This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Cegin newydd i’r clwb cinio


Mae newyddion da wedi dod mewn tri chwrs ar gyfer aelodau Cymdeithas Gymunedol Eglwys Gymyn. Yn gyntaf, codwyd neuadd


gymunedol newydd gyda help y cyngor cymuned lleol.


Yna,


dechreuodd gwirfoddolwyr glwb cinio i bobl hŷn yn yr ardal - sydd wedi tyfu o tua 20 aelod yn 2007 i tua 70 heddiw. I goroni’r cyfan, maen nhw newydd gael grant o £6,700 i osod cegin newydd. Yn ôl Steve Millis, y Cadeirydd,


“Roedden ni angen cegin newydd i baratoi mwy o brydau ac i roi mwy o hyblygrwydd i ni. Gyda help swyddogion y Cyngor, fe wnaethon ni gais am grant o’r Gronfa Datblygu Gwledig. Cawsom dros £6,700, ac roedd y gymdeithas ei hun yn talu 20 y cant o’r gost. Mae’r gegin hefyd wedi bod yn gyfle i ni fod â dull amgenach o baratoi bwyd pe bydden


5


ni’n colli trydan a phe byddai argyfwng.” Yn ôl y Cynghorydd Jane Tremlett,


Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros iechyd a gofal cymdeithasol, “Dyma enghraifft wych o batrwm sy’n cael ei ailadrodd ledled Sir Gâr. Mae mwy a mwy o bobl erbyn hyn yn medru ymuno â chlybiau cinio, gan eu bod nhw’n cael eu rhedeg yn annibynnol heb y meini prawf cymhwysedd yr


Erthygl Hysbysebu Helpu’r lluoedd arfog


oedd yn rhaid i’r Cyngor eu gosod.” Mae Cynllun Datblygu Gwledig


Cymru 2007 - 2013 yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Chyngor Sir Caerfyrddin. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch


01269 590216. I gawl manylion y clwb cinio ffoniwch 01834 831138.


Dysgu bod yn ddiogel


Mae nifer o sefydliadau Sir Gâr yn cydweithio i helpu aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Ar 24 Ionawr, byddan nhw’n llofnodi Cyfamod Cymunedol yn gwneud ymrwymiad i gefnogi’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy’n gwasanaethu, eu teuluoedd a chyn-filwyr. Nod y Cyfamod Cymunedol yw:


• Annog cymunedau i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd,ac i’r gwrthwyneb;


• Hybu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o broblemau sy’n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog;


• Cydnabod a chofio’r aberth a wneir gan Gymuned y Lluoedd Arfog;


• Annog gweithgareddau sy’n helpu i integreiddio Cymuned y Lluoedd Arfog yn y gymuned leol. Caiff grwpiau ac unigolion sy’n credu y gallan nhw helpu lofnodi’r


Cyfamod yn y digwyddiad sy’n cael ei gynnal yn theatr newydd y Ffwrnes yn Llanelli o 12.30 ymlaen.


Mae cynllun ymarferol sy’n hyfforddi plant i fod yn gerddwyr diogel yn dathlu 10 mlynedd o hyfforddi plant bach Sir Gâr. Caiff ‘Kerbcraft’ ei gyflwyno mewn


ysgolion gan rieni sydd wedi cael hyfforddiant, ac mae cydlynydd hyfforddiant plant yn cadw llygad barcut ar y cyfan. Mae pob ysgol eisiau cymryd rhan


ond does dim digon o rieni sy’n fodlon gwirfoddoli. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Keith Griffiths, rheolwr diogelwch ffyrdd y sir ar 01267-228284. Mae miloedd o blant Sir Gâr wedi


cael budd o’r hyfforddiant hwn ac wedi dod yn gerddwyr mwy diogel. Mae plant rhwng pump a saith oed


yn cael help i adnabod peryglon ar y ffordd ac i wybod lle i groesi’n ddiogel. Maen nhw’n cael eu dysgu sut i ddefnyddio strategaeth ddiogel i groesi gerllaw ceir sydd wedi parcio ac maen nhw hefyd yn cael eu


cyflwyno i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth. Mae Kerbcraft yn gwneud plant yn


fwy ymwybodol o’r peryglon ac yn gwella’u sgiliau arsylwi wrth groesi’r ffordd gydag oedolyn. Mae’n rhoi sgiliau diogelwch y ffordd iddyn nhw


i baratoi ar gyfer teithio’n annibynnol yn y dyfodol. Mae Kerbcraft yn cael ei ariannu


gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi nodau’r Cyngor o wella diogelwch y ffyrdd ar gyfer plant.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22