bosteri fwyaf eiconig y sin roc Gymraeg Bydd Y Lolfa yn ailgyhoeddi


poster i hyrwyddo Maes B, record sengl Y Blew, y grŵp trydanol cyntaf i ganu yn Gymraeg. “Rwy’n falch iawn ein bod ni’n


ailgyhoeddi poster eiconig Y Blew gan Dafydd Evans, oedd yn hyrwyddo eu hunig record, Maes B, nôl yn 1967,” meddai Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg y Lolfa, “Gan mai yn y flwyddyn honno y


sefydlwyd Y Lolfa, hanner canrif yn ôl, mae’n ddigwyddiad o arwyddocâd i ni fel gwasg, hefyd.” “Nid pawb sy’n sylweddoli mai Y


Blew oedd yn gyfrifol am y cyngerdd ‘roc’ cyntaf Cymraeg erioed, ym mis Mawrth 1967, yn y Neuadd Goffa, Talybont,” ychwanegodd Robat, “Doedd yr un grŵp Cymraeg, cyn hynny, wedi mentro defnyddio offer trydanol yn gyhoeddus. Roedd y sŵn byddarol yn sioc i bawb, a’r pentre’n crynu. Ond roedd y neuadd dan sang, a’r arian yn llifo i mewn goffrau Capel Tabernacl, yr o’n i wedi trefnu’r cyngerdd ar ei gyfer.” Aeth Y Blew ymlaen wedyn


i berfformio yn y Babell Lên yn Eisteddfod Y Bala cyn mynd ar daith lwyddiannus o gwmpas Cymru. Yn


anffodus chwalodd y grŵp yn fuan wedyn wrth i’r aelodau adael coleg Aberystwyth. Meddai Dafydd Evans, gitârydd


bas Y Blew a mab i Gwynfor Evans: “Rwy’n falch i weld bod Y Blew yn dal i dyfu a dylanwadu hanner canrif yn ddiweddarach!” Dywedodd Fflur Arwel, Pennaeth


Marchnata’r Lolfa: “Rydym yn gobeithio bydd y poster yn apelio at y rheiny fydd yn cofio grŵp Y Blew ond bydd yr arddull chwedegol yn apelio ac yn denu y genhedlaeth iau nad oedd o gwmpas yn ystod cyffro diwedd y chwedegau.” Bydd y poster ar werth yn Ffair


Recordiau cylchgrawn Y Selar ar yr 11eg o Chwefror yn Aberystwyth rhwng 10 a 4 o’r gloch. Meddai Toni Schiavone, un o


drefnwyr y ffair: “Mae ond yn briodol ein bod yn arddangos y poster eiconig hwn gan fand fu mor ddylanwadol yn y sin roc Gymraeg – a hynny yn nigwyddiad ffair recordiau orau’r gorllewin ble daw rhai o fasnachwyr gorau Cymru at ei gilydd.” Bydd y gyfrol Y Blew a


Buddugoliaeth Gwynfor, sydd yn adrodd canu pop, crefydd a gwleidyddiaeth y cofnod yn ogystal â ieuenctid Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, hefyd ar werth yn y ffair am bris arbennig o £5.


 MAE ymgyrchwyr iaith wedi


dweud y gallai hawliau newydd myfyrwyr prifysgolion a cholegau i’r Gymraeg fod yn ‘gam ymlaen’ yn dilyn pleidlais i’w cymeradwyo yn y Cynulliad heddiw. Prynhawn yma, fe gymeradwyodd gwleidyddion ym mae Caerdydd ddyletswyddau iaith newydd ar gyfer colegau a phrifysgolion i ddarparu gwasanaethau drwy’r Gymraeg. Mae’r rheoliadau yn golygu y bydd gan fyfyrwyr hawliau i: • cyfweliadau derbyn a chyfarfodydd Cymraeg;


• llety Cymraeg; • mewnrwyd


cyfrwng Cymraeg;


• tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg


• sefyll arholiadau ac asesiadau yn Gymraeg


• gwasanaeth cwnsela a chymorth iechyd meddwl Cymraeg


• gweld a chlywed y Gymraeg mewn seremonïau graddio


Ond mae Cymdeithas yr Iaith


Gymraeg wedi rhybuddio bod drafftio gwael gan weision sifil y Llywodraeth yn peryglu creu cymhlethdodau diangen.


Dywedodd Heledd Gwyndaf,


Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg


myfyrwyr


“Er nad yw’r Safonau hyn yn


berffaith, maen nhw’n gam ymlaen, does dim amheuaeth am hynny. Ac rydym yn falch bod y pwyso wedi dwyn ffrwyth o ran cryfhau hawliau myfyrwyr, fel yr hawl i lety Cymraeg a’r hawl i diwtor personol Cymraeg. Fodd bynnag, mae pryderon gyda ni o hyd am y ffordd mae gweision sifil wedi eu drafftio gan adael mannau gwan diangen. “Gobeithio y bydd bwriad y


Llywodraeth i gryfhau Mesur y Gymraeg yn gyfle i’r gwasanaeth sifil a’r llywodraeth gymryd cam yn ôl a llunio deddfwriaeth iaith sy’n rhoi pobl Cymru a’r Gymraeg yn ganolbwynt iddo – yn hytrach nag ochri â chyrff mawr. Rydyn ni wedi llunio ein cynigion drafft sy’n galw am nifer o newidiadau gan gynnwys estyn y ddeddfwriaeth i weddill y sector breifat. “Er bod Safonau’r Gymraeg


yn symlach na’r hen gyfundrefn o gynlluniau iaith - yn sicr o safbwynt unigolyn sy’n cwyno - mae lle i wella. Un ffordd o sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau yw gosod hawliau cyffredinol ar wyneb y ddeddfwriaeth a fydd yn adeiladu ar y Safonau. Dyna sydd angen ei wneud er mwyn creu Mesur sy’n symlach i’r cyhoedd ei ddeall.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56  |  Page 57  |  Page 58  |  Page 59  |  Page 60  |  Page 61  |  Page 62  |  Page 63  |  Page 64  |  Page 65  |  Page 66  |  Page 67  |  Page 68  |  Page 69  |  Page 70  |  Page 71  |  Page 72  |  Page 73  |  Page 74  |  Page 75  |  Page 76  |  Page 77  |  Page 78  |  Page 79  |  Page 80