This page contains a Flash digital edition of a book.
10


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Partneriaeth Diogelwch Cymunedol


Mae perchenogion tai ledled y Sir wedi cael eu targedu gan fasnachwyr twyllodrus yn cynnig peintio’u tai, a gwneud gwaith cynnal a chadw fel glanhau cafnau, cwympo a thocio coed. Maen nhw wedi twyllo ambell un i dalu symiau sylweddol iddyn nhw. Erbyn hyn, mae cyfanswm o 35


Parthau Dim Galw Heb Wahoddiad wedi’u creu yn Sir Gâr, ac mae’r un ddiweddaraf ym Mryn Illtud/Bryn y Môr, Porth Tywyn. Mae ardaloedd eraill ar y gweill mewn mannau gwledig a threfol. Yn ôl y Cynghorydd Pam Palmer, yr


Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol:


“Mae


diogelu trigolion rhag masnachwyr diwahoddiad a thwyll yn flaenoriaeth uchel i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. “Mae’r Parthau Dim Galw Heb


Wahoddiad yn rhoi diogelwch i drigolion drwy ei gwneud yn drosedd i


fasnachwyr alw heibio heb wahoddiad o fewn yr ardaloedd hynny.” Bydd masnachwyr twyllodrus yn aml


yn cynnig gwneud gwasanaeth am bris cystadleuol a rhoi pwysau ar bobl i’w hannog i wneud penderfyniad ar frys. Yn aml iawn, does dim angen gwneud y gwaith, mae o safon wael, yn ddrutach na’r dyfynbris gwreiddiol, neu ddim yn cael ei wneud o gwbl. Gwyliwch rhag cael eich twyllo. Os


bydd rhywun yn galw heibio peidiwch â chytuno i waith ar y tŷ yn y fan a’r lle, na llofnodi dim byd. Gwyliwch rhag cynigion arbennig neu rybuddion nad yw’ch tŷ yn ddiogel. Peidiwch â gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle - cymrwch eich amser i siarad â rhywun cyn gwneud penderfyniad. Ffoniwch Linell Gymorth Cyngor ar Bopeth ar 08454 040506 neu ewch i www.adviceguide.org.uk


Mae’r rhyngrwyd yn rhan bwysig o fywyd pob dydd llawer ohonon ni - mae pawb, o’r hen i’r ifanc, wedi cofleidio’r dechnoleg. Mae wedi chwyldroi’r ffordd rydyn cael


ni’n gwasanaethau


www.sirgar.gov.uk


Carmarthenshire Community Safety Partnership ˆ


Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gar


Masnachwyr twyllodrus Twyll dros y Rhyngrwyd - gofal piau hi a


gwybodaeth heb orfod gadael ein cartrefi - ond mae hefyd wedi’i gwneud yn haws i droseddwyr gael gafael ar ein manylion personol. Bu cynnydd o dros gant y cant yn


y mathau hyn o droseddau yn ardal Heddlu Dyfed Powys yn ystod 2011- 12, a thybir bod 40 y cant o’r dioddefwyr wedi colli arian. Mae rhai pethau y gallwch ei


wneud rhag i chi ddioddef troseddau rhyngrwyd. Gofalwch rhag pobl sy’n cysylltu â


chi ar y we yn honni bod problem gyda’ch cyfrifiadur/ rhyngrwyd neu’n dweud eich bod chi wedi ennill arian. Os nad oeddech chi’n disgwyl yr alwad, peidiwch fyth â dechrau sgwrs gyda nhw, rhoi


manylion personol iddyn nhw nag anfon arian atyn nhw. Peidiwch fyth â logio ar eich


cyfrifiadur pan fydd rhywun wedi cysylltu â chi yn honni fod feirws ar eich cyfrifiadur - efallai y bydd twyllwyr yn ceisio cyfathrebu drwy e-bost neu ffenestri ‘pop up’ ar eich sgrin. Efallai y cewch chi negeseuon amheus gan bobl sy’n honni eu bod yn heddlu neu’n gweithio i sefydliad


cyfreithiol yn honni cyfrifiadur wedi


fod eich defnyddio


gwefannau anghyfreithlon a bod angen i chi dalu ffi i’w ryddhau - peidiwch ag anfon arian na rhoi manylion unrhyw gardiau talu. Feirws yw hwn. Gofynnwch i dechnegwyr TG cymwys edrych ar eich cyfrifiadur i gael gwared â’r feirws.


Ymweliadau gorsaf heddlu symudol Pryder cyflymder


BYDD preswylwyr sydd eisiau siarad â’u swyddogion heddlu lleol nawr yn medru gwneud hynny tra byddant yn siopa wrth i’r Orsaf Heddlu Symudol ymweld yn rheolaidd â chanol y dref. Bydd yr orsaf wedi’i pharcio ger


siop Wilkinsons ym mhrif faes parcio’r dref. Bydd yn cael ei gweithredu gan Swyddog Cefnogi


Cymunedol yr Heddlu a fydd yn medru cynorthwyo ag ymholiadau desg flaen. Ym mis Ionawr, bydd yr orsaf yn


bresennol yn y maes parcio bob dydd Mawrth rhwng 10am a 2pm a phob dydd Gwener rhwng 2pm a 6pm. I gael rhagor o fanylion edrychwch


ar www.dyfed-powys.police.uk neu ffoniwch 101.


Yn ogystal â’r gwasanaethau a


ddarperir yn yr Orsaf Heddlu Symudol, gall y cyhoedd hefyd ymweld â Phwynt Gwybodaeth yr Heddlu yn Neuadd y Dref, Rhydaman,


lle y gall Staff


Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin gynorthwyo ag ymholiadau sy’n ymwneud â’r heddlu.


Un o bryderon pennaf trigolion yw goryrru. Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi bod yn edrych sut y gall yr asiantaethau sy’n bartneriaid iddi, fel y Cyngor Sir a’r Heddlu, wella hyder pobl leol am y ffordd yr eir i’r afael â throseddu ac anrhefn. Yn ôl yr arolwg Panel Dinasyddion ym mis Medi 2012, gwelwyd fod y nifer


fwyaf o’r rhai sydd wedi dioddef troseddu neu anrhefn yn aml, sef 36 y cant, yn dweud mai goryrru yw eu blaenoriaeth, a bod ganddyn nhw bryderon am blant yn cael eu bwrw i lawr gan geir. Cyfeiriodd nifer hefyd at yrwyr peryglus. Mewn ymateb i arolwg cynharach, cafodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr ynnau camera cyflymder ychwanegol ar gyfer y Grŵp Gweithredu ar Ddiogelwch Ffyrdd. Mae’r gynnau hyn eisoes wedi cael eu defnyddio yn Llanelli, Porth Tywyn, Rhydaman, a Chaerfyrddin.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22