www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Hamdden yn Sir Gaerfyrddin Bwrlwm Twitter
Mae’r trydarwyr wedi bod yn llawn cyffro am y chwarter hamdden newydd ym Mhorth y Dwyrain, Llanelli ers i Odeon agor. Mae trydarwyr wedi bod wrthi’n lanlwytho lluniau a sylwadau am eu
profiadau yn Llanelli ar ei newydd wedd - gan gynnwys sêr lleol sydd wrth eu boddau â’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig. Yn eu plith roedd Dai Greene, yr athletwr Olympaidd, a fu’n trydaru
am y bwyty Nandos newydd: “Heard today that Llanelli is getting a Nandos. This is the BIG”. Roedd y seren opera a theledu Wynne Evans - sydd hefyd yn adnabyddus fel Gio Compario - wrth ei fodd â’r Ffwrnes. Yn ôl y Cynghorydd Meryl Gravell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio:
diwylliannol newydd ym Mhorth y Dwyrain. Rydyn ni wrth ein boddau fod pobl yn rhannu’r cyffro drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac yn helpu i greu’r bwrlwm oedd yn siŵr o ddod yn sgil y datblygiadau.” Ydych chi wedi bod ym Mhorth y Dwyrain? Rhowch wybod i ni drwy Twitter, gan anfon copi at @CarmsCCPress
Yn fwy egnïol yn amlach
Mae timau chwaraeon a hamdden rhanbarthol Sir Gâr yn parhau i annog mwy o bobl i wneud mwy o ymarfer corff, a hynny’n amlach. Mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous
yn cael eu trefnu yn ystod y misoedd nesaf, yn dilyn llwyddiannau haf chwaraeon 2012.
Ymhlith y
digwyddiadau yn 2012 roedd triathlonau, diwrnodau agored yn y canolfannau hamdden, diwrnodau hwyl i’r teulu, digwyddiadau’r fflam Olympaidd a diwrnodau golff agored. Trefnwyd y cyfan gan y timau rhanbarthol a daeth cannoedd o bobl iddyn nhw, a’r rheini’n awyddus iawn i wneud mwy o ymarfer corff. Erbyn hyn, mae dros 100 o staff
hamdden mewn saith lleoliad ledled Sir Gâr yn datblygu digwyddiadau arloesol a fydd yn etifeddiaeth yn eu cymunedau. Cafodd y timau ardal eu creu i annog pobl i fod yn fwy egnïol yn amlach yn Hendy-gwyn a’r gorllewin, Castellnewydd Emlyn a’r
Cynllun i gerddwyr
TOWNS in Carmarthenshire are invited to join Walkers are Welcome, a national scheme aimed at encouraging tourism. Llandeilo Town Council and the
Dinefwr Group of Ramblers are supporters of the scheme. Six conditions need to be met to gain WAW accreditation which are: local support, There are six conditions to be met
in order to gain full accreditation which includes local support. The benefits include increased tourism, and good conditions for footpaths and visitor facilities. For more information visit
www.Walkersarewelcome.org.uk or contact Geoffrey Williams in Llandeilo at
gdvaughan.will@virgin.net
gogledd, Caerfyrddin a rhan isaf Dyffryn Tywi, Cwm Gwendraeth, Llanelli, Dyffryn Aman, Llanymddyfri a Llandeilo.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Richard Stradling 01267 228393
Digwyddiadau'r Wythnos Blychau Nythu
15
“Mae miloedd wedi bod yn mwynhau’r profiad
Ar ddydd San Ffolant bydd yr Wythnos Blychau Nythu yn dechrau, ac mae gweithgareddau wedi’u trefnu yng Nghanolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru yn Llanelli. Ddydd Gwener 15 Chwefror, a dydd
Sadwrn 17 Chwefror, caiff plant gyfle i wneud eu blwch nythu eu hunain ar gyfer y robin goch neu’r titw tomos las a gallan nhw fynd â’r blwch adref. Byddan nhw’n cael cyngor arbenigol un-i-un i wneud blwch proffesiynol sy’n costio £5.00, a gallan nhw hefyd wneud hosan nythu am ddim. Bydd yno weithdai crefft hefyd i
wneud pethau i helpu adar yr ardd yn ystod y tymor magu, gan gynnwys cawod adar, hosan nythu, a theclyn bwydo adar. Ym mis Chwefror, bydd y gwyddau
nene wedi paru a byddan nhw’n adeiladu eu nythod ac yn dodwy. Mae cyfle hefyd i deuluoedd gael sesiwn gwylio adar, yn chwilio am adar gwyllt gyda sbienddrych a thelesgop gyda chymorth arweinydd. Bydd yno hefyd helfa greaduriaid bach a phryfetach. Ewch i:
wwt.org.uk neu ffoniwch 01554 741087
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau yn Sir Gâr
gweler
www.darganfodsirgar.com
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22