2
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Croeso
CROESO i Newyddion Sir Gâr cyntaf 2013, gobeithio eich bod chi i gyd wedi cael cychwyn hapus ac iach i’r Flwyddyn Newydd. Fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda
rwy’n hynod falch o bob aelod o staff a’n gwirfoddolwyr a hoffwn ddiolch yn hwyr i bawb a weithiodd yr un mor galed ag erioed i ofalu am gleifion a’u teuluoedd dros y Nadolig. Mae eich ymrwymiad bob amser yn fy ysgogi i
Yn y rhifyn yma gallwch ddarllen am y gydnabyddiaeth genedlaethol mae
staff a thimau yn Sir Gaerfyrddin yn ei chael, y hynny’n glod haeddiannol iawn. Gallwch hefyd ddysgu sut i baratoi am 2013 iachach, ddi-fwg, a sut y gallwch helpu i leihau’r meddyginiaethau sy’n cael eu gwastraffu bob blwyddyn. Fel fferyllydd, mae hyn yn achos sy’n agos at fy nghalon. Tan i’r gwanwyn ddechrau ein twymo, cadwch yn gynnes ac iach,
Chris Martin Cadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Pluen yn ei chap
Mae myfyriwr Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Coleg Sir Gâr, wedi ennill y drydedd wobr mewn cystadleuaeth ryngwladol sy’n hyrwyddo addurniadau a wnaed â llaw. Enillodd Danielle Davies, myfyriwr
tecstilau ar gwrs gradd anrhydedd, y drydedd wobr yn y gystadleuaeth Gwobr Brodwaith Hand & Lock, sy’n agored i fyfyrwyr ledled y byd. Eleni, roedd y dylunydd ffasiwn a’r wraig wadd, Zandra Rhodes, yn un o feirniaid y gystadleuaeth. Ers cael y wobr, mae Danielle wedi
cael cynnig lle gyda chwmni gwneud hetiau Patey Hats, ac mae lluniau o’i gwaith wedi cael eu defnyddio gan y cwmni cynnyrch gwallt, Catwalk by TIGI. “Pan wnes
www.sirgar.gov.uk
i ddarllen brîff
Celebration, ces i fy nenu gan y teitl Faded Summers,” meddai Danielle. “Dyma fi’n dechrau cofio am rai o fy hafau llai confensiynol, yn teithio’r wlad yn mynd i sioeau ceffylau, a dyna sut ces i’r ysbrydoliaeth i roi cynnig ar y gystadleuaeth.” “Wedyn, fe wnes i ddechrau
www.sirgar.gov.uk www.colegsirgar.ac.uk
chwilio am hen luniau o deulu a ffrindiau ac roedd y roséts, oedd wedi cael eu gwneud o rubanau, yn
www.hywelddahb.wales.nhs.uk www.trinitysaintdavid.ac.uk
Symud Mincod
www.dyfed-powys.police.uk www.cavs.org.uk
Mae mincod du gwyllt wedi cael eu symud o Barc Arfordirol y Mileniwm. Roedd y mincod wedi bod yn dwyn
Hyderaf y bydd y ‘Newyddion Sir Gâr’ o ddiddordeb i chi. Os hoffech wneud sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar y cyhoeddiad cysylltwch â:
Cwsmeriaid a Pholisi Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP Rhif ffôn: 01267 224654 Ebost:
listeningtoyou@sirgar.gov.uk www.sirgar.gov.uk
Yn ogystal a wnewch chi roi gwybod i ni os ydych yn gwybod bod rhai strydoedd yn derbyn mwy nag un copi. Cedwir pob hawl i’r lluniau. Ni chaniateir atgynhyrchu’r un llun heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw.
cywion hwyaid ac elyrch o lynnoedd Dyfati a Thowyn Bach yn Llanelli. Heblaw hynny, roedden nhw’n bygwth rhaglen gadwraeth llygod y dŵr. Rhaglen gan Grŵp Gweithredu Llygod y Dŵr Llanelli ydy hon i warchod y creadur prin hwn yn Llanelli, lle mae nifer dda ohonyn nhw. Cafodd y rhaglen ei chymeradwyo
gan y Cyngor, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
Gwobr Brodwaith Hand & Lock 2012
thema ganolog yn y lluniau. Fe wnaethon nhw ddylanwadu ar fy mhenderfyniad i arbrofi gyda brodwaith rhubanau.” Mae dyluniadau Danielle yn cyfleu’r ysblander a oedd yn
gysylltiedig â pherfformiadau ffurfiol min nos mewn sioeau ceffylau. Maen nhw’n ategu’r gwisgoedd ffurfiol, trwsiadus ac yn cynnwys ychydig o naws gyfoes a benywaidd.”
Eisiau bod yn ddiffoddwr tân ar alwad?
DIFFODDWYR Tân Ar Alwad yn Eisiau Ar Hyd a Lled Sir Gaerfyrddin. Ar hyn o bryd, mae GTACGC yn
recriwtio diffoddwyr tân ar alwad ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin – felly, os credwch fod gennych y rhinweddau sydd eu hangen, yna beth am wneud cais? Mae swyddi gwag ar gael ar hyn o
bryd ym Mhont-iets, Rhydaman, Llandysul, Llanymddyfri, Llandeilo, Cydweli a Hendy-gwyn ar Daf, felly os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu i ddiogelu eich cymuned leol, yna dyma’r cyfle perffaith i chi! Trwy ddod yn ddiffoddwr tân ar
alwad, byddwch yn ymateb i argyfyngau yn eich ardal a byddwch yn gweithio
gyda’r gymuned i roi cyngor ar ddiogelwch. Dywedodd Pennaeth Ardal Reoli Sirol
Gaerfyrddin, Rob Quin: "Rydym yn holi aelodau o’r gymuned i weld a fyddent yn ystyried bod ar gael i ymateb i argyfyngau, yn enwedig yn ystod y dydd. "Byddwch yn derbyn yr holl
hyfforddiant a chymorth sydd angen i ymdrin â gwrthdrawiadau ar y ffordd ac i ddiffodd tanau. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.” Gall unrhyw un sydd â diddordeb
mewn bod yn ddiffoddwr tân ar alwad, yn enwedig yn ystod y dydd, ffonio tîm recriwtio GTACGC ar 01267 242636, i gael mwy o wybodaeth.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22