This page contains a Flash digital edition of a book.
8


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013


Angen i’r Cyngor arbed £15miliwn


Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin arbed o leiaf £15 miliwn ar ei gyllideb yn y tair blynedd nesaf. Mae pob pwyllgor craffu yn edrych


yn fanwl ar eu cyllidebau i geisio gweld ble allan nhw arbed arian. Does dim modd ei dynnu o ysgolion, gan fod y rheini’n cael eu diogelu, nac o ofal cymdeithasol, lle mae mwy o alw o hyd. Mae Cynghorwyr yn edrych a ellir


gwneud pethau mewn ffordd wahanol er mwyn arbed arian, neu drwy weithio mwy mewn partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned, a grwpiau gwirfoddol. Maen nhw’n ymgynghori gyda’r


undebau llafur a’r cyhoedd drwy grwpiau ffocws. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei roi gerbron y Bwrdd Gweithredol ar 4 Chwefror, ac yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor i bennu’r gyllideb ar 26 Chwefror. Caiff y Dreth Gyngor ei phennu ar 6 Mawrth.


Daw’r arbedion o ddau faes - rheoli a


pholisi. Mae’r cynigion rheoli gan swyddogion yn ddulliau o arbed arian na fydd yn debygol o effeithio’n sylweddol ar lefel gwasanaethau, er y gallen nhw effeithio ar ansawdd y gwasanaethau hynny.


Mae


penderfyniadau polisi yn cael eu gwneud gan gynghorwyr ac yn effeithio’n uniongyrchol ar ddarparu gwasanaethau. Yn ôl Roger Jones, y Cyfarwyddwr


Adnoddau: “Er gwaethaf y cynnydd cyfyngedig yn y cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru, mae effaith chwyddiant


a phwysau yn wynebu ar


wasanaethau yn golygu fod yr awdurdod


penderfyniadau mawr yn y dyfodol. O gofio’r gostyngiadau yn y gyllideb sy’n parhau i wynebu llywodraeth leol, mae gwaith mawr yn parhau i fynd ymlaen i weld lle gellir bod yn fwy darbodus a symleiddio gwasanaethau”


rhai


Dim ond un adduned Flwyddyn Newydd y bydd Kalumn Evans, sy’n 21 oed, yn ei gwneud, sef ailddechrau gweithio. Kalumn fyddai’r cyntaf i gyfaddef nad yw wedi cael y dechrau gorau yn ei fywyd. Cafodd blentyndod ddigon


cythryblus ac ar ôl tua 10 oed cafodd ei roi mewn sawl cartref maeth. Yn 2008, cafodd ei roi mewn lleoliad mwy sefydlog yn ei filltir sgwâr yn Llanelli, lle cafodd gyfle i newid ei fywyd a bod â ffiniau mwy pendant. Wedi hynny, dechreuodd leoliad gwaith gyda’r parcmyn ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli. Dros 13 mis, bu’n


gwneud tasgau a oedd yn amrywio o gynnal a chadw tir i batrolio’r traethau, casglu sbwriel, palmantu, ffensio a thasgau eraill i gadw’r atyniad yn daclus. Yn ôl Rory Dickinson, rheolwr y Parc, roedd Kalumn yn brydlon, yn ddibynadwy, yn frwdfrydig ac yn gwbl effeithlon


ac roedd yn haeddu cyfle i gael gwaith amser llawn. Gallwch gysylltu â Kalumn drwy’r gwasanaeth parcmyn ar 01554 774444.


www.sirgar.gov.uk A allai Kalumn weithio i chi?


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22