This page contains a Flash digital edition of a book.
18


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013


Ymuno i roi sylw i iechyd cymunedol gwledig


MAE Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dod at ei gilydd i sefydlu cadeirydd unigryw ac arloesol mewn iechyd gwledig. Mae rôl Darllenydd/Athro Cadeiriol


Hywel Dda mewn Iechyd Gwledig a Lles Cymunedol, y swydd gyntaf o'i bath yng Nghymru, yn cydnabod y cyfle unigryw sydd gan y GIG a’r prifysgolion lleol yng Ngorllewin Cymru i weithio mewn partneriaeth gan ailddiffinio sut y gall polisïau a gwasanaethau wella iechyd a lles y rheini sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Dim ond 13% o boblogaeth Cymru


sy’n byw yn ardal Hywel Dda ac, yn ogystal â phoblogaeth sy’n heneiddio a’r ffaith fod un o bob tri oedolyn yn


byw â chyflwr hirdymor, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn adnabod beth sydd ei angen ar ein cymunedau mwy gwledig er mwyn byw yn hirach ac yn fwy iach. Meddai Trevor


Purt,


Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Cydnabyddwn heriau unigryw ein hardal fawr wledig, ond yn hytrach nag ystyried bod hyn yn broblem, fe’i hystyriwn yn gyfle i ddatblygu ein ffordd o weithio mewn partneriaeth er mwyn bodloni anghenion iechyd penodol ein cymunedau gwledig. “Mae’r swydd hon yn ymwneud â


sicrhau bod ein gwasanaethau’n gweithio i’r bobl rydym yn eu gwasanaethu a bydd yn ein galluogi i gyflwyno math newydd o ddarpariaeth gofal iechyd mewn ardal wledig go iawn, gyda phobl go iawn, bob dydd."


Prif Ymgyrchoedd Diogelwch Ffyrdd


www.sirgar.gov.uk


Rhowch eich barn am daliadau


MAE Staff Diogelwch yn y Gymuned Ardal Reoli Sirol Gaerfyrddin yn gweithio gyda thîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Sir Gâr, i drosglwyddo negeseuon i ddefnyddwyr y ffordd. Bydd y tîm yn defnyddio baneri mawr i arddangos negeseuon diogelwch, mewn


ymgais i atgoffa defnyddwyr y ffyrdd am beryglon posib ac achosion damweiniau. Dywedodd y Rheolwr Gwylfa Sean Lloyd: “Trwy weithio gyda’r awdurdod lleol,


rydym yn anelu at roi neges diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd Sir Gaerfyrddin, er mwyn lleihau’r nifer o wrthdrawiadau ar y ffordd. Bydd y neges yn cael ei chylchdroi’n fisol, mewn ymgais i dargedu holl ddefnyddwyr ffyrdd y sir.” Lansiwyd y bartneriaeth yn ystod wythnos genedlaethol diogelwch ar y ffyrdd


ym mis Tachwedd, ac mae’r ymgyrchoedd misol y bwriedir eu cynnal fel a ganlyn:-


Mis Ionawr – Gyrru yn y Gaeaf Mis Chwefror – Tecstio a Gyrru Mis Mawrth – Gwregysau Diogelwch Mis Ebrill - Goryrru Mis Mai – Golwg Gyrwyr Mis Mehefin - Yfed / Gyrru


Ymunwch â'r ymgyrch Siarad Iechyd


MAE aelodau cynllun aelodaeth ac ymgysylltu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Siarad Iechyd | Talking Health yn annog pobl eraill i gymryd rhan. Lansiwyd y cynllun yn 2011, ac


mae aelodau’n derbyn cylchlythyrau a’r newyddion diweddaraf am wasanaethau. Fe’i gwahoddir hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiadau ac arolygon. Gallwch ymuno’n rhad ac am ddim


a chi sy’n dewis i ba raddau rydych yn cymryd rhan. I ymuno, ewch i www.siaradiechyd.wales.nhs.uk, ffoniwch 01554 779510 neu ysgrifennwch atom yn FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD. Ymunodd Albert Austin o


Bontyberem eleni ac mae’n annog pobl eraill i ymrestru heddiw. “Mae fy ngwraig a minnau wedi ymddeol ac mae cyflyrau iechyd


hirdymor gennym. Felly, fel cleifion, deallwn fod angen i’r cyhoedd a chleifion gael


y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd lleol. Mae’r


cynllun hwn yn ffordd wych o ddylanwadu ar y gwasanaeth iechyd mewn ffordd urddasol a chael gwybod y diweddaraf.”


Mis Gorffennaf - Blinder Mis Awst – Beicio Modur Mis Medi - Cyffuriau / Gyrru Mis Hydref – Ffonau Symudol Mis Tachwedd – Cynnal a Chadw’r Car Mis Rhagfyr - Yfed / Gyrru


Mae cyfle tan 10 Chwefror i chi fynegi barn am gyflwyno taliadau am wasanaethau cymdeithasol i oedolion heblaw gwasanaethau preswyl. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a yw


pobl yn credu ei fod yn deg bod y Cyngor yn codi


tâl am rai


gwasanaethau gofal nad ydyn nhw’n rhai preswyl e.e. cyflogaeth â chymorth, neu ofal dydd. Mae holiadur yr ymgynghoriad ar


gael ar-lein, yn ein canolfannau gwasanaethau


cwsmeriaid,


llyfrgelloedd, a thrwy’r post, dim ond i chi ofyn amdano. Os caiff unrhyw daliadau newydd eu


cyflwyno, ni fyddan nhw’n dechrau cyn mis Gorffennaf 2013. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.sirgar.gov.uk


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22