www.sirgar.gov.uk Erthygl Hysbysebu Saigon yn dod i sir gâr
Mae Opera Ieuenctid Sir Gâr wedi cael cyfle gwych i berfformio’r sioe gerdd Miss
(argraffiad ysgolion) yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Lleolir y sioe yn ystod
rhyfel Fietnam, ac mae ei chynhyrchu yn dipyn o her. Bydd y gynulleidfa yn gweld cyflwyniad dramatig a thrawiadol o’r stori garu glasurol hon sy’n tystio i rym yr ysbryd dynol ac sy’n feirniadaeth lem o drasiedi rhyfel. Bydd naw perfformiad yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, a bydd agoriad
mawreddog nos Sadwrn 9 Chwefror, perfformiadau gyda’r nos rhwng 11 ac 16 Chwefror a pherfformiad yn y prynhawn ddydd Mercher 13 a dydd Sadwrn 16 Chwefror. Bydd y perfformiadau nos yn dechrau am 7.30pm, a’r rhai prynhawn am
2.30pm. Pris tocyn fydd £14 gyda gostyngiad o £12. Bydd tocynnau teulu ar gael am £46. (Dau oedolyn a dau blentyn). I gael tocynnau a mwy o fanylion ffoniwch Swyddfa Docynnau’r Lyric ar
0845 2263 510, neu ewch i
www.theatrausirgar.co.uk Mae Opera Ieuenctid Sir Gâr yn denu
cynulleidfaoedd mawr, sy’n adlewyrchu safon uchel ac ansawdd eu cynyrchiadau blynyddol. Mae ganddyn nhw gast ifanc a dawnus a gefnogir gan fyddin fechan o wirfoddolwyr.
Noddwr – Ei Huchelder Brenhinol, Duges Cernyw’
Campws ar agor i’r gymuned
PEIDIWCH ag anghofio fod campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin ar gael ar gyfer defnydd cymunedol-gallwch fwynhau chwaraeon, mynychu sgwrs neu gyngerdd neu logi un o'r ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau. Rydym yn cynnal ac yn hyrwyddo
nifer o ddigwyddiadau celfyddydol ar draws lleoliadau amrywiol hefyd. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys
seminarau, gweithdai, perfformiadau, llenyddiaeth a cherddoriaeth byw. Maent yn arddangos gwaith gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld yn ogystal â staff a myfyrwy ry Brifysgol. Ewch i
www.ydds.ac.uk i gael yr wybodaeth ddiweddaraf
Mae myfyrwyr therapi harddwch yng Ngholeg Sir Gâr yn hyfforddi ar gyfer dwy driniaeth newydd sy’n cael eu cyflwyno yng nghampws y Graig. Mae massage Thai a microdemabrasion yn cael eu
hychwanegu at restr triniaethau’r Coleg er mwyn ehangu cyfleoedd dysgu’r myfyrwyr hynny sy’n
gadael y Coleg i weithio fel therapyddion harddwch neu holistaidd. “Mae massage Thai, a enwir yn Nuad Bo Rarn, sy’n golygu ‘cyffyrddiad sanctaidd’, yn defnyddio sgiliau ymestyn fel rhai yoga,” meddai Francesca Hampson, sy’n ddarlithydd therapi harddwch. “Mae’n defnyddio technegau pwysedd a chywasgu i leihau straen a thensiwn yn y cyhyrau.
Triniaeth ar gyfer yr wyneb yw microdermabrasion, sy’n defnyddio crisialau mân i gael gwared â haen uchaf y croen. Mae hynny’n help i wella golwg mân linellau, creithiau a lliw ar yr wyneb.” Ffoniwch y tîm therapi harddwch ar 01554 748079 neu anfonwch e-bost at
enquiries@colegsirgar.ac.uk
Aelodau o gast Opera Ieuenctid Sir Gâr yn ymarfer.
Saigon
Gwybodaeth yn helpu cleifion i wella
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013
9
MAE taflenni, canllawiau a DVDs dwyieithog newydd yn rhai yn unig o’r adnoddau sydd ar gael nawr i helpu staff orthopedig i ddysgu cleifion Hywel Dda am eu triniaeth a’u hadferiad. Mae’r Rhaglen Addysg i Gleifion,
JointPathways, a lansiwyd yn Ysbyty Tywysog Philip, yn unigryw yng Nghymru. Mae’r tîm orthopedig yn yr ysbyty yn Llanelli wedi cydweithio’n agos â pherchennog y rhaglen, Stryker,
i ddatblygu
adnoddau i ddiwallu anghenion cleifion a’r tîm yn Sir Gaerfyrddin. Mae dros 70% o gleifion sydd dan
ofal y tîm yn dweud mai Cymraeg yw eu hiaith gyntaf. Roedd sicrhau bod y deunydd addysgol, sydd ar gael cyn ac ar ôl y driniaeth, yn ddwyieithog yn flaenoriaeth uchel i Michelle Gerard-Wilson, Nyrs Arbenigol Orthopedig yn Ysbyty Tywysog Philip: “Mae’n wych bod ein cleifion sy’n cael disodliad cynlluniedig y glun neu’r pen-glin yn gallu cael yr
adnoddau hyn yn eu dewis iaith. Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y deunydd hwn yn ystyrlon i staff a chleifion. “O apwyntiadau cleifion allanol i ar
ôl y llawdriniaeth, rydym wedi lliflinio’r wybodaeth sydd ar gael i helpu pobl i ddeall y driniaeth a beth i’w ddisgwyl. Yn dilyn y llawdriniaeth bydd gan bob claf restr wirio hawdd i’w helpu i wella a dangos eu cynnydd iddynt.”
Triniaethau harddwch newydd
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22