This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


5 Gwobrau Ffermwr y Flwyddyn Cymorth i Roi'r Gorau i Ysmygu


Mae myfyrwyr amaeth a rhai sy'n gweithio ar y tir o Goleg Sir Gâr wedi derbyn gwobrau dysgwyr y flwyddyn ar y tir gan Lantra. Cynhaliwyd y gwobrau, sy'n


dathlu cyflawniadau'r dysgwyr mwyaf eithriadol ac ysbrydoledig yng Nghymru, yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Enwyd Lisa Williams, myfyriwr amaeth HNC, yn Fyfyriwr Oes y Flwyddyn ar gyfer Rheoli Tir a Chynhyrchu. Dyfarnwyd gwobr Dysgwr Ifanc y Flwyddyn ym maes Iechyd a Lles Anifeiliaid, Garddwriaeth a'r Amgylchedd i Katherine Touch, sy'n astudio ceffylau a rheoli anifeiliaid, a rhoddwyd gwobr Dysgwr Oes y Flwyddyn ym maes Iechyd a Lles Anifeiliaid, Garddwriaeth a'r Amgylchedd i Louise Kirby, a fu'n cyflawni HNC mewn astudiaethau anifeiliaid, am ei hymroddiad i hyfforddiant yn y diwydiant nyrsio. Derbyniodd Richard Pond, sy'n astudio


rheolaeth cefn gwlad, glod uchel yn yr un categori, ac mae'n chwilio am yrfa fel swyddog cadwraeth. Enwyd John Price fel un a gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr Ifanc y Flwyddyn am ei astudiaethau amaethyddol. Meddai Kevin Thomas, Cyfarwyddwr


Mae Hywel Dda a Dim Smygu Cymru yn cydweithio er mwyn helpu mamau a’u partneriaid i roi’r gorau i ysmygu, drwy eu cyfeirio’n uniongyrchol fel rhan o’u gofal cyn geni arferol, oni bai ei bod yn dewis peidio â chymryd rhan. Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o fenywod


sy’n ysmygu tra’n feichiog yn y DU. Bydd 33% yn ysmygu rywbryd yn ystod eu beichiogrwydd neu’r flwyddyn cyn hynny, a bydd 16% yn ysmygu gydol eu beichiogrwydd. Dywedodd Caroline Oakley, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth: “Gall smygu yn ystod beichiogrwydd gael sawl effaith wael, fel pwysau geni isel, colli babi,


cymhlethdodau ar ôl yr enedigaeth a marwolaeth grud. Gall stopio smygu helpu i rwystro’r holl risgiau hyn, a mwya’ cynnar y mae’r fenyw’n stopio, gorau oll.” Dywedodd Ian Scale o Dîm Iechyd


Cyhoeddus Hywel Dda: “Mae Dim Smygu Cymru yn cynnig blaenoriaeth o ran cael apwyntiadau, cymorth ysgogol, a chymorth 1-1 neu dros y ffôn er mwyn cynorthwyo mamau a’u partneriaid i beidio â smygu gydol eu beichiogrwydd ac ar ôl i’r babi gael ei eni.” Gall unrhyw un sydd am stopio ysmygu gysylltu â Dim Smygu Cymru am ddim ar 0800 085 2219 neu fynd i www.dimsmygucymru.com


Penodi ymddiriedolwyr newydd


Penodwyd pedwar ymddiriedolwr newydd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr a'r Rhwydwaith Cyllido. Daeth mwy na 70 o gynrychiolwyr o sefydliadau gwirfoddol ar draws y Sir i'r digwyddiad a


Cenedlaethol Lantra yng Nghymru: “Mae'r gwobrau hyn yn anrhydeddu'r rhai yn y sector seiliedig ar dir sy'n ymroddedig i wella eu galluoedd. Mae'r sgiliau hyn yn hollbwysig i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol i ddiwydiannau amgylcheddol a seiliedig ar dir sy'n cyfrannu cymaint i economi Cymru, ac mewn rhai achosion i'w goroesiad.”


gynhaliwyd yn Neuadd Ddinesig Llandeilo. Clywodd cyfranogwyr gyflwyniadau gan Gynllun Grantiau Tirwedd a Threftadaeth Sir Gaerfyrddin, WREN (Waste Recycling Environmental Ltd), a Chronfa Buddsoddi Cymunedol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Roedd y stondinau gwybodaeth yn cynnwys Plas Llanelly, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Menter Bro Dinefwr a Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser. Ymddiriedolwyr newydd Bwrdd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin


oedd Gillian Wright, Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru; Gwynn Bowyer, Cyfundeb Eglwysi Annibynnol Gorllewin Caerfyrddin; Harvey Jones, Age Concern; a Janice Williams, Grŵp Mynediad ar gyfer Pobl Anabl Sir Gaerfyrddin.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20