4
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012
www.sirgar.gov.uk
Danteithion Dathliadau Dwynwen a Ffolant
Bydd awyrgylch gariadus ym marchnadoedd Sir Gaerfyrddin ar gyfer dathlu Dydd Santes Dwynwen a Dydd Sain Ffolant. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys
arddangosfeydd coginio ac adloniant yng Nghaerfyrddin a Llanelli er mwyn dathlu'r deuddydd. Defnyddir bwydydd sy'n cael eu cynhyrchu yn lleol o'r marchnadoedd yn yr arddangosfeydd coginio. Bydd siopwyr yn cael eu hannog i brynu cynnyrch lleol er mwyn coginio prydau ar gyfer eu hanwyliaid ar ddeuddydd mwyaf rhamantus y flwyddyn. Mae Marchnad Caerfyrddin yn dyddio'n ôl i gyfnod
y Rhufeiniaid. Bellach mae'r neuadd newydd wedi'i lleoli yng nghanol Canolfan Siopa Rhodfa'r Santes Catrin. Mae'r farchnad yn enwog am gynhyrchwyr caws lleol, am Ham Caerfyrddin ac wrth gwrs am Gacen Frenhinol enwog Etta sy'n un o ffefrynnau’r Tywysog Siarl. Mae Marchnad Llanelli wedi bodoli ers oddeutu 150
mlynedd ac mae'n cynnig ystod eang o fwydydd, anrhegion, celf a chrefft. Mae'r bwydydd poblogaidd
Doeth holi'r ysbyty cyn anfon blodau
Mae cleifion yn hoffi derbyn blodau, yn enwedig ar Ddiwrnod Sant Ffolant, ond dylech siarad â staff y ward yn gyntaf ynglŷn â’u polisi blodau. Gall rhai cleifion fod yn agored i
heintiau ac mae risg haint mewn dŵr blodau. Gall cleifion hefyd ddioddef o alergedd i baill (“pollen”). Felly byddwch yn ymwybodol ei bod hi’n bosibl na fydd blodau’n cael eu caniatáu. Os cewch ganiatâd, y blodau gorau
yw’r rhai mewn swigod ddŵr a bocs bach er mwyn lleihau’r risg o golli dŵr ac mae’n haws cario’r rhain pan fo claf yn mynd adref
eraill yn y ddwy farchnad yn cynnwys jam, mêl a phicls lleol, bara, pasteiod a ffagots, cocos ac wrth gwrs bara lawr. Cyhoeddir mwy o wybodaeth ynghylch digwyddiadau a gweithgareddau cyn bo hir.
Meddwl y byd o'r amgylchedd hefyd
Beth am ddangos eich cariad ar ddiwrnod Sain Ffolant eleni a rhoi sesiwn maldodi i'ch anwylyd? Mae myfyrwyr trin gwallt a
therapi harddwch yng nghampws Coleg Sir Gâr, Pibwr-lwyd wedi trefnu digwyddiad 'Sweet Valentine' ar 7 Chwefror am 5:15pm sy'n cynnwys trin ewinedd, coluro, torri a sychu gwallt ynghyd â bucks fizz a siocledi am £15.
I gael sesiwn maldodi yn ystod y
dydd am yr un pris, mae'r digwyddiad 'Scrub up for your Valentine' yn cynnig brwsio a diblisgo'r corff, sesiwn tylino aromatherapi am awr i'ch ailfywhau, a sychu gwallt ynghyd â bucks fizz a siocledi. Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Cysylltwch â
jemma.parsons@
colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch 01554 748068.
Anogir cyplau i ddangos eu cariad ag ychydig o ramant hen ffasiwn a helpu'r amgylchedd ar yr un pryd! A hithau'n ddydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr ac yn Ddydd Sain
Ffolant ar 14 Chwefror, beth am ddangos eich ochr ramantus heb greu pentwr o sbwriel: • Beth am wneud dewis gwyrdd a phrynu carden wedi'i gwneud o bapur a ailgylchwyd neu beth am wneud eich carden eich hunain er mwyn iddi fod yn fwy personol.
• Ceisiwch osgoi prynu siocledi sydd wedi'u pecynnu'n ormodol neu gwnewch eich siocledi eich hunain.
• Prynwch flodau yn lleol er mwyn lleihau deunydd pecynnu a chludiant neu, i gael rhywbeth a fydd yn para yn hirach, beth am brynu planhigyn megis llwyn rhosod bach a fydd yn parhau i dyfu.
• Beth am goginio hoff bryd bwyd eich cariad iddo/iddi neu beth am wneud cacen a chofiwch ailgylchu / compostio unrhyw wastraff!
• Mae anrhegion diwastraff eraill yn cynnwys penwythnos i ffwrdd, taith i'r sinema, taith gerdded ramantus neu docynnau i weld sioe.
• Yn hytrach na chryno ddisg wedi'i lapio mewn deunydd pecynnu plastig, beth am roi anrheg ar-lein i'w lawrlwytho ar gyfer chwaraeydd MP3?
Y Briodas Berffaith
Mae Priodasau Dydd Sain Ffolant yn boblogaidd iawn yn Swyddfeydd Cofrestru Sir Gaerfyrddin sy'n ymfalchïo mewn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf ar gyfer y diwrnod arbennig hwn. Mae nifer o ystafelloedd seremoni ar
gael ar gyfer priodasau bach a mawr, sy'n amrywio o leoliad personol ar gyfer chwech o bobl, i leoliad hanesyddol Neuadd Tref Llanelli ar gyfer partïon o hyd at 100 o bobl. Mae'r staff yn arwain y briodferch a'r priodfab drwy'r broses gyfreithiol, yn
helpu i lunio'r seremoni ac i greu popeth y dymuna'r pâr hapus. Gellir teilwra pob gwasanaeth i weddu i ddewisiadau personol y briodferch a'r priodfab. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o Barc Myrddin Caerfyrddin, Teras
Coleshill, Llanelli a Stryd y Gwynt, Rhydaman. I drefnu seremoni mae angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Mae Gwasanaeth Cofrestru Sir Gaerfyrddin yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys priodasau, partneriaethau sifil, seremonïau enwi babi, seremonïau dinasyddiaeth, cofrestru genedigaethau a marwolaethau, a'r Ganolfan Hanes Teulu.
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at:
cofrestru@sirgar.gov.uk ffoniwch 01267 228210, 01554 744202 neu 01269 598300, neu ewch i'r wefan
www.sirgar.gov.uk
Dydd Sain Ffolant Profiad Pleserus
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20