This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn Gweithffyrdd


Mae Prosiect Gweithffyrdd, sy'n cael ei gyllido gan yr Undeb Ewropeaidd, ar waith yn Sir Gaerfyrddin ers 2 flynedd bellach. Ymunodd Michelle Gibbs â Gweithffyrdd ym


mis Tachwedd. Mae cymhelliad Michelle wedi cynyddu’n aruthrol drwy gymryd rhan yn y prosiect. Mae wedi cymryd rhan mewn sesiynau chwilio am swyddi yn rheolaidd sy'n cynnwys cyngor ac arweiniad ynghylch ffurflenni cais, CVs, cyfweliadau ac argymhellion ynghylch marchnad lafur yr oes hon sy'n newid yn barhaus. Yn ogystal, mae Michelle wedi dilyn cwrs


Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewrop (ECDL), wedi dechrau gwirfoddoli gyda sefydliad lleol sy'n hybu iechyd a lles ac mae'n gobeithio cael gwaith yn y flwyddyn newydd. Wrth siarad am gymryd rhan yn y prosiect hyd


yn hyn, dywedodd Michelle, "Mae Gweithffyrdd wedi rhoi hwb mawr imi. Mae'r staff wedi bod yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar iawn ac rwy'n edrych tuag at ddyfodol mwy disglair a gwaith yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd i unrhyw un sydd angen cymorth o ran cael gwaith”. Mae Prosiect Gweithffyrdd wedi bod yn


llwyddiannus iawn o ran helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith, neu symud yn nes i'r farchnad lafur. Mae'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau gwahanol i roi cymorth pwrpasol i'r


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


19


rhai sy'n cymryd rhan er mwyn eu helpu i ddychwelyd i'r gwaith. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys hyfforddiant, mentora, hyfforddiant ysgogiadol, a chyfleoedd swyddi â chymhorthdal. Mae prosiect Gweithffyrdd De-orllewin


Cymru wedi cael ei ariannu gan elfen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.


Campws ar agor i bawb


Annog y rhai dros 50 oed i fynd ar-lein


Yn y llun mewn digwyddiad 50+ diweddar ym Mharc y Scarlets, mae'r Cynghorydd Ivor Jackson, Cadeirydd y Cyngor, John Tonen, Is-gadeirydd y Fforwm 50+, Roy Noble o Radio Wales, Mary Jackson, cydymaith y cadeirydd a'r Cynghorydd Madge


Peidiwch ag anghofio bod campws y Brifysgol ar gael ar gyfer defnydd cymunedol- gallwch fwynhau mwy o chwaraeon, mynychu sgwrs neu gyngerdd neu logi un o'r ystafelloedd ar gyfer digwyddiadau. Mae’r Drindod Dewi Sant yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y gall ei


gynnig i drigolion Sir Gaerfyrddin, felly, ewch i'r wefan www.tsd.ac.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Welwn ni chi cyn bo hir yn y Drindod Dewi Sant!


Mae pobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i fynd ar-lein. Mae sesiynau 'Sut mae...' rhad ac am


ddim ynghylch cyfrifiaduro a'r rhyngrwyd yn cael eu trefnu i bobl hŷn. Mae'r prosiect yn cael cymorth ariannol gan y Gronfa Cydlyniant Cymunedol a weinyddir gan y Cyngor.


Dywedodd y Cynghorydd Kevin


Madge, Hyrwyddwr 50+ : Rwyf wedi ymrwymo i gael cymaint o bobl hŷn â phosibl i fynd ar-lein. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod y rhyngrwyd a'r cyfryngau newydd yn gallu eich helpu i gael gwybodaeth am wasanaethau a diddordebau, na’i bod


yn bosibl defnyddio Skype i weld a chlywed ffrind neu berthynas ar ochr arall y byd heb dalu o gwbl." Os oes diddordeb gennych chi neu eich clwb, ffoniwch 01267 224676 neu anfonwch e-bost i fforwm50+@sirgar.gov.uk


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20