www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GAR • RHIFYN 11 IONAWR - CHWEFROR 2013 Tudalen y Plant Gwyliwch rhag masnachwyr twyllodrus Cystadleuaeth
DAU set o docynnau teuluol i ‘Play King’ yn
Llanelli yn cael eu cynnig i enillwyr cystadleuaeth lliwio yn y rhifyn yma.
Lliwiwch y llun a anfonwyd gan Goleg Sir Gâr a'i anfon at
Cyfathrebu, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP, erbyn dydd Gwener, Chwefror 15 i gael y cyfle i ennill y tocynnau.
Enillwyr y gystadleuaeth liwio yn rhifyn diwethaf Newyddion Sir Gâr oedd:
Georgina Hilham, oed seven, Llanymddyfi; Elise Thomas, oed five, Tycroes.
Mae plant ysgol Llanelli wedi mynd ati i wneud eu cymuned yn fwy cynaliadwy. Mae disgyblion Ysgol Dewi Sant wedi bod yn
gwneud gwahaniaeth drwy gerdded i’r ysgol neu drwy deithio ar feic, ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy rannu ceir gyda phlant eraill. Y syniad yw bod dosbarth yn cystadlu yn erbyn dosbarth er mwyn helpu’r plant i ddatblygu sgiliau cerdded diogel a sgiliau diogelwch ffyrdd. Maen nhw hefyd yn lleihau tagfeydd ac yn hybu ymarfer corff a gwella ansawdd yr aer. Bydd y disgybl sy’n cymryd y mwyaf o gamau, ac sy’n
symud ymhellach o gwmpas y sir mewn wythnos yn cael tystysgrif a gwobr yr esgid aur. Lluniwyd her Pa Ffordd Heddiw gan uned diogelwch
ffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac mae cael ei gefnogi gan Her Gymunedol Sir Gâr.
Yn ôl y Cynghorydd Pam Palmer: “Mae’r cynllun
teithio i’r ysgol hwn yn gynaliadwy ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd ac mae hefyd yn lleihau tagfeydd o gwmpas gatiau’r ysgol.” Gall rhieni neu ofalwyr disgyblion sy’n byw’n rhy bell
i gerdded i’r ysgol barcio mewn man derbyniol, er mwyn i’r disgyblion fedru cerdded yn ddiogel y pump neu’r deng munud olaf o’r siwrnai. Beth mae’ch ysgol chi’n ei wneud? Dewch yn rhan o Her Gymunedol Sir Gâr a gwnewch wahaniaeth i’ch cymuned. Cofrestrwch ar 01267 224902 neu ewch i
www.carmarthenshire.gov.uk/communitychallenge. Dilynwch ni ar
www.facebook.com/CarmarthenshireCommunityC hallenge neu ewch i
www.twitter.com/CarmsChallenge i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
Hoffai staff 'Playking' ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i'w holl gwsmeriaid.
Bydd llawer o weithgareddau Nadoligaidd cyn bo hir, gan gynnwys cyfle i gwrdd â Siôn Corn yn ei ogof, felly beth am alw i weld y pethau hyfryd fydd gennym i'w cynnig.
Mynediad am £1.99
YN UNIG ar UNRHYW ddiwrnod ysgol! Unrhyw oedran, unrhyw amser a chewch aros drwy'r dydd hyd at 7pm. Llai na hanner pris!
£4.95 yw'r ffi mynediad arferol. Cynnig yn ddilys ar ddiwrnodau ysgol lleol yn unig. Dewch â chynifer o blant ag y dymunwch.
Digwyddiadau Arbennig a Grwpiau Mamau a Phlant Bach
I gael rhagor o fanylion edrychwch ar:
facebook.com/theplayking Ffôn: 01554 757808
E-bost:
info@theplayking.com • Gwefan:
www.theplayking.com
11
Talu unwaith
a chwarae drwy'r dydd!
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20 |
Page 21 |
Page 22