4
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Diwrnod agored campws Llambed
BYDD campws Llambed yn agored i ddarpar fyfyrwyr, eu teuluoedd a'u cyfeillion, ar 2 Chwefror 2013. Ar y penwythnos canlynol, bydd campws Caerfyrddin yn agor ei drysau ar 9 Chwefror 2013. Bydd teithiau o amgylch ystafelloedd
darlithio a chyfleusterau, a bydd cyfle i gwrdd â myfyrwyr a darlithwyr, a mynychu cyflwyniadau ar ystod eang o gyrsiau a gwybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr. Mae prosiectau cyffrous ar y gweill ar
draws y ddau gampws i greu cyfleusterau, adeiladau a'r amgylchedd orau ar gyfer ein myfyrwyr presennol ac yn y dyfodol. Bu llawer o waith ar gampws
Llambed gydag adnewyddu Neuadd y Celfyddydau, Neuadd Chwaraeon a'r Llyfrgell yn ogystal â'r Adeilad Gwasanaethau Myfyrwyr newydd sy’n nodwedd drawiadol, newydd ar y campws. Mae’r Adeilad Caergaint newydd yn cynnig cyfleusterau
Sialens ôl troed carbon
pwrpasol ar gyfer yr holl wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, ynghyd â man cyfarfod a mynediad diwifr i wasanaethau ar-lein. Yn y cyfamser, mae’r gwaith o greu
Canolfan Dysgu ac Addysgu ar gampws Caerfyrddin yn mynd rhagddo a bydd yr adeilad newydd yn cynnig cyfoeth o adnoddau yn ogystal â phrofiad i’r myfyrwyr. Bydd y cyfleusterau modern 2,500 m2 yn
cynnwys nifer o fannau addysgu hyblyg a gynlluniwyd i wella profiad y myfyrwyr. Mae llety preswyl ar y campws hefyd wedi cael eu huwchraddio gyda ffenestri newydd a ffasadau allanol. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch â thîm Dydd Agored ar
dyddagored@ydds.ac.uk neu ffoniwch 01570 424891 neu 01570424855.
Mynd y tu hwnt i’r arfer
www.sirgar.gov.uk
Rhaglen iechyd yn mynd o nerth i nerth
Mae rhaglen Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru, Get Into Health, yn parhau i fynd o nerth i nerth. Dechreuodd Bwrdd Iechyd Hywel
Dda weithio gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru yn gynnar yn 2011 ac ers hynny mae wedi cyflawni pum rhaglen hynod lwyddiannus gyda bron 100 o bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae Prif Weithredwr Bwrdd
Iechyd Hywel Dda, Trevor Purt, yn annog unrhyw un â diddordeb mewn dysgu rhagor am y cannoedd o
yrfaoedd gwahanol sydd ar gael yn y GIG i wneud cais: “Ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda rydym am i bawb sy’n cymryd rhan mewn Get Into Health adael gan wybod nid yn unig eu bod wedi gwella’u hyder a’u CVs, ond eu bod yn credu yn eu galluoedd, a byddant yn aelodau staff gwerthfawr iawn, pe gewn ni’r fraint o’u croesawu’n ôl yn y dyfodol.” Os ydych chi rhwng 18-25 oed ac nad ydych mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant ar hyn o bryd, mae manylion cyrsiau nesaf Get Into ar
www.princes-trust.org.uk
Dathlu Gŵyl Ffolant
Mae staff a myfyrwyr campws Pibwr-lwyd, Coleg Sir Gâr, wedi trefnu digwyddiad arbennig ar 5 Chwefror i ddathlu gŵyl ffolant. Maen nhw wedi trefnu Ffolant Prydferth, sef massage i’r corff cyfan, gyda the camomeil a ffrwythau ffres i ddadwenwyno’r corff. “Dim ond £7 yw e,” meddai
Jemma Parsons,
Mae myfyrwyr diploma Technoleg Gwybodaeth Coleg Sir Gâr wedi ymuno â mesurydd ôl troed carbon Prifysgol Stanford i weld a yw eu hôl troed carbon yn taro deuddeg. Mae’r gweithgaredd yn rhan o
brosiect byd eang ym Mhrifysgol Stanford yn UDA, ac mae’n rhan o fodiwl Bagloriaeth Cymru mewn cynaliadwyedd. Dyma’r coleg cyntaf yng Nghymru a’r DU i ymateb i’r her.
darlithydd therapi harddwch, “ac mae’n anrheg dda i rywun arbennig. Byddai’n wych i rywun sydd eisiau ymlacio’u corff a’u meddwl i gael gwared â thensiwn sy’n gysylltiedig â straen.” Cynhelir y digwyddiad Ffolant Prydferth yng nghampws Pibwrlwyd rhwng 5-8pm. I gadw lle neu i wneud ymholiadau am driniaethau neu ddigwyddiadau eraill fel Spring into Spring, ffoniwch 01554 748068 neu
jemma.parsons@
colegsirgar.ac.uk
LLONGYFARCHIADAU i Grŵp Cymorth Clefyd Niwronau Motor (“MND”) Sir Gaerfyrddin sydd wedi ennill gwobr arobryn ‘Extra Mile Award’ Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor sy’n cydnabod eu hymrwymiad parhaus i roi gofal o ansawdd i bobl sy’n byw ag MND. Cafodd y tîm ei enwebu gan John Prosser, Cadeirydd Cymdeithas Clefyd
Niwronau Motor yn Ne Orllewin Cymru, a threfnydd y digwyddiad: "Fel cyn- ofalwyr i’m wraig a bu farw o MND yn 2009 yn dilyn brwydr 18 mis â’r clefyd, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig gwobrwyo’r bobl hynny sy’n gwneud pob ymdrech i gefnogi’r bobl hynny sydd wedi’u heffeithio gan y clefyd ofnadwy hwn.”
Prosiect Dreigiau Ifanc
MAE GTACGC wedi ymgymryd â rôl weithgar, ochr yn ochr â mudiadau ieuenctid mewn lifrai eraill yn Sir Gaerfyrddin, i godi proffil y prosiect Dreigiau Ifanc. Mae’r prosiect yn anelu at gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc i gyfranogi mewn
gweithgareddau strwythuredig, sydd o fudd i gymunedau lleol ac sy’n golygu cydweithio, fel y gallant rannu gwybodaeth ac adnoddau’n fwy effeithiol.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22