This page contains a Flash digital edition of a book.
18


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Ysgolion newydd


www.sirgar.gov.uk


MAE dwy ysgol newydd arall wedi cael eu hagor yn swyddogol yn Llanelli. Buddsoddwyd miliynau o bunnoedd yn Ysgol


y Felin ac Ysgol Brynsierfel yn ddiweddar, yn sgil Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gaerfyrddin. Mae'r disgyblion wrth eu boddau yn eu cartref newydd yn Ysgol y Felin, a gostiodd £6.3


miliwn, lle roedd y gwaith yn cynnwys codi estyniad ac ailddatblygu sylweddol gan y contractwyr sef 'Cowlin'. Mae'r estyniad yn cynnwys ystafelloedd dosbarth ar gyfer plant bach, ynghyd â Chanolfan Blant Integredig. Hefyd mae gwaith tirweddu helaeth wedi ei wneud gan ailwampio'r meysydd a'r llecynnau chwarae presennol.


Mae gan Ysgol Brynsierfel yn Llwynhendy,


sydd wedi costio £6.6 miliwn ac sy'n newydd sbon, le ar gyfer 210 o ddisgyblion ynghyd â meithrinfa ar gyfer 26 o blant. Y nodwedd fwyaf eiconig yw'r coridor ar wahanol lefelau sy'n dod â golau i'r adeilad ac yn creu lle er mwyn i'r disgyblion arddangos eu gwaith. Roedd y gwaith gan y contractwyr 'Kier


Western' yn cynnwys ail-lunio hen gampws yr ysgol yn llwyr a dymchwel adeilad yr hen ysgol. Mae i bob grŵp oedran ei barth chwarae penodedig ac mae llecyn chwarae meddal ychwanegol ar gyfer y disgyblion meithrin.


Her i'r Flwyddyn Newydd?


Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ystod o gyfleoedd dysgu yn dechrau’r mis yma gan gynnwys rhai galwedigaethol penodol, er enghraifft ein graddau MBA, MA Addysg, MA Saesneg gyda TEFL neu PhD Archaeoleg Gymhwysol, a rhaglenni y gellir eu hastudio er diddordeb ac sy’n arwain at ystod o gyfleoedd cyflogaeth addas, ee, MA Profiad Crefyddol neu MA Clasuron.


Mae ein holl raglenni ôl-raddedig yn anelu i


ddatblygu eich gwybodaeth academaidd a sgiliau proffesiynol yn ogystal ag amrywiaeth o nodweddion personol megis cynyddu eich hunanhyder a datblygu sgiliau ymchwil. Mae rhagor o wybodaeth ar y wefan: www.ydds.ac.uk


Contractwyr Adeiladu a Pheirianneg Sifil


• Masnachol • Addysg • Iechyd


• Diwydiannol • Mân-werthu


• Cynhyrchu Ynni Casnewydd – 01633 244955


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20