www.sirgar.gov.uk Llwyddiant 'Worldskills'
Pan aeth Coleg Sir Gâr i’r Sioe Sgiliau yn Birmingham, fel Coleg gorau Cymru, roedd myfyrwyr y Coleg yn wynebu her gan fyfyrwyr eraill o wahanol rannau o’r DU. Enillodd y Coleg nifer o fedalau, ac roedd dwy ohonyn nhw’n rhai aur. Enillodd Rhodri Jones 21, sy’n
fyfyriwr gwaith metel adeiladu, a Ross Richardson-Davies, 21, sy’n blastrwr dan hyfforddiant, ill dau fedal aur am eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC yn Birmingham. Cafodd tri myfyriwr arall fedalau efydd, sef Richard Harvard Griffiths, 20,
sy’n fyfyriwr peirianneg
fecanyddol, Tee Jay Dack, 17, hyfforddai Cymwysiadau Microsoft, a Jonathan Price, 21 sy’n hyfforddai gwaith metel adeiladu. Hefyd cafodd Daniel Koehler, 17 oed, sydd eisoes wedi cael ei ddewis ar gyfer sgwad y DU i gymryd rhan yn nigwyddiad WorldSkills rhyngwladol yn yr Almaen y flwyddyn nesaf, fedal arian mewn cystadleuaeth arbennig i ddylunio gwefan. O ganlyniad i’w lwyddiant yn y
gystadleuaeth, mae Coleg Sir Gâr bellach yn gydradd gyntaf gyda Choleg Dinas Bryste yn nhabl colegau WorldSkills UK.
Agor drysau'r Coleg
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013
A yw'r diwygiadau lles yn effeithio arnoch chi?
MAE nifer o sefydliadau yn cynnig cymorth i'r bobl yn Sir Gaerfyrddin y bydd y diwygiadau lles a gyflwynir eleni yn effeithio arnynt. Y diwygiadau hyn yw'r newid mwyaf yn y system fudd-
daliadau ers iddi ddechrau ryw 60 mlynedd yn ôl. Nod y Llywodraeth yw symleiddio'r system a cheisio sicrhau bod pobl fwy ar eu hennill drwy weithio na thrwy fod yn ddiwaith. Mae 'Cyngor a Chefnogaeth Sir Gaerfyrddin' ar gael i
helpu o ran rhoi gwybodaeth a chymorth i'r sawl y bydd y newidiadau'n effeithio arnynt. Mae Cyngor a Chefnogaeth Sir Gaerfyrddin yn cynnwys
mwy na 50 o sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pawb y mae angen cymorth arnynt yn cael y cymorth a'r cyngor mwyaf priodol sydd ar gael. Ewch i:
www.asccarmarthenshire Ffoniwch: 01267 234567 Anfonwch neges e-bost:
galw@sirgar.gov.uk. I gael rhagor o wybodaeth am y diwygiadau lles, ewch i:
www.dwp.gov.uk Y Dreth Ystafelloedd Gwely UN o'r prif newidiadau fydd cyflwyno'r hyn a elwir yn 'Dreth Ystafelloedd Gwely'. Gallai budd-daliadau tenantiaid cymdeithasau tai neu denantiaid y Cyngor sydd o oedran gwaith ac sy'n byw mewn cartref lle mae un neu ragor o ystafelloedd gwely 'sbâr' gael eu gostwng. Ar gyfer cartrefi lle mae un ystafell
Bydd Coleg Sir Gâr yn cynnal nosweithiau agored ar y dyddiadau canlynol yn y flwyddyn newydd: 22 Ionawr, 20 Mawrth ac 1 Gorffennaf 2013. Mae’r nosweithiau agored yn gyfle i siarad â’r staff addysgu a’r staff cymorth
am gyrsiau, cyfleoedd a dewisiadau gyrfaoedd. Maen nhw’n cael eu cynnal ar bob campws, gan gynnwys y Graig, Pibwr-lwyd, Rhydaman, Gelli Aur a Ffynnon Jôb o 5.30-8pm. Ffoniwch 01554 748179 neu anfonwch e-bost at
enquiries@colegsirgar.ac.uk
A WYDDECH
CHI? MAE nifer y dirwyon baw cŵn sydd wedi eu rhoi yn Sir Gaerfyrddin bum gwaith yn fwy o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Cafodd 103 o hysbysiadau cosbau penodedig eu rhoi gan swyddogion gorfodi materion amgylcheddol rhwng Ebrill a Thachwedd ond 18 yn unig a roddwyd y flwyddyn gynt. Hefyd mae nifer y dirwyon a roddwyd am sbwriela a throseddau eraill tebyg wedi codi o 56 i 203 yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl etholiadau Mai addawodd y Cyngor y byddai'n cymryd camau llymach o ran baw cŵn a sbwriela.
13
wely sbâr, bydd y budd-dal tai o leiaf 14 y cant yn llai o'r rhent wythnosol, ac ar gyfer cartrefi lle mae dwy neu ragor o ystafelloedd gwely sbâr, bydd o leiaf 25 y cant yn llai. Cynghorir tenantiaid y Cyngor i siarad â'u swyddog tai a chynghorir tenantiaid Cymdeithasau Tai i siarad â'u landlordiaid. Hefyd gellir cael cyngor gan dîm Budd- daliadau Tai y Cyngor drwy gysylltu â Galw Sir Gâr - ffoniwch 01267 234567, anfonwch neges destun at 07892 345 678, neu anfonwch neges
e-bost
galw@sirgar.gov.uk Newidiadau i Fudd-dal Treth y Cyngor MAE newidiadau'n cael eu gwneud i'r cynllun Budd-
daliadau Treth y Cyngor a fydd yn effeithio ar tua 19,000 o aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin. Ym mis Ebrill 2013 mae'r system bresennol yn cael ei
diddymu a'i chyfnewid am gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor lleol. Mae'r cam hwn yn cael ei gymryd gan y Llywodraeth genedlaethol yn San Steffan sy'n cwtogi ar y cyllid y bydd yn ei ddarparu. Golyga hyn, o fis Ebrill nesaf ymlaen, y bydd aelwydydd
sydd yn y gorffennol wedi cael 100 y cant o'r Budd-dal Treth y Cyngor yn gorfod talu o leiaf ran o'u bil. Hefyd bydd y rhai sydd ar hyn o bryd yn derbyn rhan o'r Budd- dal Treth y Cyngor yn gorfod talu rhagor. I gael rhagor o fanylion, ewch i
www.sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567.
at:
Y Cyngor yn ailosod yn gynt
Mae’r amser a gymerir i ail-osod tŷ cyngor gwag wedi gostwng o 42 diwrnod i 23 diwrnod. Mae timau yn yr adrannau
Gwasanaethau Tai ac Eiddo wedi ailwampio’r system yn dilyn adolygiad o’r broses. Y drefn o’r blaen oedd bod un set o allweddi yn cael ei dychwelyd gan denant ac yn cael ei rhoi yn syth i denant newydd. Erbyn hyn, bydd darpar denantiaid
yn medru gweld eiddo cyn gynted ag y bydd yn wag ac maen nhw’n cael cefnogaeth i wneud dewisiadau ynghylch addurno ac addasiadau cyn iddyn nhw symud i mewn. Byddan nhw hefyd yn cael cyngor ynghylch lles. Mae’n rhoi profiad gwell i denant ac
mae hefyd yn golygu nad yw’r Cyngor yn gwastraffu amser ac arian yn addurno’r tŷ, dim ond i denant symud i mewn ac ailaddurno wedyn i’w chwaeth nhw. O ganlyniad mae’r
amser a gymerir i ail-osod wedi gostwng yn sylweddol. Pum awr yn unig gymrodd yr un cyflymaf. Os bydd y patrwm hwn yn parhau gallai’r
Cyngor gael tua £400,000 yn
ychwanegol mewn rhent, a byddai’n defnyddio’r arian hwnnw i fuddsoddi mewn cartrefi a chymunedau.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22