Torfaen - Y Safle Delfrydol Ar Gyfer Busnes Yng Nghymru Wales
Mae Torfaen yng nghwm mwyaf dwyreiniol de Cymru, gan ei wneud yn hawdd i fusnesau weithredu ar lwyfan cenedlaethol a byd-eang. Gan gynnig cysylltiadau ardderchog at draffyrdd yr M4 a’r M5 a rhwydweithiau priffyrdd eraill, mae gan yr ardal gysylltiadau effeithlon trwy’r rheilffyrdd hefyd gyda gorsafoedd yng Nghwmbrân a’r Dafarn Newydd/ Pont-y-pŵl.
Mae hyn yn rhoi mynediad hawdd i Lundain a de Cymru yn ogystal â chanolbarth a gogledd orllewin Lloegr. Gyda meysydd awyr Caerdydd a Bryste ychydig dros awr i ffwrdd, mae modd cyrraedd marchnadoedd y DU ac Ewrop/Rhyngwladol trwy’r awyr. Mae Torfaen yn agos i ddinasoedd Casnewydd a Chaerdydd, yn ogystal ag eraill fel Bryste a Birmingham. Mae diddymu tollau pontydd yr Hafren hefyd yn gwella cysylltiadau trwy’r ffyrdd i mewn ac allan o dde Cymru.
Mae gennym ni draddodiad balch o arloesi mewn busnes yn y Fwrdeistref. Dechreuodd hyn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac mae’n parhau hyd heddiw. Erbyn hyn mae seilwaith digidol a chysylltedd o’r radd flaenaf yn sicrhau bod y gymuned fusnes rhyngwladol ar gael trwy glic.
Mae tref boblogaidd, fywiog a modern Cwmbrân yn ne Torfaen ac yng nghalon y Cwm mae Pont-y-pŵl. Mae Safle Treftadaeth y Byd, Blaenafon ym mhwynt mwyaf gogleddol Torfaen ar ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dim ond ugain munud i ffwrdd wedyn mae tref farchnad Y Fenni, adnabyddir fel ‘Porth Cymru’.
Mae Torfaen yn falch o’r ansawdd, fforddiadwyedd a’r dewis o eiddo masnachol sydd ar gael ar draws yr ardal. Gall cwmnïau o unrhyw faint a math sicrhau llety addas ac o ansawdd da ar gyfer eu busnes yma. Felly, p’un ai ydych chi’n dechrau busnes, yn symud i neu’n ehangu oddi mewn i’r ardal, mae’r eiddo delfrydol ar eich cyfer yn Nhorfaen.
Mae’r dewis yma o eiddo busnes yn yr ardal ar gael am bris teg hefyd. Y canlyniad fydd hwb ariannol cadarnhaol i chi!
40 COMMERCIAL PROPERTY MONTHLY 2019
Mae’r dewis eang o eiddo masnachol yn Nhorfaen yn cynnwys: Ǟ
Canolfan Arloesi Busnes Springboard ~ Cymru yn Llantarnam, Cwmbrân sy’n annog ac yn cefnogi busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg sy’n tyfu’n gyflym
Ǟ Swyddfeydd o ansawdd uchel
Ǟ Eiddo Manwerthu – o’r Farchnad hanesyddol ym Mhont-y-pŵl i unedau mawr yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân
Ǟ Cyfleoedd ar gyfer datblygu a safleoedd ar gyfer buddsoddiad
Ǟ Warysau diwydiannol a gweithgynhyrchu mawr Ǟ Unedau diwydiannol bach
Mae Cyfeiriadur Eiddo Masnachol Torfaen i’w gael ar wefan Economi a Mentergarwch Torfaen ac mae’n dangos yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae yna gyfleuster defnyddiol ar gyfer chwilio er mwyn eich galluogi i gael yr eiddo iawn ar gyfer eich busnes mor gyflym ag y gallwch. Oherwydd y digonedd o eiddo busnes, y lleoliad strategol, gweithlu ymroddedig â sgiliau a threftadaeth ddiwydiannol gref, mae Torfaen yn un o’r lleoedd mwyaf deniadol yng Nghymru i fod mewn busnes!
Byddem yn falch iawn o gael siarad â chi ynglŷn â dod â’ch busnes i Dorfaen yn 2019
Cysylltwch â Thîm Economi a Mentergarwch Torfaen Ffôn: 01633 647800 E-bost
info@southwalesbusiness.co.uk Ewch i
www.southwalesbusiness.co.uk @TorfaenBizCymru
TorfaenEnterprise
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22 |
Page 23 |
Page 24 |
Page 25 |
Page 26 |
Page 27 |
Page 28 |
Page 29 |
Page 30 |
Page 31 |
Page 32 |
Page 33 |
Page 34 |
Page 35 |
Page 36 |
Page 37 |
Page 38 |
Page 39 |
Page 40 |
Page 41 |
Page 42 |
Page 43 |
Page 44 |
Page 45 |
Page 46 |
Page 47 |
Page 48 |
Page 49 |
Page 50 |
Page 51 |
Page 52 |
Page 53 |
Page 54 |
Page 55 |
Page 56 |
Page 57 |
Page 58 |
Page 59 |
Page 60 |
Page 61 |
Page 62 |
Page 63 |
Page 64 |
Page 65 |
Page 66 |
Page 67 |
Page 68