This page contains a Flash digital edition of a book.
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013


Argraffwyd Newyddion Sir Gâr ar bapur ailgylchus


Newyddion Sir Gâr Codi'r llen ar y Ffwrnes


Cymorth


diwygiadau treth


Tud 13


Aelodaeth Ffitrwydd am £1 y dydd


Tud 19 Swyddi


Un Sir Gâr Tud 22


Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Gâr Carmarthenshire Local Service Board


CWMNI drama amatur lleol fu'r cyntaf i berfformio yn theatr newydd y Sir, a gostiodd £15.2 miliwn i'w chodi. Bu i'r 'Friendship Theatre Group'


agor y sioe yn y Ffwrnes, sef un o'r datblygiadau y mae'r cyffro mwyaf wedi bod yn ei gylch yng nghanol tref Llanelli ar ei newydd wedd. Saif adeilad modern y Ffwrnes, sy'n theatr ac yn ganolfan gelfyddydau rhanbarthol, yn ymyl datblygiad newydd Porth y Dwyrain, mewn man amlwg yng nghanol chwarter diwylliannol adfywiedig y dref. Mae'r theatr yn gyfuniad o'r hen a'r


newydd - ceir awditoriwm trawiadol (sydd â lle i hyd at 500 o bobl) mewn adeilad cyfoes a godwyd o'r newydd. Mae'r awditoriwm wedi'i ddylunio mewn modd y gellir ei addasu ar gyfer amrywiaeth o berfformiadau, digwyddiadau, a chynadleddau, ac mae yno stiwdio ychwanegol a swyddfa docynnau, caffi, a bar modern. Cysylltir y theatr â Stiwdio Stepni, sef theatr lai sydd â lle i hyd at 100 o bobl ac sydd wedi'i lleoli yn adeiladau rhestredig gradd II hen Gapel Seion a'r hen Ysgoldy, a adnewyddwyd er mwyn gweddu i'r Ffwrnes. Yn y cyfarfod lansio dywedodd y Cynghorydd


Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor: “Mae rhan o'r


IECHYD: Gall pobl arbed £2.7 miliwn y flwyddyn i'r bwrdd iechyd drwy leihau eu gwastraff meddyginiaethol. Tudalen 3


HEDDLU: Annog ffermwyr i rannu gwybodaeth er mwyn mynd i'r afael â throseddu amaethyddol. Tudalen 20


ROEDD ofalwyr ifanc ymhlith y gwesteion yn nigwyddiad lansio'r Ffwrnes ar Ionawr 4. Roeddynt yno gyda gweithwyr cymorth o Barnardos Cymru, ac fe'u gwelir yn y llun y tu allan i ffasâd trawiadol y theatr.


capel yn 100 oed eleni - roedd gan ein cyndeidiau weledigaeth a phe bydden nhw'n gallu gweld beth rydym ni wedi'i gyflawni heddiw bydden nhw'n dweud bod gennym ni weledigaeth hefyd." Mae'r Ffwrnes wedi cael cyllid gan


Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Arian Cyfatebol a Dargedir drwy Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Hwn yw un o'r prosiectau


diweddaraf i'w gwblhau fel rhan o'r cynllun £60 miliwn i adfywio canol tref Llanelli. Buddsoddwyd £25 miliwn yn natblygiad Porth y Dwyrain, ac mae sinema'r Odeon ac


COLEG SIR GAR: Cyrsiau dawns a'r celfyddydau perfformiadol yn cael lle amlwg yn y coleg. Tudalen 16


CYNGOR: Gwaith yn dechrau ar ysgol newydd eco-gydnaws yn Llanelli fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Tudalen 7


Y DRINDOD DEWI SANT: Darpar fyfyrwyr yn cael cynnig rhagflas o gampws Llanbedr Pont Steffan fel rhan o ddiwrnod agored y Brifysgol. Tudalen 4


amryw o fwytai i'r teulu wedi agor yno eisoes, ynghyd â Llyfrgell Llanelli lle gwariwyd £3.5 miliwn ar ei adnewyddu. Eto i ddod y mae cynllun adfywio Plas Llanelly (£6 miliwn) a chynllun gwella strydoedd


(£10.5 miliwn), a fydd yn uno'r pum prosiect â'i gilydd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.discoverllanelli.co.uk.


TÂN:Mae'r gwasanaeth yn annog pobl i fod yn 'Gymdogion Da' fel rhan o ymgyrch newydd. Tudalen 6


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20  |  Page 21  |  Page 22