This page contains a Flash digital edition of a book.
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


Argraffwyd Newyddion Sir Gâr ar bapur ailgylchu


Newyddion Sir Gâr £151 miliwn yn rhagor i ysgolion


Enillwch Tocynnau


Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Gâr Carmarthenshire Local Service Board


Gweler tudalen 7 Gweler tudalen 5 Gweler tudalen 10 Gweler tudalen 9


Bwriedir buddsoddi £151 miliwn arall mewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Sicrhawyd bron £87 miliwn drwy


raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a bydd y Cyngor Sir yn rhoi'r un swm. Bydd y rhaglen yn dechrau yn 2013 ac mae'n golygu y gall Sir Gaerfyrddin gyllido ei Rhaglen Moderneiddio Addysg yn llawn hyd at 2020. Bydd ysgolion newydd eraill yn


cael eu hadeiladu a gwaith ailwampio'n cael ei wneud mewn nifer o leoliadau yn y sir gan gynnwys Carreg Hirfaen, Seaside, Porth Tywyn, Rhydaman, Dyffryn Cothi, Trimsaran a Llandeilo. Yn ogystal, bydd gwelliannau'n digwydd mewn nifer o ysgolion uwchradd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor,


sef y Cyng. Meryl Gravell: “Mae hwn yn newyddion gwych i Sir


Gaerfyrddin a'n hysgolion. Does dim amheuaeth bod amgylchedd gwell i blant yn arwain at well perfformiad ac ymddygiad ac mae pob plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn haeddu'r amgylchedd orau posibl y gallwn ni ei ddarparu." Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol


hon, bydd Sir Gaerfyrddin wedi gwario bron £128 miliwn ar ei Rhaglen Moderneiddio Addysg, drwy adeiladu chwe ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd newydd a helaethu neu adnewyddu 33 o ysgolion eraill. Mae dwy ysgol newydd wedi agor eu drysau yn Llanelli sef Ysgol y Felin a Brynsierfel. Mae cynlluniau ar waith, sydd


hefyd yn cael eu cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru, ar gyfer ysgol uwchradd newydd a gwelliannau i ysgolion uwchradd eraill yn ardal Dinefwr ac i adeiladu ysgol


Gymraeg newydd yn Ysgol Ffwrnes. Dywedodd y Cynghorydd Gwynne


Wooldridge, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae ein plant a'n hathrawon yn haeddu'r gorau a'n nod yw darparu hynny drwy ein Rhaglen Moderneiddio'r Ddarpariaeth Addysg.. Bellach, mae


cannoedd ar gannoedd o blant yn mwynhau darpariaeth o safon uchel ac mae'r cyllid hwn yn golygu y bydd miloedd yn rhagor yn cael mynediad i gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnig cyfleoedd gwych i'n disgyblion ifanc a fydd yn gaffaeliad iddynt weddill eu bywydau."


Cefnogwch ein Dai Greene ni


Mae Sir Gaerfyrddin gyfan yn cael ei hannog i gefnogi un o athletwyr gorau'r sir, sef Dai Greene sy'n dod o Lanelli. Erbyn diwedd y flwyddyn, mae'n bosibl y bydd


ef yn un o'r athletwyr gorau yn hanes Prydain. Bydd ennill gwobr aur yng nghystadleuaeth


clwydi 400m Gemau Olympaidd Llundain yr haf hwn yn cwblhau'r cystadlu i'r bachgen 25 oed a fu'n ddisgybl yn Ysgol Felin-foel a Choedcae. Dai yw pencampwr presennol gemau Ewrop, gemau'r Gymanwlad a gemau'r Byd. Bydd ennill


medal aur Olympaidd yn golygu ei fod yn gallu honni bod ymhlith yr athletwyr Prydeinig gorau mewn hanes. Bu Dai'n chwarae pêl-droed pan oedd yn


fachgen ac roedd yn ymarfer ar gyfer hynny drwy redeg i fyny ac i lawr y twyni tywod yng Nghefn Sidan, Pen-bre cyn mynd i weithio yn McDonalds er mwyn ennill arian pan oedd yn fyfyriwr tlawd yng Nghaerdydd.. I ddymuno pob lwc i Dai, e-bostiwch gwrandoarnochchi@sirgar.gov.uk


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20