This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013


Tad o Lanelli yn elwa ar gymorth gan Genesis


Mae tad sengl o Lanelli ar drywydd gyrfa lwyddiannus mewn mecaneg, diolch i gefnogaeth Genesis. Roedd Mark Reynolds, sy’n dad i ddau o blant, wedi bod heb waith am ddwy flynedd. Roedd e wedi colli hyder a doedd ganddo neb i ofalu am y plant, ac roedd pethau’n edrych yn ddu arno. Ond cafodd Mark ei gyflwyno i Genesis, a wnaeth ei helpu i ariannu gofal plant a rhoi cyngor ac arweiniad iddo, gan roi cyfle iddo gwblhau Diploma lefel un mewn Cynnal a Chadw Cerbydau yng Ngholeg Sir Gâr. Erbyn hyn, mae’n astudio am lefel dau a’r nod yw dod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn y dyfodol agos. Yn


ôl Carole Walters, Ymgynghorydd Genesis: “Roedd gan


17


Larymau a allai eich diogelu


YR adeg hon o’r flwyddyn mae gwres canolog, stofiau llosgi pren a thanau agored mewn defnydd cyson. O ganlyniad, mae GTACGC yn


annog y cyhoedd i gofio am beryglon carbon monocsid (CO) ac i sicrhau bod larymau CO wedi eu gosod yn eu cartrefi. Caiff CO ei ryddhau o gyfarpar sy’n llosgi tanwydd sy’n seiliedig ar garbon, yn cynnwys olew, nwy, pren a glo. Bydd angen i chi sicrhau bod eich larwm yn cydymffurfio â BS EN 5029, ei fod yn arddangos marc cymeradwyaeth Prydeinig neu Ewropeaidd a’i fod wedi ei


leoli


Mark ffocws a dyfalbarhad o’r dechrau’n deg, ac mae dod yn ei flaen yn dda o ran cyrraedd ei nod.” Prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yw Genesis, ac mae wedi’i leoli yng Nghyngor Sir Caerfyrddin. Ei nod


yw gwella bywyd i deuluoedd, naill ai am eu bod yn ddi-waith, yn economaidd anweithgar neu ar incwm isel. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01554 744340.


a’i brofi’n unol â


Cymorth busnes Elevate Cymru


Cyfleoedd Gwirioneddol, Pobl Go Iawn, Swyddi Go Iawn Oes busnes gennych chi yn Sir Gâr?


Am gyngor a gwybodaeth ynghylch pa gymorth ymarferol ac ariannol sydd ar gael i’ch busnes drwy gyflogi rhywun sydd ag anabledd.


Ffair Gwybodaeth i Gyflogwyr Cyfleoedd Gwirioneddol Sir Gar


Dydd Llun, Chwefror 25, 9.30am – 2.45pm Parc y Scarlets, Llanelli


Rhaid archebu lle – am fwy o wybodaeth cysylltwch a 01267 246676


YN ddiweddar daeth 30 o fusnesau at ei gilydd ar gyfer lansiad Elevate Cymru a drefnwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanarthne, Caerfyrddin. Mae Elevate Cymru yn rhan o'r


rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith, a ariennir gan Gronfa Gydgyfeirio Gymdeithasol


Ewrop, drwy


Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith a ariennir yn llawn i fusnesau lleol sy'n annog cynaliadwyedd ac yn y dyfodol twf. Dywedodd Rhianon Washington, Tiwtor Arweiniol ar gyfer Elevate


Cymru: "Mae hwn yn gyfle gwych i gyflogwyr lleol gael mynediad i ddatblygiad busnes wedi ei ariannu yn llawn, sy'n canolbwyntio ar eu staff ac sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol i'r gweithle. Gall unigolion symud ymlaen wedyn at gymhwyster llawn o Dystysgrif Addysg Uwch (lefel 4) i gymhwyster ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol (lefel 7). " Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer eich busnes, cysylltwch â elevatecymru@tsd.ac.uk neu ffoniwch y Swyddog Prosiect, Catrin Evans, ar 01267 676811.


chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr. Er mwyn rhwystro CO rhag gollwng,


mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw waith yn cael ei wneud gan beiriannydd nwy diogel cofrestredig, a bod eich cyfarpar a’ch ffliwiau’n cael eu profi’n rheolaidd. Mae gan landlordiaid ddyletswydd gyfreithiol i gynnal archwiliadau diogelwch nwy ac i gynnal a chadw cyfarpar nwy yn flynyddol. Bydd angen i chi sicrhau hefyd bod digon o aer yn llifo o amgylch eich cyfarpar a’ch bod yn cael person cymwys i lanhau eich simnai unwaith y flwyddyn.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22