This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


Rhwydwaith trefnwyr gwirfoddol


NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Salwch chwydu’r gaeaf


Ysgol newydd eco-gyfeillgar


Caiff Rhwydwaith Trefnwyr Gwirfoddol Sir Gâr ei arwain gan Ganolfan Wirfoddoli CAVS, rhan o Gymdeithas


Gwirfoddol Sir Gâr. Mae’n gyfle i bobl


sy’n gweithio Gwasanaethau gyda


gwirfoddolwyr ddod i drafod syniadau a rhannu profiadau, a chael gwybodaeth am broblemau gyda gwirfoddoli. Mae croeso i bob sefydliad sy’n gyfrifol am reoli neu drefnu gwirfoddolwyr ac sy’n cofrestru gyda’r Ganolfan. I ymuno, cysylltwch â CAVS ar 01267 245555 neu ewch i www.cavs.org.uk


MAE ysbytai ledled y DU wedi’u taro gan salwch chwydu’r gaeaf ac mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn parhau i ofyn i’r cyhoedd aros o leiaf 48 awr ar ôl i’w symptomau orffen cyn mynd i unrhyw gyfleuster gofal neu gartref gofal. Er eu bod yn annymunol, prin iawn y mae dolur rhydd a chwydu yn ddifrifol ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n llawn o fewn diwrnod neu ddau. Ond gall y feirws fod yn fwy difrifol i gleifion sâl ac sy’n agored i niwed. Os oes symptomau gennych mae’n bwysig golchi dwylo’n drwyadl ar ôl mynd i’r tŷ bach a chyn trin bwyd er mwyn rhwystro’r salwch rhag cael ei basio i bobl eraill. Does dim triniaeth benodol a’r cyngor cyffredinol yw yfed llawer o ddŵr a gorffwys. Mae cyngor am gadwch hun a phobl eraill yn iach dros y gaeaf ar gael yn www.galwiechydcymru.wales.nhs.uk


A hoffe chi enwebu rhywun sydd yn gweithio i Cyngor Sir Gâr i dderbyn cydnabyddiaeth yn ein gwobrau Gloyw blynyddol?


Bydd staff Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n barod i fynd cam ymhellach a disgleirio yn cael eu dathlu y gwanwyn yma gyda seremoni ‘gwobrau gloyw’.


Mae’r cyngor wedi cyflawni llwyddiant sylweddol wrth gyflenwi gwasanaethau ardderchog. Mae ystod eang o wobrau oddi wrth gyrff allanol wedi cydnabod ein llwyddiant. Mae’r cyflawniadau hyn o ganlyniad i ymdrech ar y cyd i raddau helaeth, sy’n mynnu bod pob aelod o staff, ym mha swydd bynnag ac am ba mor hir bynnag y maen nhw wedi gweithio i’r Cyngor, yn gwneud eu gorau ddydd ar ôl dydd. Ymrwymiad a gwaith caled yr arwyr hyn nas canmolir yn aml sydd wedi galluogi’r Cyngor i gael ei ddangos fel model o arfer gorau ar sawl achlysur.


Eleni bydd un o’r gwobrau yn cael ei dewis o blith yr enwebiadau a roddir gan ddarllenwyr Newyddion Sir Gâr. Gofynnir i’r darllenwyr lenwi’r ffurflen ganlynol a rhoi gwybod i ni am unigolion neu grp o staff sydd wedi gwella’n sylweddol neu ddarparu gwasanaeth rhagorol i chi neu’ch cymuned drwy weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin.


Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r Adain Gyfathrebu,


Sir Gâr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP


Dyddiad cau - 1 Mawrth 2013


FFURFLEN ENWEBU Enwau'r sawl sy'n enwebu


................................................................................ Rhif Ffôn a eich cyfeiriad


................................................................................ ................................................................................ ................................................................................


Enw'r unigolion sy'n cael eu henwebu ................................................................................


Manylion cyswllt (os ydych yn gwybod hyn) ................................................................................


Y rheswm pam mae'r unigolyn hwn yn haeddu gwobr


................................................................................ ................................................................................ ................................................................................ ................................................................................ ................................................................................


7


Mae gwaith wedi dechrau ar ysgol newydd gwerth £14.6 miliwn yn Ffwrnes yn Llanelli. Erbyn gwanwyn 2015, gobeithir y


bydd y contractwyr lleol WRW wedi gorffen adeiladu’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, a fydd â dau ddosbarth ac uned feithrin. Bydd yr ysgol newydd yn un o’r


adeiladau mwyaf ecogyfeillgar yn Sir Gâr, oherwydd bydd yn ddi-garbon a bydd wedi cael sgôr ‘rhagorol’ o dan BREEAM. Rhai o’i nodweddion fydd y gallu i


gynaeafu dŵr glaw, to gwyrdd, ynni haul, paneli thermol ac insiwleiddiad. Caiff yr ysgol ei chodi ar ddau lefel,


a bydd coridorau yn cysylltu â man canol. Y tu allan bydd terasau ar y to, ierdydd, gerddi, a mannau chwarae ffurfiol ac anffurfiol. Bydd yno hefyd ddau gwrt gemau a chae artiffisial.


Bydd lle i 420 o blant yn yr ysgol, ac


mae’n cael ei hadeiladu o dan Raglen Moderneiddio Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin. Cafodd y cynllun ei ariannu gan grant o £10.22 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £4.38 miliwn o raglen gyfalaf y Cyngor. Yn ôl y Cynghorydd Keith Davies,


yr aelod o’r bwrdd gweithredol dros addysg: “Cafodd Ysgol Ffwrnes ei hadeiladu yng nghyfnod Fictoria, ac nid yw bellach yn addas ar gyfer anghenion y cwricwlwm modern. Mae galw am fwy o le o hyd, ac mae angen i’r ysgol gael lle a chyfleusterau sy’n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. “Bydd yr adeilad newydd yn rhoi i’n


plant yr amgylchedd dysgu y maen nhw’n ei haeddu. Dwi hefyd yn falch iawn y bydd hwn yn un o’r adeiladau mwyaf ecogyfeillgar yn Sir Gâr.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22