www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012
7 Ein siopau annibynnol gyda'r gorau!
Mae siopau Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman wedi cyrraedd y brig o ran y siopau gorau ym Mhrydain gan guro trefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig. Maent wedi ennill clod ar ôl i dîm o siopwyr dirgel farnu mai yn y tair tref hyn yn Sir Gaerfyrddin yr oedd y siopau annibynnol gorau ym Mhrydain. Ymwelodd ymchwilwyr marchnata proffesiynol â Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman ar ddau achlysur i weld pa mor dda oedd y siopau yn perfformio mewn meysydd megis gwasanaeth cwsmeriaid, gwybodaeth am nwyddau ac arddangosfeydd ffenestri.
Sgoriodd Llanelli'n uchel iawn â 94.8%,
y gorau o 87 o drefi a dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, sy'n cynnwys Caergrawnt, Casnewydd a Sunderland. Sgoriodd Caerfyrddin 94.7% a dod yn ail a daeth Rhydaman yn drydydd gan sgorio 91.5a%. Barnwyd bod dros 95% o ymweliadau'r siopwyr dirgel yn 'dda' neu'n 'dda iawn' a dywedodd dros 90% ohonynt y byddent yn argymell y siop wrth ffrind. Roedd yr ymchwil yn cynnwys asesiadau canol tref, edrych ar yr amgylchedd ar gyfer siopwyr a manwerthwyr a chyfweliadau ar y stryd gydag ymwelwyr a phreswylwyr.
Cafodd yr ymarfer ei gynnal gan
Skillsmart Retail drwy raglen beilot Cronfa Blaenoriaethau Sector Llywodraeth Cymru sy'n cael ei chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Yn ogystal, cefnogwyd yr ymarfer gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, sef y
Cyng. Meryl Gravell: “Llongyfarchiadau i'n siopau annibynnol am gael canlyniadau siopwr dirgel mor wych. Mae'r busnesau lleol hyn yn bwysig iawn i'r economi lleol ac yn hanfodol o ran cynnal a chadw nodweddion ardal benodol."
Dysgu sut i hybu iaith
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhannu’r wers o sut mae’n hybu’r iaith Gymraeg gydag ymwelwyr o wledydd eraill. Estynnwyd croeso cynnes i’r Rhwydwaith i
Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol i Neuadd y Sir, Caerfyrddin, fel rhan o ymweliad i Gymru. Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Ivor Jackson
a’r Cynghorydd Clive Scourfield a fu’n gwesteio’r ymweliad a daeth nifer o sefydliadau’r sir ynghyd,
er mwyn cwrdd ag ymwelwyr o Iwerddon, Llydaw a Norwy. Bu cyfle i’r ymwelwyr ddysgu mwy am y gwaith
o hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir. Cefnogwyd y noson gan y Mentrau Iaith, Dysgu Cymunedol, y Tim Datblygu Cymunedol a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Am fanylion pellach ar hybu’r iaith Gymraeg, cysylltwch â ni drwy
IaithGymraeg@sirgar.gov.uk
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20