2
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Croeso
Y Prif Uwch-arolygydd Steven Mears, Comander Rhanbarthol ar gyfer Sir Gaerfyrddin
Wrth inni gamu mewn i’r flwyddyn newydd, rydym yn barod ar gyfer yr heriau newydd sy’n ein hwynebu wrth inni barhau i symleiddio’r sefydliad yn unol â’n mesurau llymder
cyfredol. Er ein bod yn newid ein strwythur mewnol,
hoffwn sicrhau pobl Sir Gaerfyrddin na fydd yr ailstrwythuro’n effeithio ar ein gallu i blismona’r sir. Yn wir, ni yw un o’r ychydig heddluoedd yn genedlaethol sydd wedi recriwtio swyddogion heddlu newydd yn ddiweddar. Sôn am adnoddau, rwy’n falch iawn o
gyhoeddi y bydd 27 Swyddog Cefnogi Cymunedol newydd yn ymuno â swyddogion heddlu’r sir yn fuan. Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r swyddi newydd hyn, a byddant yn cychwyn ar eu gwaith yn ystod y 12 mis nesaf, gyda’r rhai cyntaf yn dechrau o fewn y mis. Pwrpas Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr
Heddlu yw cefnogi gwaith swyddogion arferol a gweithio gyda chymunedau ac asiantaethau partner er mwyn mynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar rannau o’r gymuned, megis ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maent yn werthfawr iawn ac rydym wrth ein boddau ein bod yn derbyn mwy ohonynt. Mae’n bleser gennyf ddweud bod nifer y
troseddau sy’n cael eu riportio yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i ostwng, ac rydym yn dal y troseddwyr mewn dros 50% o achosion. Mae’r perfformiad hwn yn ein gosod ar frig y tablau’n genedlaethol. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod ein bod yn derbyn ambell achos difrifol ac mae gennym adnoddau arbenigol er mwyn ymdrin â nhw, ond mae achosion o’r fath yn brin iawn yn y sir. Felly, mae Sir Gaerfyrddin yn parhau’n un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig. Mae ein llwyddiannau yn Sir Gaerfyrddin o
ran lleihau a datrys troseddau yn ganlyniad gwaith partneriaeth cryf a chefnogaeth cymunedau, felly gadewch inni barhau i weithio gyda’n gilydd er mwyn gwneud ein sir yn ardal fwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi.
www.sirgar.gov.uk
Cymorth i'r rhai sy'n cael eu cam-drin
Mae nifer cynyddol o breswylwyr iau yn troi at Dele-ofal i gael sicrwydd ychwanegol yn eu cartref. System flaengar yw Tele-ofal sy'n
defnyddio ystod o offer diffwdan er mwyn helpu pobl i reoli'r risgiau yn eu cartrefi. Mae mwyafrif defnyddwyr y gwasanaeth yn bobl hŷn, sy'n defnyddio'r gwasanaeth i'w helpu nhw i fyw'n annibynnol drwy ddefnyddio offer megis synwyryddion mwg, carbon monocsid, llifogydd a chwympiadau neu rai sy'n eu hatgoffa nhw i gymryd eu meddyginiaeth. Ond mae'r tîm Tele-ofal yn delio
hefyd â cheisiadau gan bobl a allai fod mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig neu aflonyddu. Yn yr amgylchiadau hyn, gall y tîm drefnu offer sy'n cynnwys synwyryddion mynediad ar gyfer drysau a ffenestri.
Dywedodd Jeanette Munn, rheolwr
Tele-ofal: "Cawsom ddigwyddiad yn ddiweddar lle'r oedd menyw yn cael ei haflonyddu gan gynbartner. Gosodom ystod o offer yn ei chartref a oedd yn gysylltiedig â'r gwasanaeth Llinell Gofal. Ar un achlysur seiniodd synhwyrydd ac roedd staff y Llinell Gofal yn gallu cysylltu â hi er mwyn cynnig cymorth iddi ac, ar yr un pryd, cysylltu â'r gwasanaethau brys. Roeddem yn falch o glywed yn ddiweddarach fod yr heddlu wedi arestio'r dyn a oedd wedi cael mynediad i'w chartref. Mae achlysuron fel hwn yn pwysleisio pa mor fanteisiol y gall Tele-ofal fod i bobl o bob oedran ac nid i aelodau hynach y gymuned yn unig. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01558 825395.
Arolygiad yn Canu Clod Meithrinfa
Anrhydedd i’r Prif Weithredwr
Cafodd Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor, ei anrhydeddu â CBE yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.
Cafodd Mr James, sy'n 52 oed,
gydnabyddiaeth am ei wasanaeth i lywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd:
“Er fy mod yn
Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Gâr Carmarthenshire Local Service Board
Hyderaf y bydd y ‘Newyddion Sir Gâr’ o ddiddordeb i chi. Os hoffech wneud sylwadau ynghylch unrhyw agwedd ar y cyhoeddiad cysylltwch â:
Cwsmeriaid a Pholisi Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP Rhif ffôn: 01267 224654 Ebost:
listeningtoyou@sirgar.gov.uk
Yn ogystal a wnewch chi roi gwybod i ni os ydych yn gwybod bod rhai strydoedd yn derbyn mwy nag un copi. Cedwir pob hawl i’r lluniau. Ni chaniateir atgynhyrchu’r un llun heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw.
Mae Meithrinfa’r Gamfa Wen yng Nghaerfyrddin wedi derbyn canmoliaeth gan Estyn am ei hethos cynhwysol a bod pob plentyn yn teimlo'n hapus. Mae ansawdd yr addysg, y berthynas gyda rhieni ac ymddygiad y plant ymhlith nodweddion da’r feithrinfa. Canmolodd Branwen Llewelyn Jones o arolygiaeth addysg Estyn yr hoffter a’r parch tuag at y plentyn a'r gwerthoedd a'r safonau a ddangosir gan y staff. Gan grynhoi ei phrif ganfyddiadau, daeth yr arolygydd i'r casgliad fod:
• ethos cynhwysol a phob plentyn yn teimlo'n hapus a diogel;
• plant yn cyflawni'n dda yn unol â'u cyfnod datblygu;
• yr addysgu yn dda; • asesu trwy arsylwi yn dda ac yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i lywio'r camau nesaf yn y dysgu, a bod staff yn gweithio’n dda fel tîm.
Mae'r adroddiad yn un o lwyddiannau diweddaraf y feithrinfa yn ystod y 12 mis diwethaf. Fe'i dyfarnwyd yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol gan Fudiad Ysgolion Meithrin ym Mawrth 2011.
ymfalchïo'n fawr yn yr Anrhydedd hon, rwy'n ymfalchïo hefyd yn yr hyn yr ydym wedi'i wneud yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n beth da i'r sir gyfan, gan ei bod yn cydnabod yr ymrwymiad a ddangoswyd a'r holl waith caled sydd wedi'i wneud i wella'r sir ac sy'n glod mawr i'r cyngor, i'r staff ac i'r cynghorwyr. “Mae llawer eto i'w wneud – ar adeg
pan ydym yn wynebu heriau ariannol na welwyd eu tebyg erioed o'r blaen – ond rwy'n hyderus y byddwn, gydag ymrwymiad parhaus swyddogion, aelodau, a'r cyhoedd, yn camu ymlaen ymhellach yn 2012.” Penodwyd Mr James yn Brif
Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin yn 2002. Yn ogystal â gyrru yn eu blaenau
amrywiol brosiectau adfywio sy'n werth sawl miliwn, yn eu plith ailddatblygu canol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, mae wedi arwain cynlluniau i adfywio ysgolion a stoc dai y cyngor, gan ddatblygu'r sector gwirfoddol ar yr un pryd.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20