This page contains a Flash digital edition of a book.
8


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Grant llyfrau llafar Arddangosfa


www.sirgar.gov.uk


Mae CBAC, y corff dyfarnu, wedi dewis gwaith gan fyfyrwyr celf a dylunio sylfaen ar gampws Ffynnon Job Coleg Sir Gâr ar gyfer arddangosfa o waith sylfaen gorau Cymru, Lloegr a Chyprus. Cwblhaodd naw myfyriwr o Ysgol y Celfyddydau Creadigol y cwrs blwyddyn cyn-prifysgol


Wedi misoedd o ansicrwydd, cafodd cynllun i baratoi llyfrau llafar i’r deillion, y rhannol ddall a’r sawl sy’n methu darllen print, ei achub gan gyfraniad £35,000 o Lywodraeth Cymru. Llyfrau Llafar Cymru yw enw newydd y gwasanaeth, a gychwynnwyd yn wreiddiol fel cynllun casetiau i’r deillion gan Rhian Evans o Gaerfyrddin dros 30 mlynedd yn ôl. Mae ‘na waith mawr i’w wneud, meddai Rhian Evans, yr is-gadeirydd. “Unwaith yn unig y gallwn ddisgwyl grant gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth hael, ond mae’n rhaid i ni ganfod arian ein hunain i sicrhau dyfodol diogel i’r prosiect. Rydym yn anfon llythyrau apêl at wahanol grwpiau a fyddai â diddordeb, yn chwilio am fwy o wrandawyr” Cysylltwch a Rhian ar 01267235195


Gwobrau i staff


Roedd nifer o’r enillwyr o Sir Gaerfyrddin gan gynnwys cyd-enillydd Gwobr y Prif Weithredwr am Wasanaeth Eithriadol. Enillodd Dr Abhaya Gupta, meddyg


ymgynghorol â diddordeb arbennig mewn gofalu am yr henoed yn Ysbyty Glangwili, wobr am ei “ysgogiad wrth weithio mewn partneriaeth â llawfeddygon, timau amlddisgyblaethol, meddygon teulu a radiolegwyr. Enillodd tîm nyrsio Ward 3 Ysbyty


Tywysog Philip y wobr am Ragoriaeth Mewn Gwella Diogelwch Cleifion am ei waith i leihau hyd arhosiad cleifion â Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint a lleihau gweithdrefnau mwy mewnwthiol o 44% drwy gyflwyno gwasanaeth Cymorth Anadlu Anfewnwthiol (“NIV”). Enillodd Prosiect Sir Gar, sef prosiect


partneriaeth i adnabod a rheoli clefyd y galon, y wobr am Ragoriaeth Mewn Gwella Iechyd A Lles. Yr olaf ond nid y lleiaf oedd Pobl yn Gyntaf


Sir Gaerfyrddin, sef mudiad eiriolaeth a hyfforddiant a gynhelir gan, ac i, oedolion ag anableddau dysgu. Enillodd y mudiad y wobr am Gyfraniad Gwirfoddol am iddo greu, ymysg pethau eraill, gweithdai er mwyn i staff ysbyty gael profiad o sut beth yw os mewn ysbyty i oedolion ag anableddau dysgu. Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd a


diolch am waith parhaus ein staff a’n gwirfoddolwyr.


yn ddiweddar, ac fe'u dewiswyd ar gyfer yr arddangosfa, sy'n amlygu'r lefelau uchel a gyrhaeddwyd mewn sawl disgyblaeth ar y cwrs, yn cynnwys arlunio, graffeg, tecstilau, ffilm a cherameg. Dywedodd Eleanor Gray, 19, a gafodd un o dair gwobr clod uchel: “Rwyf wedi mynd


ymhellach na lluniadu, mae'n fwy cysyniadol. Roedd fy ngwaith yn broses feddyliol hynod bersonol am y cof, a doeddwn i ddim yn meddwl byddai pobl yn uniaethu ag e, ond fe wnaethon nhw, felly roeddwn i’n wirioneddol falch eu bod wedi ‘deall’ y cysyniad.” Derbyniodd y cwrs adroddiad llawn canmoliaeth gan gymedrolwr: “Gwelais esiampl o arddangosfa, wedi ei nodweddu gan greadigedd, cymryd risgiau, arbrofi ac archwilio.”


Agor canolfan sgiliau Gwefan yn hybu ailgylchu


Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, wedi agor Canolfan Sgiliau Galwedigaethol Coleg Sir Gâr yn swyddogol yn Llanelli. Trwy Rwydwaith cydweithio 14-19, agorwyd y ganolfan er mwyn i ddisgyblion


uwchradd allu dysgu pynciau galwedigaethol ym maes adeiladu. Mae 150-180 o blant ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn mynychu dosbarthiadau. Meddai Mr Andrews: “Mae'r ganolfan hon yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei


gyflawni pan fydd pob partner, gan gynnwys cyflogwyr lleol, yn cydweithio i ddiwallu anghenion dysgwyr.”


Cwrs cynllunio ieithyddol


Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar y cyd ag Iaith, asiantaeth gynllunio iaith amlycaf Cymru nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol. Mae’r rhaglen newydd hon yn cynnig cyfle i ymchwilio’n drylwyr ac mewn modd


arloesol i’r maes ynghyd â phrofiadau ymarferol, wedi’u targedu. Meddai Christine Jones Pennaeth astudiaethau Cymraeg a Dwyieithog yn y


Brifysgol.: "Mae nifer y cymunedau a gweithleoedd dwyieithog ac amlieithog yn cynyddu, ac


mae cynllunio ieithyddol yn faes o bwysigrwydd cynyddol. Mae'r cwrs hwn wedi’i deilwra ar gyfer unigolion sy’n gweithio ym maes cynllunio ieithyddol ac yn cynnig darlithoedd a seminarau deuddydd, 6 gwaith y flwyddyn.


Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio fel bod trigolion yn gallu ailgylchu a lleihau eu sbwriel yn fwy hwylus. Mae'r safle, www.sirgar.gov.uk/ailgylchu yn llawn gwybodaeth,


newyddion a chyngor, yn ogystal â dolenni cyflym ar gyfer archebu rhagor o fagiau glas, gofyn am fin gwyrdd newydd, neu ganfod ble mae eich canolfan ailgylchu agosaf a beth dderbynnir yno. Mae'n cynnwys gwybodaeth am holl wasanaethau gwastraff y


cyngor, yn ogystal â chyngor ar gewynnau go iawn, compostio cartref a lleihau eich gwastraff bwyd. Mae'r Arbedwyr a'r Afradwyr – y cymeriadau 3D a grewyd o


sbwriel pob dydd fel papur, caniau a photeli ac sydd mewn brwydr barhaus ynghylch gwastraff – yno hefyd, ac mae pedair gêm i'w chwarae ar-lein yn golygu bod y wefan yn ddifyr, yn addysgiadol ac yn rhyngweithiol. Dewiswch o blith ‘Yn y Bag’, ‘Olwyn Gwastraff ’, ‘Storio Sbwriel’ a ‘Bachu Bwyd’ a pheidiwch â gadael i'r Afradwyr ennill! Meddai'r Cyng. Philip Hughes, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros


yr Amgylchedd: “Rydym am sicrhau bod ein trigolion yn gallu ailgylchu mor hwylus â phosib, a dylai cael yr holl wybodaeth yma ar flaenau eu bysedd gyflawni hynny.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20