16
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013
Celf newydd yn y pencadlys tân
Mae gwaith celf newydd yn cael ei arddangos yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn sgil cydweithrediad y Gwasanaeth ag adran gerflunio Coleg Sir Gâr yn yr Ysgol Gelf Greadigol. Roedd y Gwasanaeth am roi hwb
esthetig i’r ganolfan gynadledda, ac ar ôl cael cynigion gan fyfyrwyr, dewisodd y beirniaid eu hoff ddyluniad - amrywiad modern ar logo corfforaethol y Gwasanaeth. Yn ôl Kat Cox, y bydd ei gwaith yn
cael ei arddangos yn ffreutur y Pencadlys: “Mae’r broses gyfan wedi bod yn brofiad gwych, ac roedd yn braf iawn bod y panel, ar ôl iddyn nhw glywed awgrymiadau pawb, wedi penderfynu dewis tri artist yn lle un, gan fod yr hyn welson nhw wedi gwneud y fath argraff arnyn nhw.”
www.sirgar.gov.uk
Astudio perfformio a dawnsio gyda Choleg Sir Gâr
Mae astudio am Ddiploma Estynedig yn y Celfyddydau Perfformio yn
golygu bod
myfyrwyr yn archwilio pob agwedd ar berfformio, o actio clasurol a chyfoes, i ddyfeisio, symud, theatr gorfforol a llais. Caiff myfyrwyr eu hannog i astudio
am gymwysterau ychwanegol mewn dawns a theatr gerdd. Fel rhan o’r cwrs, caiff y myfyrwyr hefyd gyfle i weithio gyda chwmnïau proffesiynol gan gynnwys cynllun Gwnaed yng Nghymru, It’s My Shout, y BBC. Mae hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fod yn rhan o gyfres o ffilmiau byrion sy’n cael eu darlledu gan y BBC.
Mae’r cwrs galwedigaethol hwn yn un ymarferol iawn ac yn rhoi ystod eang o brofiadau i fyfyrwyr. Dawns: Coleg Sir Gâr yw’r unig
goleg lleol sy’n cynnig cwrs hyfforddi galwedigaethol amser llawn mewn dawns. Caiff y myfyrwyr gyfle i ddatblygu eu techneg mewn amryw o genres dawns am hyd at 22 awr yr wythnos gan astudio dawns gyfoes, balé, jazz a mathau masnachol ar ddawns. Hefyd, caiff y myfyrwyr eu hannog i goreograffio’u darnau eu hunain, a mynychu gweithdai a pherfformiadau dan arweiniad gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Lluniwyd y cwrs i baratoi
Gyrrwch â gofal y gaeaf hwn
Cymorth ymarferol gan CAVS
Prosiect yw Cymunedau Mentrus sy’n rhoi cymorth ymarferol i sefydliadau yn y trydydd sector i’w helpu i ddod yn fwy cynaliadwy, denu incwm newydd a gwneud cais llwyddiannus
i ddarparu
gwasanaethau. Mae modd cael gwybodaeth am
gyllid, rheoli sefydliadau, datblygu gwirfoddolwyr a chynaliadwyedd ariannol. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch
Matthew Lawlor ar 01267 245555 neu anfonwch
e-bost at
matthew.lawlor@
cavs.org.uk Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan y
Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ERDF) a’i
Gweithredu Gwirfoddol Cymru reoli gan Gyngor
www.darganfodcaerfyrddin.co.uk
Mae GTACGC yn cynnig y 3 chyngor gorau canlynol ar yrru’n ofalus y gaeaf hwn: • Gwiriwch eich teiars yn rheolaidd. Rydym yn argymell dyfnder o 3mm o leiaf ar gyfer amodau gyrru yn y gaeaf.
• Cadwch eich sgrin wynt yn glir ac ychwanegwch hylif golchi’r sgrin at eich potel olchi yn rheolaidd. Cadwch y ffenestri a’r drychau’n glir o anwedd ac iâ ac eira.
• Gyrrwch yn ofalus mewn amodau rhewllyd. Peidiwch â brecio’n galed na chyflymu a llywio’n rhy gyflym, ac yn bwysicaf oll cofiwch eich bod yn arafu eich cyflymder.
Eich Marchnad Leol Calon eich tref
Your Local Market The heart of your town
Dewch i ddysgu'r cyfan am eich Marchnad Dan Do a'r hyn sydd ganddi i'w gynnig, ewch i wefan
Yn y llun mae Annie Morris (left), perchennog y caffi, a Karen Nugent
Mae Karen Nugent o Gaerfyrddin, wedi cael swydd barhaol yng Nghaffi Annie yn Sanclêr gyda chymorth prosiect Gweithffyrdd y De-orllewin. Mae prosiect Gweithffyrdd yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n rhwystro pobl rhag
cael gwaith. Mae’r prosiect yn darparu cymorth gyda chwilio am waith, CVs, ffurflenni cais, sgiliau cyfweld a mynediad at hyfforddiant. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan eu paru gyda busnesau lleol, gan eu helpu i gael
y profiad hollbwysig sydd ei angen i gael gwaith amser llawn. Caiff y prosiect ei gefnogi gan £12.6 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Yn ôl Karen: “Helpodd prosiect Gweithffyrdd fi i ledu fy ngorwelion ynghylch yr hyn roeddwn i’n gallu ei wneud. Fyddwn i ddim wedi cael gwaith hebddyn nhw.” Ewch i
www.workways.co.uk neu ffoniwch 01554 744322.
dawnswyr ar gyfer addysg uwch a hyfforddiant i safon alwedigaethol.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01554 748118 neu
enquiries@colegsirgar.ac.uk
Gweithffyrdd yn helpu Annie
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22