This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk Helaethu Gwasanaeth Bwcabus


Mae Bwcabus, sydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben wedi ymestyn hyd yn oed ymhellach ar draws y Sir gan helpu'r sawl sy'n chwilio am waith a'r sawl sydd eisiau gofal iechyd. Mae'r system drafnidiaeth wledig arloesol hon wedi denu rhagor o gyllid Cydgyfeirio yr Undeb


Ewropeaidd a chyllid Llywodraeth Cymru sy'n golygu y gall ehangu i Ogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin ac i mewn i Geredigion. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael cyfanswm o £2.95 miliwn o bunnoedd o gyllid allanol er mwyn


helpu i ddatblygu cysyniad Bwcabus a darparu system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn y tymor hir. Mae'r gwasanaeth cludiant integredig blaenllaw hwn, sydd wedi derbyn clod cenedlaethol wedi ymestyn


i Lanbedr Pont Steffan, Llanybydder, Felin-fach a Llangeitho. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn darparu cludiant ar gais i bobl sy'n byw yn ardaloedd gwledig Dyffryn


Teifi ers iddo gael ei lansio yn 2009. Cynhelir Bwcabus ar y cyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion, Traveline Cymru a Phrifysgol Morgannwg. Nod Bwcabus yw gwella mynediad i wasanaethau


allweddol ar gyfer cymunedau gwledig megis cyfleoedd teithio i'r gwaith, cynnig gwell cyfleoedd i bobl sy'n chwilio am waith a gwell cyfleoedd i'r bobl hynny sy'n chwilio am ofal iechyd. Yn aml, caiff y gwasanaeth ei gydnabod yn


fodel enghreifftiol ar gyfer datblygiad mewn rhannau eraill o'r Sir fel rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. NODYN I'R WASG: I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Ron Cant, Swyddog y Wasg Gwasanaethau Trafnidiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy ffonio 01267-2249234 neu 07811101531


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


Noson ddathlu dysgwyr hŷn


17


Cynhaliwyd noson ddathlu yng Ngholeg Sir Gâr i gydnabod cyflawniadau dysgwyr hŷn rhan-amser sy'n astudio cyrsiau gofal plant. “Mae llawer o'r myfyrwyr ar y cwrs heb


fod yn rhan o addysg ffurfiol ers tro,” meddai Susan Richardson, cydgysylltydd NVQ. “Gan fod amrywiaeth eang o


Yr heddlu'n rhoi 27 o wobrau


oedrannau ar y cwrs, o 20 oed i 50 oed, roeddem ni o'r farn ei bod yn bryd cydnabod cyflawniadau'r rheiny sydd wedi cael cymhwyster ar yr un pryd â magu plant, neu sydd wedi wynebu rhwystrau o ran dychwelyd i addysg er mwyn eu helpu i gael gwaith.”


Cydnabuwyd Swyddogion Heddlu, Staff Heddlu, cyfeillion o asiantaethau partner ac aelodau’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin yn Seremoni Wobrwyo’r Comander Rhanbarthol. Rhoddwyd cyfanswm o 27 gwobr am nifer o


lwyddiannau, gan gynnwys arweiniad, perfformiad, ymroddiad ac ymrwymiad i’r rôl a chyfraniad tuag at ddiogelwch cymunedol yn y sir. “Pwrpas y digwyddiad oedd cydnabod a


gwobrwyo’r rhai sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at Ddiogelwch Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin,” meddai’r Prif Uwch-arolygydd Steven Mears. “Ac eleni, nid yn unig ydym ni wedi cydnabod ein swyddogion a’n staff ein hun, ond hefyd ein cyfeillion o’n hasiantaethau partner a’r aelodau hynny o’r gymuned sydd wedi gweithio’n agos gyda ni ac sydd wedi gwneud cyfraniadau


sylweddol a werthfawrogir ac a gydnabyddir gennym.” Ymysg y rhai o’r tu allan i’r sefydliad a


dderbyniodd wobr oedd Mr Iwan Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron Mr Stuart Jones o Ymddiriedolaeth Hywel Dda, ac aelodau o’r Grŵp Gweithredu Cymunedau Diogelach, grŵp gwirfoddol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r Tîm Plismona Bro yn ardaloedd Glan-y-môr a Thyisha, Llanelli. “Mae’r Grŵp Gweithredu Cymunedau


Diogelach yn rhoi gwerth ar y berthynas sydd gennym gyda Heddlu Dyfed-Powys, a hoffwn ddiolch iddynt oll am eu cefnogaeth barhaus yn ein helpu i wneud cymunedau Glan-y-môr a Thyisha’n llefydd mwy diogel i fyw ar gyfer pawb.”


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20