This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


9 Amgueddfa yn Rhoi Sylw i Fywyd y Glöwr Cryfhau Teuluoedd


Ar hyn o bryd yn Amgueddfa'r Sir, Abergwili, cynhelir arddangosfa sy'n dehongli'r diwydiant glo yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n cynnwys offer mwyngloddio a phethau cofiadwy, yn ogystal â


ffilm fer ynghylch gweithio yn y pyllau glo a bywyd yng nghymoedd glofaol Sir Gaerfyrddin. Darparwyd arian gan Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo a'r Cynghorydd Sir, Terry Davies a wnaeth hefyd roi nifer o'r eitemau ar gyfer yr arddangosfa. Bu cloddio am lo yn Sir Gaerfyrddin am ganrifoedd. O 1870 ymlaen


agorwyd nifer o lofeydd glo caled (glo carreg) yn Nyffryn Aman ac yng Nghwm Gwendraeth. Erbyn 1935 yr oedd 14,700 o ddynion yn gweithio yng nglofeydd Sir Gaerfyrddin. Streic y Glowyr 1984 – 85 oedd dechrau'r diwedd i'r diwydiant glo yn Sir Gaerfyrddin. Caewyd Cynheidre ym 1989, caewyd Cwmgwili ym 1994 a chaewyd y Betws yn 2003. Nid oes dim pyllau glo dwfn yn Sir Gaerfyrddin mwyach er bod digonedd o lo o dan ddaear y sir o hyd.


Prosiect gêm fwrdd


Mae grŵp o oedolion sydd ag anableddau yn gobeithio ennill cytundeb a fydd yn eu galluogi i lunio gêm fwrdd newydd. Mae cyfranogwyr canolfan hyfforddiant Steps 1 sy'n cael ei chyllido'n


rhannol gan COASTAL wedi ymuno â dyn busnes lleol er mwyn datblygu gêm fwrdd addysgol sy'n gwneud dysgu atalnodi yn hwyl. Maent eisoes wedi gwneud prototeipiau o ddarnau'r gêm, ac yn gobeithio y bydd eu gwaith caled yn talu ar ei ganfed pan fydd y contract gweithgynhyrchu ar gael. Dywedodd Mel Edwards, goruchwyliwr y cyfranogwyr: "Rydym yn


gobeithio y bydd cryn dipyn o ddiddordeb yn y cymorth dysgu hwn ac y byddwn yn cael y contract ar gyfer gweithgynhyrchu'r rhan fwyaf o'r gêm." Mae'r gweithgaredd newydd hwn yn ychwanegu at y cyfleoedd hyfforddiant


presennol sydd ar gael drwy COASTAL ar gyfer cyfranogwyr ag anableddau. Caiff Prosiect COASTAL Sir Gaerfyrddin ei ariannu yn rhannol gan Gronfa


Gymdeithasol Ewrop fel rhan o Raglen Gydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd 2007-13.


Annog pobl i roi eu barn am y gwasanaeth iechyd


Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn annog pawb i ymuno â chynllun Siarad Iechyd/Talking Health er mwyn cael dweud eu dweud am gynllunio, datblygu a rhoi gwasanaethau iechyd, ac i dderbyn cynigion ar gyfer mentrau iechyd. Dywedodd y Cadeirydd, Chris Martin: “Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl


leol ac rydym am iddynt gymryd rhan – nid yn unig er mwyn gwella’u hiechyd eu hunain ond hefyd er mwyn gwella gwasanaethau gofal iechyd yn ystod y ddeng mlynedd nesaf.” I ymuno, ffoniwch 01554 779510, ysgrifennwch i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD neu ewch i www.siaradiechyd.wales.nhs.uk.


Mae prosiect sydd â'r nod o gryfhau'r uned deuluol wedi cael ei ymestyn y tu hwnt i'w gyfnod prawf. Mae'r Rhaglen Cryfhau Teuluoedd


sydd wedi'i hariannu gan y Fenter Ymchwil Atal Genedlaethol, wedi cael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin ers dros flwyddyn. Nod y rhaglen yw targedu teuluoedd sydd â phlant rhwng 10 a 14 oed a chynnig sgiliau iddynt i gyfathrebu'n well â'i gilydd a goresgyn trafferthion pob dydd teuluoedd. Daeth y cyllid i ben ym mis Rhagfyr


ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cytuno i barhau â'r rhaglen am o leiaf dri mis arall er mwyn helpu mwy o deuluoedd lleol.


Dywedodd Fran Dixon, y


Cydlynydd Cryfhau Teuluoedd: "Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Cyngor tan o leiaf fis Mawrth. Mae hynny'n rhoi amser inni gynnal mwy o gyrsiau a bod o fantais i fwy o deuluoedd. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan yr ymateb cadarnhaol i'r rhaglen hon. Mae'n wir yn helpu i wella'r berthynas o fewn y teulu. Gall unrhyw un sy'n teimlo y gallai ei deulu gael budd o'r rhaglen ffonio Fran 01554 744377 neu e-bostio frances.dixon@ actionforchildren.org.uk. Caiff cyrsiau eu cynnal yn rhad ac am ddim yn lleol a darperir gofal plant ar gyfer aelodau ifancaf y teulu.


Cyn-weinidog yn arwain INSPIRE


Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i weithredu er mwyn sicrhau Cymru gynaliadwy, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn datblygu sefydliad cynaliadwyedd newydd o’r enw INSPIRE a fydd yn annog a chefnogi ymarfer da yn y maes. Fe fydd yn cael ei arwain gan Jane Davidson, y cyn Weinidog Addysg a chyn Weinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth y Cynulliad. “Dw i’n ei theimlo hi’n fraint i gael arwain INSPIRE yn y Drindod Dewi


Sant yn ystod y cyfnod cyffrous hwn,” meddai Jane. “Dw i’n edrych ymlaen at weithio law yn llaw ag eraill ar y siwrnai drawsffurfiol bwysig a chyffrous hon. Bydd INSPIRE yn cael ei lansio’n


ffurfiol ar 27 Ionawr yng nghynadledd ‘Egwyddor Trefnu Ganolog Cymru Deddfu ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a gynhelir ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin. Mae mwy o fanylion ar y wefan, www.ydds.ac.uk - cliciwch ar y Calendr Digwyddiadau.


Trochfa’r Tymor! Cannoedd yn mentro i'r dyfroedd


CYMERODD mwy na 400 o bobl mewn gwisg ffansi ran yn Nhrochfa'r Tymor draddodiadol y Cyngor yng Nghefn Sidan, a bu i gannoedd yn rhagor (a oedd yn llai dewr) wlychu eu traed yn nŵr y môr. Bu i 'Latch' (elusen i blant) a'r RNLI godi


miloedd o bunnoedd, fel y gwnaeth elusennau eraill, gan elwa ar haelioni'r 2,000 o bobl oedd yno'n gwylio. Mentrodd un dyn dewr i'r dŵr mewn


mancini ond cafodd gwmni criw o ferched hardd mewn bicinis i godi ei galon, yn ogystal ag ymgodymwyr swmo, cerddorion roc, amrywiaeth o Smyrffs, Batman, a hyd yn


oed pâr ar fframiau cerdded a oedd yn esgus bod yn hen. Bu i Ivor Jackson gynnal y traddodiad bod


Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn mentro i'r dŵr. Hefyd bu'r Cyng. Jackson yn llofnodi


tystysgrifau ar gyfer y Trochwyr ac yn dosbarthu crysau-T i'r rheiny a ymunodd ag ef yn y dŵr. Dywedodd: “Rwy'n edmygu'r Trochwyr yn


fawr iawn. Aethon nhw heibio imi ar garlam ac roedden nhw i gyd i'w gweld yn cael amser wrth eu bodd."


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20