www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Digwyddiadau yn Sir Gâr Lle braf i gael ras Dramâu a chyngherddau
15
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod eang o raglenni diwylliannol yn ystod y misoeddd nesa'. Yn Theatre Halliwell, Caerfyrddin ar 6 Chwefror perfformir Torri Gair,
cyfieithiad Elan Closs Stephens o'r ddrama 'Translations'’. Drama rymus sy'n ymwneud â iaith a hunaniaeth, imperialaeth ddiwylliannol a breuder y cof. Ar gampws Llanbedr Pont Steffan, bydd dau digwyddiad yn cael eu cynnal
MAE'R golygfeydd a'r cwrs, sy'n un gwastad yn bennaf, yn golygu bod Parc Arfordirol y Mileniwm yn un o'r lleoliadau mwyaf deniadol i redwyr o bob safon. Mae nifer o rasys hwyl i godi arian
at elusennau wedi cael eu cynnal yno, ac mae rhan o'r cwrs wedi'i defnyddio ar gyfer digwyddiadau triathlon cenedlaethol. Ar 19 Chwefror bydd ras 10 milltir yn cael ei chynnal yno am y tro cyntaf.
Mae trefnydd y ras, Noelwyn
Daniel, yn ffyddiog y bydd y digwyddiad hwn, y bydd elusen y 'John Hartson Foundation' yn elwa arno, yn denu rhedwyr o dde, canolbarth, a gorllewin Cymru. Dywedodd Noelwyn:
“Mae'r
digwyddiad yn berffaith i'r rhai fydd yn rhedeg Marathon Llundain neu hanner marathon yn y gwanwyn, er mwyn iddyn nhw gael syniad sut mae'r ymarfer yn mynd. Bydd y ras
Dewch i'r ffair deganau a threnau
Cynhelir Ffair Deganau a Threnau yn Rhydaman ar ddiwedd y mis hwn. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadda y
Pensiynwyr yn Stryd y Cei ddydd Sadwrn, 28 Ionawr o 10.30am hyd 3pm. Y pris mynediad yw £1 ac mae plant sydd yng nghwmni oedolyn yn cael mynediad am ddim. Mae'r ffair yn cael ei chynnal gan Ammanford ‘O’ Gauge Group. Mae angen i unrhyw un sydd eisiau llogi bwrdd yn y ffair archebu ymlaen llaw drwy gysylltu â James (01269 591378) neu Peter (07802 271081).
yn rhan o gyfres 10 milltir Grand Prix Cymru ac mae'n gwrs delfrydol i redwyr hwyl a'r rheiny sydd am gael eu hamserau personol gorau.” Bydd pawb sy'n gorffen yn cael medal. Trefnir gan 'Healthy Life Activities' a dylai unrhyw un sydd am gael rhagor o wybodaeth fynd i'r wefan ganlynol:
www.healthylifeactivities.co.uk
gyda Grwp Cerddorol y coleg. Ar 29 Ionawr bydd y grwp yn perfformio gyda Ensemble Aura, ac ar 26 Chwefror bydd yna gyfle i wrando ar Craig Yates, aelod brwd o gor 'Only Men Aloud'. Mae'r calendr digwyddiadau ar
www.ydds.ac.uk sef ddigwyddiadur yr holl
berfformiadau theatrig a cherddorol, gwestai, darlithoedd cyfadran a digwyddiadau eraill sydd ar agor i’r cyhoedd. Croeso cynnes i chi ymuno gyda ni.
Y Cryfion yn Cystadlu
Cyhoeddi enillwyr llyfr
Enillwyr llyfr “Carmarthen in Pictures, Volume I” gan Ralph Carpenter oedd
Mr Kenneth Morgan, Rhydaman
W.I & C Saer o Hendy Gwyn
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau dros y Nadolig gweler
www.darganfodsirgar.com Pump par o docynnau i ddiwrnod rasio yn Ffos Las ar gael i ddarllennwyr Newyddion Sir Gâr.
Danfonwch eich enw a chyfeiriad at Cyfathrebu, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP erbyn Dydd Llun 13 Chwefror. Y 5 enw cyntaf a dynnir allan ar ôl y dyddiad yma fydd yn ennill.
Bydd cystadleuaeth Gŵr Cryf sef un ddiweddaraf Cymru yn y gamp hon yn cael ei chynnal ar Faes Sioe y Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin fis nesaf. Cynhelir y digwyddiad Gŵr Cryf Celtic Carnage ddydd Sadwrn, 4 Chwefror,
a bydd yn dechrau am 10.30am. Bydd 18 o gystadleuwyr sy'n ddechreuwyr, gan gynnwys rhai o Sir Gaerfyrddin. Bydd 18 o gystadleuwyr agored gan gynnwys Gŵr Cryfaf Cymru, Cyn Ŵr Cryfaf Cymru a Gŵr Cryfaf y Deyrnas Unedig. Bydd adloniant i'r teulu'n rhan o'r hwyl, a bydd hyn yn cynnwys ffair, paentio
wynebau a gweithgareddau eraill. Mynediad am ddim i rai dan 16 oed os ydynt yng nghwmni oedolyn sy'n talu. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch swyddfa'r maes sioe ar 01267 232141 neu ewch i'r wefan
www.celticcarnage.com
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20