20
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013
Cyfle i ffermwyr gael gwybodaeth am droseddau amaeth
MAE ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i ymuno â chynllun rhannu gwybodaeth sy’n cael ei gynnal gan Heddlu Dyfed- Powys er mwyn helpu i’w hatal rhag
dioddef trosedd
amaethyddol. Mae Gwarchod Ffermydd yn rhan
o’r Cynllun Gwarchod Ar-lein a sefydlwyd gan yr heddlu. Mae’r cynllun yn caniatáu i negeseuon cael eu trosglwyddo i bobl sydd wedi cofrestru â’r cynllun. “Fel rhan o’r cynllun Gwarchod
Ffermydd, ymgysylltir â ffermwyr yn y gymuned leol drwy e-bost neu neges destun. Anfonir gwybodaeth atynt rydym yn teimlo y mae angen iddynt wybod,” meddai PCSO Martin Dickenson. “Er enghraifft, os ydym yn gweld sawl achos o ladradau disel neu olew, neu ladradau metel sgrap sydd yn targedu’r gymuned amaethyddol yn
benodol, medrwn rannu’r
wybodaeth hon yn gyflym â’r rhai rydym yn teimlo sydd angen gwybod. “Mae’r Cyswllt Gwarchod Ar-lein
yn ein galluogi i anfon y negeseuon drwy ddwy ffordd. Os oes gennym neges wybodaeth, gallwn ei hanfon drwy e-bost. Rydym yn deall nad yw ffermwyr yn gwirio’u negeseuon e- bost ar sail reolaidd ond nid yw neges wybodaeth yn fater brys.
Ymgyrch Cychwyn Callio
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ymgyrch fewnol newydd, Cychwyn Callio, i leihau ei ôl troed carbon. Bydd yr ymgyrch gynaliadwyedd yn targedu staff swyddfa a bydd yn canolbwyntio ar
dri maes – ynni, gwastraff a thrafnidiaeth. Ei nod yw hybu newidiadau yn y gweithle a fydd yn arwain ar arbed ynni, llai o wastraff a llai o deithio. Yn ôl Chris Burns, y Prif Weithredwr Cynorthwyol: “Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig
rydyn ni wedi llwyddo i gwtogi 17 y cant ar yr ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio, 9 y cant ar ein milltiroedd busnes ac 11 y cant ar filltiroedd ein fflyd, gan arbed bron bum tunnell o CO2 a £450,000. “Rwy’n gwybod fod nifer o staff eisoes
yn cymryd rhan drwy ailgylchu gwastraff, diffodd eu cyfrifiaduron a’u sgriniau, a beicio i’r gwaith. Mae hyn yn wych, ac mae angen i ni wneud mwy i helpu i leihau ein hôl troed carbon - mae newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.”
Rhaglen Brifysgol
Mae myfyriwr galwedigaethol wedi cael gwobr o Brifysgol Abertawe, gan mai ef oedd y myfyriwr a sgoriodd uchaf ar raglen gyfrifiadureg y Brifysgol yn ystod yr haf. Cymrodd Tee-Jay Dack, myfyriwr diploma estynedig mewn TG, ran yn
seremoni raddio rhaglen haf y Brifysgol lle cafodd £50, tystysgrif a thlws. Yn draddodiadol, astudiaeth Lefel A yw’r llwybr arferol i Brifysgol, ond mae astudiaeth alwedigaethol yn cael ei defnyddio fwy a mwy fel llwybr at addysg uwch mewn pynciau penodol.
LLONGYFARCHIADAU i Tracey Davies, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Hyfywedd Meinwe yn Ysbyty Glangwili, ar ennill Gwobr Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yng Ngwobrau cyntaf Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru. Enillodd Tracey am gynorthwyo clinigau a arweinir gan nyrsys, gan eu helpu i sicrhau gwasanaeth effeithiol a
rhestrau aros byr, a defnyddio peiriannau pwysedd negatif yn effeithiol er mwyn trin clwyfau cymhleth. Mynegodd Caroline Oakley, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ei llongyfarchiadau:
"Rwy’n falch iawn o waith ac ymrwymiad Tracey sydd yn sicr yn gwella profiad cleifion ac yn ysgogi’r bobl hynny o’i chwmpas.”
Mae’r negeseuon hyn ar gyfer cofnodion yn unig. “Os oes gennym rif ffôn symudol,
medrwn anfon negeseuon pwysig a brys a allai ymwneud â rhywbeth sydd wedi digwydd yn ddiweddar neu rywbeth parhaus yr ydym yn ceisio cymorth yn ei gylch drwy neges destun, er enghraifft rhifau cofrestru cerbydau neu ddisgrifiadau o bobl.” Am fanylion pellach galwch 101.
Diffoddwyr tân yn codi arian i blant mewn angen
CODODD diffoddwyr tân o Orsaf Dân y Tymbl £3,000 i Blant mewn Angen. Fe wnaeth dau beiriant tân wau eu
ffordd trwy strydoedd y Tymbl, Llannon, Cross Hands, Gors-las a Dre-fach i gasglu’r
rhoddion.
Dywedodd y Rheolwr Gwylfa, Nigel James: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr achos arbennig hwn. Mae £3,000 yn swm ffantastig ac mae haelioni’r cyhoedd i’r achos ardderchog hwn bob amser yn fy synnu.”
Gwobr i weithiwr cymorth gofal iechyd
www.sirgar.gov.uk AM Y WYBODAETH DDIWEDDARAF
YNGHYLCH UNRHYW DARFIADAU O RAN Y TYWYDD Y GAEAF HWN
Hoffwch Cyngor Sir Gar ar Facebook
Dilyn y Cyngor at Twitter @carmsccpress
Ymwelwch a
www.sirgar.gov.uk
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22