search.noResults

search.searching

note.createNoteMessage

search.noResults

search.searching

orderForm.title

orderForm.productCode
orderForm.description
orderForm.quantity
orderForm.itemPrice
orderForm.price
orderForm.totalPrice
orderForm.deliveryDetails.billingAddress
orderForm.deliveryDetails.deliveryAddress
orderForm.noItems
42 Newyddion Cymraeg


THE HERALD FRIDAY FEBRUARY 10 2017


 





MAE Ysgrifennydd y Cabinet MAE PANEL Heddlu a


Throseddu Dyfed-Powys wedi cefnogi cynnydd arfaethedig y Comisiynydd o 6.9 y cant yn y praesept ar ôl clywed am ei gynlluniau i fuddsoddi a gwella gwasanaethau plismona ar draws ardal yr heddlu. Cyflwynodd Dafydd Llywelyn ei


braesept a’i gyllideb ddrafft i’r panel ddydd Gwener, 27 Ionawr. Mae’n rhaid ymgynghori â’r panel


ynghylch praeseptau arfaethedig dan atodlen 5 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Er iddynt nodi bod y praesept yn


uwch na lefel y byddent yn gyfforddus yn ei chefnogi, roedd mwyafrif y panel yn teimlo bod hyn yn bris yr oedd yn werth ei dalu i sicrhau y gellid gwella gwasanaethau. Ymhlith y gwelliannau a gynigir


y mae ailgyflwyno system teledu cylch cyfyng, a waredwyd dan y Comisiynydd blaenorol, a dalfa newydd i Sir Gaerfyrddin. Hefyd, amlinellodd Mr Llywelyn


ei gynlluniau i gyflogi rhagor o swyddogion ymchwilio – yn benodol yn adran Amddiffyn Pobl Agored i Niwed yr heddlu - ac i fuddsoddi yn ei uned seiberdroseddu. Byddai cynnydd o 6.9 y cant yn


y praesept yn golygu y byddai eiddo cyfartalog ym mand D yn talu £213.87 tuag at wasanaethau plismona – 27c yr aelwyd yn fwy bob wythnos am


blismona. Gan nodi penderfyniad y Comisiynydd blaenorol i rewi’r praesept, dywedodd Mr Llywelyn fod ganddo benderfyniad anodd i godi’r cyllid i lefel gynaliadwy eto er mwyn cynnal plismona effeithiol. “Etifeddais y sefyllfa hon,”


meddai. “Yn y flwyddyn ariannol hon, bu’n rhaid defnyddio £3 miliwn o’r cronfeydd wrth gefn i roi hwb i’r gyllideb refeniw. Rwy’n ceisio sicrhau cyllideb gytbwys ac onest. “Efallai bydd rhai pobl yn dweud


ei fod yn godiad mawr - nid yw’n benderfyniad hawdd, ond nid wyf i’n mynd i osgoi hyn oherwydd fy mod i’n credu mai dyna’r peth iawn i’w wneud,” meddai. “Mae’n seiliedig ar drafodaeth


helaeth iawn ac uchelgais i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn perfformio’n well. Hyd yn oed gyda’r cynnydd hwn, ni fydd y rhataf yng Nghymru o hyd o gymharu â’r ardaloedd heddlu eraill.” Dywedodd aelodau’r panel eu bod


yn ddiolchgar am y cyfle i gael gwybod am gynlluniau’r Comisiynydd ar gyfer y dyfodol, yn benodol ynghylch teledu cylch cyfyng. Dywedodd y Cynghorydd Gwynne


Hopkins, sy’n cynrychioli Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae’r sefyllfa hon yn unigryw yn fy marn i – mae pob un o’r heddluoedd eraill yng Nghymru wedi cael cynnydd bychan o flwyddyn i flwyddyn. Nid wyf erioed wedi cytuno


i gynyddu praesept gan fwy na phump y cant, ond nid wyf erioed wedi gweld praesept yn gostwng neu’n cael ei rewi chwaith. Felly, er fy mod yn gyndyn o wneud hynny, rwyf o blaid.” Fodd bynnag, dywedodd y


Cynghorydd David Evans, sy’n cynrychioli Cyngor Sir Powys, na allai ef a’i gydweithwyr ym Mhowys gefnogi cynnydd mor ‘sylweddol’. Diolchodd Cadeirydd y Panel,


y Cynghorydd Alun Lloyd Jones, i’r Comisiynydd am ei adroddiad a chadarnhaodd fod mwyafrif y panel yn cefnogi’r praesept arfaethedig. “Fel panel, rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas onest ac agored rydym wedi’i chreu gyda’r Comisiynydd,” meddai. “Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agosach o lawer â Mr Llywelyn nag yr oedd yn bosibl â’r Comisiynydd blaenorol ac rydym ni i gyd yma i sicrhau’r gwasanaeth plismona gorau posibl i ardal Dyfed-Powys a’r bobl rydym yn eu cynrychioli. “Pe na byddai’r Comisiynydd


blaenorol wedi lleihau’r praesept 5 y cant ddwy flynedd yn ôl a’i rewi’r flwyddyn ganlynol, ni fyddem mewn sefyllfa nawr lle mae’n rhaid inni geisio dal i fyny. Nid ydym yn debygol o gynyddu’r praesept gymaint â hyn eto yn y dyfodol, ac er mwyn sicrhau’r lefel plismona a’r gwelliannau o ran gwasanaethau y mae eu hangen arnom, mae’n hanfodol.”


dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi gweithredu i roi gwarchodaeth gryfach i adar môr a llamhidyddion yng Nghymru. Ar ôl cynnal ymgynghoriad


y llynedd ar sefydlu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig newydd (ACA) ar gyfer llamhidyddion, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymeradwyo tair ardal o’r fath. Mae’r ardaloedd hynny wedi’u cyflwyno bellach i’w hystyried gan y Comisiwn Ewropeaidd. Y tair ardal yw Ardal Forol


Gogledd Ynys Môn, Ardal Forol Gorllewin Cymru a Cheg Môr Hafren. Nodwyd yr ardaloedd hynny


ar sail 18 mlynedd o ddata am ddosbarthiad llamhidyddion a nodwyd eu bod yn rhai pwysig oherwydd bod mwy o lamhidyddion yn cael eu gweld yno’n gyson nag mewn ardaloedd eraill. Bydd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ategu’r mesurau cadwraeth sydd yn eu lle eisoes ar draws dyfroedd y DU er mwyn helpu i sicrhau bod statws y rhywogaeth yn parhau’n ffafriol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi


rhoi cymeradwyaeth hefyd i sefydlu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig mewn tair ardal forol arall. Yn eu plith y mae Gogledd Bae


Ceredigion sy’n gartref i’r trochydd gyddfgoch dros y gaeaf, ac mae hi hefyd wedi ehangu dwy ardal fridio sy’n bwysig i adar môr, sef Ynys Feurig, Bae Cemlyn ac Ynys Sgogwm


ac Ynys Skomer, sy’n hollbwysig ar gyfer ymdrwsio ac ymddygiadau eraill yn ystod y tymor pan fydd yr adar yn bridio. Dywedodd Ysgrifennydd y


Cabinet: “Rydym wedi ymrwymo i greu rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru er mwyn i rywogaethau a chynefinoedd fedru ffynnu. Mae amgylchedd iach a chyfoethog yn y môr yn sicrhau bod modd defnyddio’n moroedd mewn ffordd gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol. “Mae’r ymateb eang i


ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar warchod llamhidyddion yn dangos bod pobl yn rhoi gwerth ar warchod bywyd yn y môr. Dw i’n falch ein bod yn cymryd camau i warchod ein llamhidyddion ac i warchod ardaloedd sy’n bwysig i adar môr.” Dywedodd Ceri Davies,


Cyfarwyddwr Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu: “Rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod y moroedd o amgylch Cymru’n cynnal y fath gyfoeth o fywyd gwyllt. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan gymunedau lleol ac mae’n cynnal busnesau pwysig fel pysgota, twristiaeth a hamdden. “Mae CNC yn edrych ’mlaen


at weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y safleoedd hyn yn cael eu rheoli’n briodol er mwyn helpu i’w cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22  |  Page 23  |  Page 24  |  Page 25  |  Page 26  |  Page 27  |  Page 28  |  Page 29  |  Page 30  |  Page 31  |  Page 32  |  Page 33  |  Page 34  |  Page 35  |  Page 36  |  Page 37  |  Page 38  |  Page 39  |  Page 40  |  Page 41  |  Page 42  |  Page 43  |  Page 44  |  Page 45  |  Page 46  |  Page 47  |  Page 48  |  Page 49  |  Page 50  |  Page 51  |  Page 52  |  Page 53  |  Page 54  |  Page 55  |  Page 56  |  Page 57  |  Page 58  |  Page 59  |  Page 60  |  Page 61  |  Page 62  |  Page 63  |  Page 64  |  Page 65  |  Page 66  |  Page 67  |  Page 68  |  Page 69  |  Page 70  |  Page 71  |  Page 72  |  Page 73  |  Page 74  |  Page 75  |  Page 76  |  Page 77  |  Page 78  |  Page 79  |  Page 80