This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk HYSBYSIADAU CYHOEDDUS


Adeilad y Goron Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ


wales@pins.gsi.gov.uk DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981


GORCHYMYN ADDASU MAP DIFFINIOL (CILFFORDD SYDD AR AGOR I UNRHYW DRAFFIG 39/5 – LLANWRDA) SIR CAERFYRDDIN 2011


Yn unol â pharagraff 8 (2) Atodlen 15 y Ddeddf, hysbysir drwy hyn fod yr Arolygydd a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar y Gorchymyn, yn cynnig addasu’r Gorchymyn fel a ganlyn;


(i) yn y rhagymadrodd i’r Gorchymyn, llinell 6 ar ôl “(3) (c) (ii)” ychwanegu “ac Adran 53 (3) (c) (iii)”;


(ii) yn y rhagymadrodd, llinell 8 ar ôl “disgrifiad” ychwanegu “ac nad oes unrhyw hawl tramwy cyhoeddus dros y tir a ddangosir yn y map a’r datganiad fel priffordd o unrhyw ddisgrifiad.”;


(iii)Addasu Rhan I yr Atodlen i ddarllen RHAN I ADDASU MAP DIFFINIOL DISGRIFIAD O’R LLWYBR NEU’R FFORDD I’W ISRADDIO


Israddio pob rhan o’r Gilffordd sydd ar agor i Unrhyw Draffig (BOAT) 39/5 – O’r A482 (pwynt A ar y Cynllun), tua’r dwyrain drwy Felin Bishop (pwynt B) ac ar draws Afon Dulais drwy bont droed bren 1 metr o led (pwynt C), yna drwy giât i gerddwyr (pwynt G), yna tua’r gogledd-orllewin ar hyd Afon Dulais at bwynt G1 ar y cynllun (SN 712 322). O bwynt D1 (SN 712 323) tua’r gogledd-orllewin ar hyd Afon Dulais drwy ardal o dir pori a phrysgwydd (pwynt D) cyn mynd drwy giât cae (pwynt I) yn arwain at Goetre (pwynt E) ac yna, ar hyd trac mynediad i gerbydau (pwyntiau E-K- L-M-N-O) i ymuno â ffordd wledig yr C2159 rhwng Tŷ Draw a Pandy (pwynt F) o statws cilffordd sydd ar agor i unrhyw draffig i statws llwybr troed.


Hyd: 280 metr Led: Heb ei ddiffinio DISGRIFIAD O’R LLWYBR NEU’R FFORDD I’W DDILEU


Y rhan o’r Gilffordd sydd ar agor i Unrhyw Draffig 39/5 rhwng SN 712 322 a SN 712 323 a gafodd ei golchi ymaith gan Afon Dulais.


(iv) Addasu Rhan II yr Atodlen i ddarllen: RHAN II ADDASU DATGANIAD DIFFINIOL AMRYWIO MANYLION LLWYBR NEU FFORDD Diwygio’r Datganiad Diffiniol ar gyfer Cilffordd sydd ar agor i Unrhyw Draffig 39/5 i ddarllen fel a ganlyn:


“Llwybr troed 39/5 – O’r A482 rhwng Danycoed a Felin Bishop, i’r dwyrain drwy Felin Bishop, dros bont droed bren yn croesi Afon Dulais, yna drwy giât i gerddwyr yna tua’r gogledd-orllewin ar hyd Afon Dulais at SN 712 322 (SN 711 321 to SN 712 322).”


“O SN 712 323 tua chyfeiriad y gogledd-orllewin drwy dir pori a phrysgwydd yn dilyn Afon Dulais cyn troi i’r gogledd i ffwrdd o’r afon a thrwy giât cae at Goetre cyn parhau ar lwybr ochr yn ochr ag Afon Dulais at ffordd wledig y C2159 rhwng Tŷ Draw a Pandy (SN 712 323 to SN 708 327).”


Lled Pwynt A i E – 1.4 metr (yn unol â’r llinellau ar Fap Arolwg Ordnans Cyfres Sirol 1906) Pwynt E i K – 2.9 metr (yn unol â map AO 1906) Pwynt K i L – 3 metr (yn unol map A0 1906) Pwynt L i M – 2.8 metr (wedi’i fesur rhwng y clawdd a glan yr afon) Pwynt M i N – 3.8 metr (lled wedi’i fesur rhwng ffiniau’r clawdd) Pwynt N i O – 2.7 metr (lled wedi’i fesur rhwng ffiniau’r clawdd) Pwynt O i F – 3.6 metr (lled wedi’i fesur rhwng ffiniau) (v) yng nghynllun y Gorchymyn, ychwanegu’r pwyntiau G, G1, D1, I, K, L, M, N ac O.


Rhoddwyd copi o’r Gorchymyn, fel y’i cyflwynwyd, a chopi o’r Gorchymyn yn dangos yr addasiadau arfaethedig ynghyd â llythyr yr Arolygydd dyddiedig 4 Rhagfyr 2012 ar adnau yn Swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Ganolfan Adnoddau Busnes, Parc Amanwy, Heol Newydd, Rhydaman, a gellir eu harchwilio yno yn rhad ac am ddim yn ystod oriau gwaith arferol.


Gellir anfon unrhyw sylw neu wrthwynebiad mewn perthynas â’r addasiadau arfaethedig yn ysgrifenedig i’r Arolygiaeth Gynllunio, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, yn dyfynnu cyfeirnod 515584 heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn. Dylech esbonio sail eich sylw neu wrthwynebiad a dangos p’un a ydych am gael y cyfle i gael eich clywed gan unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru mewn ymchwiliad cyhoeddus pellach. Sylwer y gallai unrhyw un o’r sylwadau neu’r gwrthwynebiadau hyn fod ar gael i bartïon â buddiant edrych arnynt yn Swyddfeydd y Cyngor ar gais.


Helen May Awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru


CYFLWYNWYD YR HYSBYSIAD AR 14/01/2013


Cyfeirnod Awdurdod Lleol RW2/45/CJF HYSBYSIAD YNGHYLCH CADARNHAU GORCHYMYN Deddf Priffyrdd 1980 GORCHYMYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (LLWYBR TROED 45/19 BRYN, LLANSADWRN) DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS 2006


Ar 14eg Ionawr 2013, cafodd y Gorchymyn uchod a wnaed o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ei gadarnhau Cyngor Sir Caerfyrddin.


Effaith y Gorchymyn, fel y’i cadarnhawyd, yw dargyfeirio’r llwybr troed 45/19 trwy Bryn,Llansadwrn, fel y dangosir ar fap y gorchymyn.


H Mae copi o’r Gorchymyn, fel y’i cadarnhawyd, a map y gorchymyn wedi eu rhoi yn yr Uned Adloniant Cefn Gwlad, Parc Coetir Mynydd Mawr, Y Tymbl, Llanelli, a gellir eu harchwilio yn ddi-dâl rhwng 9:00 a.m. a 4:30 p.m. o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o’r Gorchymyn a’r Map yno am dâl o 50c. Gallwch gael copïau post am £5.00.


Gall unrhyw un sy’n dymuno hawlio digollediad o dan Adran 28 (fel y’i cymhwyswyd gan Adran 121 (2)) o Ddeddf 1980 am golli gwerth neu iawndal am aflonyddwch a achosir trwy fod y Gorchymyn wedi dod i rym, ysgrifennu at Mr Ian Jones, Pennaeth Hamdden a Chwaraeon, Canolfan Adnoddau Busnes, Parc Amanwy, Heol Newydd, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3EP a chyflwyno’r hawliad trwy ei ddosbarthu neu ei anfon trwy ddefnyddio post rhagdaledig i’r cyfeiriad hwnnw erbyn 30fed Mehefin 2013, fan hwyraf.


Daw’r Gorchymyn i rym ar 21ain Ionawr 2013, ond gall unrhyw un a dramgwyddir gan y Gorchymyn ac sy’n dymuno cwestiynu ei ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn, am nad yw o fewn y pwerau a roddwyd gan Ddeddf Priffyrdd 1980, fel y’i newidiwyd, neu am na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion yn y Ddeddf, fel y’i newidiwyd, neu unrhyw reoliad a wnaed yn unol â hi mewn perthynas â’r Gorchymyn, wneud cais i’r Uchel Lys o dan Baragraff 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, fel y’i cymhwyswyd gan Baragraff 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf, o fewn 6 wythnos i’r 14eg Ionawr 2013, neud cais i’r Uwch Llys.


Cyfeirnod Awdurdod Lleol RW2/54/CJF HYSBYSIAD GWNEUD GORCHYMYN Deddf Priffyrdd 1980 “GORCHYMYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (LLWYBRAU TROED 54/2 & 54/3 – GLASALLT, LLANGADOG) DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS 2012”


Bydd y Gorchymyn uchod, a wnaed ar y 6ed Rhagfyr 2012, o dan Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980, yn dargyfeirio’r rhan o llwybrau troed 54/2 a 54/3 trwy Glasallt, Llangadog, fel y dangosir ar fap y Gorchymyn.


Gellir darllen copi o'r Gorchymyn a'r Map yn ddi-dâl yn Isadran Hamdden, Uned Adloniant Cefn Gwlad, Parc Coetir Mynydd Mawr, Y Tumbl, Llanelli, rhwng 9.00 y.b. a 4.30 y.h. dydd Llun i ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r Gorchymyn a'r Map yno am dâl o 50c. Gallwch gael copïau post am £5.00.


Mae iawndal am ostyngiad mewn gwerth neu am aflonyddwch a achoswyd trwy fod y Gorchymyn wedi dod i rym yn daladwy o dan Adran 28 (yn unol ag Adran 121 (2)) o Deddf Priffyrdd 1980.


Dylid anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau ynghylch y Gorchymyn yn ysgrifenedig at Mr. Ian Jones, Pennaeth Hamdden, Adran Adfwyio a Hamdden, Busnes, Parc Amanwy, Heol Newydd, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3EP gan ddyfynnu'r cyfeirnod uchod erbyn 28ain Chwefror 2013 fan hwyraf, gan nodi ar ba sail y'u gwneir.


Os na dderbynnir unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os byddant yn cael eu tynnu'n ôl, gall Cyngor Sir Caerfyrddin gadarnhau'r Gorchymyn fel Gorchymyn diwrthwynebiad. Os caiff y Gorchymyn ei anfon at Llywodraeth Gymraeg i'w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed ac sydd heb gael eu tynnu'n ôl yn cael eu hanfon gydag ef.


Llofnodwyd: Dyddiedig: 14eg Ionawr 2013


Mr Ian Jones Pennaeth Hamdden & Sbort Adran Adfwyio a Hamdden, Parc Coetir Mynydd Mawr Heol Hirwaun Olau Y Tumbl, Llanelli. SA14 6HU


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013


21


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22