This page contains a Flash digital edition of a book.
12 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


Cynhadledd Gyrfaoedd a Sgiliau i Ieuenctid y Sir


Bydd dros 2,000 o ddisgyblion rhwng 14 a 16 oed yn dod i gonfensiwn gyrfaoedd a sgiliau ym Mharc y Scarlets ar 7fed Chwefror sydd wedi cael ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y gynhadledd ieuenctid fawr


yn helpu'r rhai sy'n bresennol i gael cyngor a gwybodaeth gan gynrychiolwyr o ddiwydiannau ynghylch gwahanol yrfaoedd fel rhan o'u Sgil Allweddol mewn Gwella eu Dysgu a'u Perfformiad eu Hunain. Mae'r Cyngor o'r farn ei bod yn hanfodol cadw


pobl ifanc yn y sir er mwyn sicrhau bod sgiliau entrepreneuriaeth newydd yn cael eu rhoi ar waith ym myd gwaith sy'n helpu Sir Gaerfyrddin i ddod yn sir arloesol. Byddant yn chwilio am wybodaeth benodol


ynghylch disgrifiadau swydd, tâl gwyliau, oriau gwaith a rhagolygon swyddi yn y dyfodol Bydd y diwrnod yn canolbwyntio ar chwe sector: •Cynhyrchu Bwyd •TG/y Cyfryngau •Gofal •Gweithgynhyrchu •Adeiladu •Adwerthu/Entrepreneuriaeth Mae'r Cyngor wedi trefnu'r gynhadledd i helpu


i wella'r cyfleoedd i chwilio am swyddi yn y dirwasgiad economaidd presennol lle mae nifer y


www.sirgar.gov.uk


bobl ifanc sy'n ddi-waith yn y sir wedi cynyddu. Mae‘r awdurdod lleol ac asiantaethau eraill yn


darparu nifer o wahanol brosiectau sy'n gallu rhoi cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc. Fel awdurdod lleol mae'n hanfodol cadw pobl ifanc frodorol yn y sir er mwyn sicrhau bod sgiliau entrepreneuriaeth newydd yn cael eu rhoi ar waith ym myd gwaith. Bydd yn helpu Sir Gaerfyrddin i ddod yn sir arloesol. Mae'r Cyngor o'r farn bod gan y sector preifat rôl


bwysig i'w chwarae o ran hybu arloesedd. Mae angen datblygu diwylliant cadarnhaol ymhlith pobl o bob oedran ym mhob ardal oherwydd bod diffyg busnesau newydd a busnesau arloesol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd creu'r diwylliant iawn mewn busnes yn


arwain at sgiliau da o safon a hunanhyder a bydd cael y wybodaeth iawn yn cael effaith hirdymor ar yr economi leol.


Dewch i ddysgu sgìl newydd eleni Gwella Cartrefi


Mae'r cyngor bellach dros hanner ffordd trwy'r rhaglen £203 miliwn o welliannau i sicrhau bod cartrefi ei holl denantiaid yn cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2012-13, bydd bron 70% o dai'r cyngor yn cyrraedd y safon hon. Mae'r rhaglen o waith i adnewyddu neu amnewid toeon, ffenestri a drysau, ac inswleiddio llofftydd a waliau ceudod, eisoes wedi ei chwblhau. Bydd y gwaith arall, yn cynnwys


BYDD cyrsiau rhan-amser gyda'r hwyr mewn adeiladu ar gael ar ôl y Pasg yng Nghanolfan Dysgu Galwedigaethol Coleg Sir Gâr yn Llanelli. Caiff y cyrsiau, a drefnir gan adain Dysgu


Oedolion yn y Gymuned - Cyngor Sir Caerfyrddin, eu cynnal gan ddarlithwyr coleg yn y ganolfan yn y Ffwrnais. Dywedodd Adrienne Bedington, swyddog dysgu cymunedol: “Mae'r cyrsiau'n boblogaidd iawn gan y cyhoedd eisoes ac rydym ni'n annog dynion a merched i ddod i


ddysgu sgiliau newydd ar ôl y Pasg." Mae'r cyrsiau'n rhai ymarferol ac mae'r cyfleusterau wedi'u trefnu'n barod ar gyfer pob rhan o'r cwrs. Bydd darlithwyr a chrefftwyr profiadol yn rhoi'r rhaglen ar waith. I ddysgu sgiliau newydd o ran paentio, addurno, plymwaith, gwaith gosod brics, gosod teils, a phlastro, anfonwch neges e-bost i'r cyfeiriad canlynol, ADBedington@sirgar.gov.uk, neu ffoniwch 01554 744355 i gael rhagor o wybodaeth.


gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, a systemau gwres canolog ynni effeithlon, yn parhau eleni. Eleni hefyd cychwynnir tri datblygiad newydd o fyngalos yn ardal Llanelli – y cartrefi


cyntaf i'w hadeiladu gan y cyngor ers dros 20 mlynedd. Mae cynigion manwl ar gyfer y 39 byngalo dwy ystafell wely yn Y Waun a Llysnewydd yn Llanelli, a Morfa Maen yng Nghydweli, yn mynd drwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd. Meddai'r Cyng. Hugh Evans, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Dai: “Yn ystod y 12 mis


nesaf, bydd llawer mwy o'n tenantiaid yn cael gwella eu cartrefi fel rhan o raglen barhaus STSG. Yn sgil y buddsoddiad hwn, bydd eu cartrefi yn haws eu gwresogi, yn rhatach eu cynnal, ac yn well i'w hiechyd.” Mae tudalennau Safon Tai Sir Gaerfyrddin ar y we yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Ewch


i www.sirgar.gov.uk yn ystod yr wythnosau nesaf i gael newyddion pellach a'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20