14
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Ymgynghorydd ailgylchu ar grwydr
Cyn bo hir bydd ymgynghorydd ailgylchu cymunedol newydd yn dechrau ar ei rawd ar strydoedd y sir i gefnogi trigolion ac i helpu Sir Gâr ailgylchu mwy. Bydd Geinor Lewis yn ymweld â
chartrefi ledled y sir i gynnig cyngor ynghylch y cynllun ailgylchu sbwriel mewn bagiau bin/glas. Bydd yn rhoi sylw i ardaloedd lle
nad oes llawer o ailgylchu a bydd yn mynd o ddrws i ddrws i geisio annog pobl i ailgylchu. Hefyd, bydd Geinor yn cario
cyflenwad o finiau bwyd newydd a bagiau glas ychwanegol ar ei fan yn ogystal â llyfrau gwybodaeth a chalendrau yn dangos y dyddiau casglu. Mae’r gwaith monitro eisoes ar y
gweill, ac un o’r ardaloedd cyntaf y bydd Geinor yn ymweld â nhw
fydd wardiau Llwynhendy a Thŷ- isha yn Llanelli. Yn ôl Geinor: “Dw i’n edrych at weithio
ymlaen gyda
chymunedau i’w helpu i ailgylchu mwy o’u sbwriel. Drwy siarad â thrigolion galla i ddatrys unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw, o rywbeth syml fel bod dim bin bwyd gyda nhw i ddim yn gwybod pryd mae eu diwrnod casglu, neu esbonio sut mae’r cynllun yn gweithio a pham ei bod yn bwysig fod pawb yn cymryd rhan.” Mae’r Cyngor wedi cael arian o
Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru, ar gyfer y swydd newydd. Mae’n rhan o brosiect Effeithiolrwydd
Deunyddiau De-orllewin Cymru gyda Chyngor Sir Penfro. Nod y prosiect yw sicrhau bod
cyn lleied o wastraff â phosibl yn mynd i safle tirlenwi drwy annog pobl i ailddefnyddio ac ailgylchu. Yn ôl y Cynghorydd Colin Evans,
yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Stryd: “Rydyn ni am ei wneud cyn hawsed â phosibl i bobl ailgylchu a bydd ein
cynghorydd ailgylchu
cymunedol yn ein helpu ni wneud hynny. Mae Geinor yn bwysig iawn i’r tîm
a bydd yn ein helpu ni gyrraedd ein targed drwy gael mwy o bobl i ailgylchu ar fin y ffordd.” Rhaid i’r Cyngor gyrraedd cyfradd
ailgylchu o 52% erbyn diwedd 2012/13 a fydd yn cynyddu i 70% erbyn 2025. Gallai methu â gwneud hynny olygu cosbau ariannol mawr. I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu ewch i
www.sirgar.gov.uk/recycling, dilynwch ni ar Twitter @carmsccpress neu hoffwch ni ar Facebook.
Byddwch yn bositif - ailgylchwch eich batris
Mae ysgolion Sir Gâr yn gwneud peth positif ac yn ailgylchu hen fatris. Mae blychau i ddal y batris yn cael eu rhoi i bob ysgol gynradd ac uwchradd fel y gall y staff, y rhieni a’r disgyblion ailgylchu hen fatris. Yn ôl y ffigurau, mae llai na phump y
cant o holl fatris domestig y Deyrnas Unedig yn cael eu hailgylchu. Mae llawer ohonyn nhw’n cael eu taflu i safleoedd sbwriel lle gallan nhw ollwng cemegau niweidiol i’r pridd. Dyna pam ei bod hi’n bwysig ein
bod ni’n ailgylchu ein batris ac mae uned gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor yn
cydweithio Envirosolutions i
gyda DHL gynnig
y
gwasanaeth casglu i ysgolion ac i gynyddu nifer y mannau casglu batris yn y Sir. Yn ôl Tina Brice, y swyddog
ymwybyddiaeth cynaliadwyedd a gwastraff: “Mae llawer o’r eitemau rydyn ni’n eu defnyddio gartref yn rhedeg ar fatris, felly mae'n bwysig eu bod nhw’n cael eu hailgylchu. Yn
ôl Caroline Huntley, Cydgysylltydd Eco-Sgolion: “Mae’r
www.sirgar.gov.uk
Oes angen cymorth i ailgylchu arnoch chi?
Ydych chi’n 50 oed a throsodd ac eisiau help i ailgylchu yn eich cartref, neu’n gwybod am rywun a allai fod angen help llaw? Os felly, cysylltwch â ni. Mae’r Cyngor yn
cydweithredu ag Age Cymru Sir Gâr a Menter Cwm Gwendraeth i helpu pobl 50 oed a throsodd i ailgylchu. Bydd gwirfoddolwyr yn ymweld â’ch
cartref i roi cefnogaeth a chymorth i chi; helpu i wahanu’ch sbwriel, esbonio beth all fynd i’r bagiau glas a mynd â gwydr i’r banc ailgylchu. Yn ôl y Cynghorydd Colin Evans, Aelod o’r
Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Stryd: “Yn ogystal â bod yn wyneb cyfeillgar, mae’r gwirfoddolwyr hyn yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr, ac ar yr un pryd yn ein helpu ni ailgylchu mwy a lleihau’r sbwriel sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.” I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Ann Dymock yn Age Cymru Sir Gâr ar 01554 784080 neu Paul Thomas ym Menter Cwm Gwendraeth ar 01269 871600. Hoffem glywed oddi wrthych hefyd os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli.
Disgyblion Ysgol Gynradd Cefneithin Beca Davies, Katelin Brettle, Erin Walters a Owen Walters yn defnyadio’r blwch i ddal y batris
banc wedi bod gyda ni ers rhyw fis a bu’n rhaid i ni ei wacáu yr wythnos diwethaf am ei fod mor llawn. Roedd gyda ni ychydig o hen fatris yma yn yr ysgol ac mae rhieni wedi bod yn dod â batris i ni i’w hailgylchu. Mae’r cynllun yn llwyddiant.” Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o
siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu batris finiau casglu yn eu siopau ar gyfer hen fatris. Hefyd, mae’r Cyngor wedi creu mannau casglu batris yn ei ganolfannau
gwasanaethau cwsmeriaid. Hefyd, gallwch fynd â’ch batris i’ch canolfan ailgylchu gwastraff agosaf. Dim ond batris AA, AAA, C&D,
gliniaduron, batris ffonau symudol a batris botwm a dderbynnir yn y banciau batris. I weld ble mae’ch banc ailgylchu
batris agosaf ewch i http://banklocator.wasteawareness
wales.org.uk/search Gallwch hefyd chwilio am eich banc ailgylchu agosaf ar gyfer pethau eraill hefyd.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22