6
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013
Gwobrwyo ffilm
Mae myfyrwyr y celfyddydau perfformio yng Ngholeg Sir Gâr wedi perfformio mewn ffilm fer ar BBC Cymru a enillodd wobr y Ffilm Orau a’r Cyfarwyddwr Gorau mewn premiére yng Nghaerdydd. Mae Buddha Boy, a gynhyrchwyd
gan It’s My Shout, cynllun hyfforddiant sy’n cefnogi talentau newydd yn y diwydiannau creadigol wedi lansio gyrfaoedd awduron, actorion a chyfarwyddwyr.
“Cynhyrchiad
proffesiynol mawr yw hwn sy’n cael ei gefnogi gan actorion enwog,” meddai Michael Hackfort, darlithydd yn y celfyddydau perfformio. “Rydyn ni’n cymryd rhan yn y cynllun hwn bob blwyddyn gan ei fod yn rhoi profiadau i’n myfyrwyr sy’n mynd tu hwnt i berfformio ar lwyfan” “Mae’r profiad yn cael ei gynnig i bob
myfyriwr yn y diwydiannau creadigol, mae’n gyfle iddyn nhw ddod i arfer â gwaith camera ac yn rhoi cipolwg proffesiynol iddyn nhw ar gynhyrchu rhaglenni teledu.”
Byddwch yn gymydog da
YN ddiweddar, lansiodd Adran Lleihau Risg yn y Gymuned, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymgyrch newydd o’r
enw
“Byddwch Yn Gymydog Da”. Lluniwyd yr ymgyrch i annog
trigolion yn Sir Gaerfyrddin i gadw llygad ar eu cymdogion a’u perthnasau oedrannus, agored i niwed ac anabl. Mae’r Gwasanaeth yn annog pawb i fod yn gymdogion da ac i ofalu eu bod yn gwneud eu rhan i’w cadw nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau’n ddiogel rhag tân. Dywedodd Rheolwr Diogelwch yn
y Gymuned Sir Gaerfyrddin, John Jones: “Y bobl rydym ni eisiau eu targedu yw trigolion mwyaf agored i niwed ein cymunedau, megis trigolion oedrannus, pobl anabl a phobl sy’n byw ar eu pennau hunain. Dyma’r bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef tân yn y cartref, i gael eu hanafu neu i farw hyd yn oed mewn tân. Fel aelod o’r gymuned, gallech
chi ein helpu i adnabod y bobl yma. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn gofyn i unrhyw un a allai elwa o archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref, yn eich tyb chi, i gysylltu â ni neu i geisio eu caniatâd i roi eu manylion cyswllt i ni.” Bydd y broses yn cynnwys
archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref, ynghyd â chyflenwi a gosod larymau mwg, ble bod eu hangen. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i bawb. Ymwelwch â
http://www.mawwfire.gov.uk/, i gael archwiliad diogelwch rhag tân yn y cartref am ddim.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, medrwch gysylltu â Beverley Davies, sy’n gyfrifol am yr ymgyrch, ar 0370 60 60 699 or 2253 neu e-bostiwch:
bj.davies@mawwfire.gov.uk
www.sirgar.gov.uk
Cwrs Dyniaethau newydd Ewch nôl mewn amser
MAE cymhwyster prifysgol unigryw yn lansio ym mis Chwefror. Bydd y Dystysgrif mewn Addysg Uwch Porth i'r Dyniaethau yn cynnig ffordd
newydd i astudio ystod eang o bynciau a'r cyfle i symud ymlaen at Ddiploma mewn Addysg Uwch neu radd. Mae Porth y Dyniaethau wedi ei anelu at y rheiny sydd wedi bod allan o addysg ers peth amser ac efallai nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau blaenorol yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am waith ac yn awyddus i gael sgiliau a chymhwyster newydd. Cwrs dau ddiwrnod yr wythnos rhwng 10am a 3pm yw hwn gydag unedau
byr, asesu trwy aseiniadau a dim arholiadau. Nid oes dim ffioedd ymlaen llaw ac mae bwrsariaethau gwerth £ 1,000 ar gael. I gael gwybodaeth ewch i
www.ydds.ac.uk
Byw yn ddi-fwg
MAE Diwrnod Dim Smygu ar 13 Mawrth 2013 – ond mae’n fwy nag un diwrnod yn unig. Os ydych chi am fyw yn ddi-fwg yn
2013 gallwch gael gwybod am yr help sydd ar gael i’ch paratoi i roi’r gorau iddi yn
www.dimsmygucymru.com neu drwy ffonio 0800 085 2219 am ddim.
Ewch yn ôl mewn amser yn Rheilffordd Gwili, Bronwydd, a dewch i fwynhau digwyddiadau gydol y flwyddyn. Maen nhw’n cynnwys cinio dydd Sul ar drên stêm, a dathliadau ar Sul y Mamau a’r Tadau. Mae’r nosweithiau Jazz a
Dirgelwch yn boblogaidd iawn a bydd angen bwcio’n fuan. Cewch hefyd de prynhawn, diwrnod o’r 1940au, partïon Nadolig, hurio’r trên ar gyfer digwyddiadau corfforaethol/preifat a hyd yn oed cyfle i yrru’r trên. Mae digwyddiadau arbennig fel ymweliadau gan Tomos y Tanc a Siôn Corn ar gael drwy’r flwyddyn. Ewch i
www.gwili.railway.co.uk
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22