16 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Y Dawnswyr Gorau
www.sirgar.gov.uk
Coleg Sir Gâ
r yn chwilio am y goreuon ar gyfer
academi ddawnsio newydd Mae dawnswyr o safon uwch yn cael eu
meithrin yn yr academi ddawnsio newydd yng Ngholeg Sir Gâr. Mae'n rhaid bod yr aelodau'n deall cryn dipyn
am eu crefft gan fod llawer o'r dawnswyr presennol yn astudio bale gradd saith ac wyth yn yr Academi Ddawns Frenhinol. “Rydym ni'n chwilio am ddawnswyr cryf a brwdfrydig sy'n
ymdrechu hyd eithaf eu gallu o ran eu perfformiadau a'u techneg," meddai'r darlithydd dawnsio Christy Anson-Harries. “Nid oes yn rhaid eu bod wedi cael hyfforddiant dawnsio ffurfiol er mwyn ymuno, oherwydd os byddan nhw'n dangos digon o ddawn a phenderfyniad fe wnawn ni eu hystyried yn y clyweliad. Wedi dweud hynny, bydd yn rhaid iddyn nhw ddysgu'r dawnslunio'n eithaf cyflym."
Parc Cross Hands i gyflogi 1000 Partneriaeth ar waith
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn defnyddio dull unigryw o gydweithio â phrifysgolion lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn gweithio er lles y bobl maent yn eu gwasanaethu ac yn cyflenwi gofal iechyd ar gyfer ardal wledig. Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi
Aelodau o'r Bwrdd Gweithredol yn cael golwg ar y safle cyflogaeth strategol yn Cross Hands.
Mae Bwrdd Gweithredol Sir Gaerfyrddin wedi ymweld â safle cyflogaeth arfaethedig yn Cross Hands. Nod y buddsoddiad o £13.5 miliwn yw datblygu
parc cyflogaeth strategol newydd yn nwyrain Cross Hands sy'n gallu cyflogi mwy na 1,000 o bobl. Bydd y prosiect yn cynnig lleiniau â phob gwasanaeth i ddiwallu anghenion busnesau lleol sy'n dymuno dechrau neu ehangu, yn ogystal â chynnig cyfleoedd am fewnfuddsoddi. Y nod yw rhoi isadeiledd i Sir Gaerfyrddin a
Chymoedd y Gorllewin ar gyfer datblygu economi leol gystadleuol a darparu digon o dir cyflogaeth addas i ddiwallu'r galw dros y 10-15 mlynedd nesaf. Mae'r cyllid yn cynnwys £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhaglen Ardal
Adfywio Cymoedd y Gorllewin, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a grant Trafnidiaeth. Bydd y datblygiad yn cael ei reoli a'i weithredu gan Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n buddsoddi £4 miliwn yn y cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr
Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio: “Ein nod yw sicrhau bod gan Sir Gaerfyrddin dir cyflogaeth o'r radd flaenaf er mwyn denu buddsoddiad a darparu swyddi yn y dyfodol.” Mae gwaith penodol yn cynnwys ffordd
fynediad newydd o'r A48, adeiladu ffordd fewnol newydd, darparu cyfleustodau cyhoeddus a thirlunio. Mae'r cynigion yn amodol ar gael caniatâd cynllunio ac mae trafodaethau'n parhau ynghylch gwerthu rhai darnau o dir.
Sant a Phrifysgol Aberystwyth wedi arwyddo cytundebau o’r enw Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n datblygu ar waith ar y cyd sydd eisoes ar y gweill. Bydd Cadeirydd Gwyddoniaeth a Lles
Ymddygiadol Gwledig - y cyntaf yng Nghymru - yn cael ei benodi ar y cyd i fod yn llysgennad ar gyfer gwasanaethau iechyd gwledig ledled Hywel Dda. Dywedodd y Prif Weithredwr, Trevor Purt:
“Rydym yn falch iawn o weithio â chydweithwyr yn y sector addysg uwch. Gyda’n gilydd, gallwn gydnabod yn glir yr heriau unigryw yn ein hardal wledig fawr ond, yn hytrach nag ystyried hyn yn broblem, rydym yn ei weld yn gyfle i ail- gynllunio gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion eich cymunedau gwledig.”
Gwella Gwasanaethau
Mae'r adolygiad blynyddol o adran gofal cymdeithasol y Cyngor wedi tynnu sylw at welliant sylweddol mewn gwasanaethau a rheolaeth. Mae'r adroddiad, a luniwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru,
yn nodi nifer o feysydd a oedd wedi gwella yn y gwasanaethau oedolion a phlant gan gynnwys gostyngiad sylweddol mewn achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal (methu rhyddhau gwelyau). Yn ogystal, mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymrwymiad y Cyngor i integreiddio â'r gwasanaethau iechyd, ac i roi hyfforddiant rhagweithiol i'r staff. Mae crynodeb llawn o'r adroddiad ar gael ar wefan y cyngor:
www.sirgar.gov.uk.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20