This page contains a Flash digital edition of a book.
6


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Gwasanaethau Eiddo


Mae partneriaeth ffurfiol rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr a Chymdeithas Hyfforddiant Adeiladu Sir Gaerfyrddin yn cydnabod gweledigaeth a rennir ar gyfer datblygu'r gweithlu yn y dyfodol. Adeiladu Sir Gaerfyrddin gyda'n gilydd yw'r brand, a


bydd yn fodd i ddatblygu rhaglenni newydd a meithrin mentrau presennol. Mae nifer o brosiectau arobryn ar waith gan y


bartneriaeth, megis Camau Nesaf, Adeiladu eich Dyfodol eich hun yn Sir Gâr, Prentisiaethau a Rennir a Meithrin Cadetiaid. O'u cyfuno, mae'r rhaglenni hyn yn creu amgylchedd a gynhelir ar gyfer dysgu a hyfforddiant i ddynion a menywod, o rai sy'n gadael yr ysgol i grefftwyr cymwysedig sydd am fod yn rheolwyr. Meddai Phil Lumley, pennaeth adran Gwasanaethau Eiddo'r cyngor: “Rydym yn falch o'n cyflawniadau, a


thrwy ffurfioli ein partneriaeth gobeithiwn symud ymlaen eto i greu mwy o gyfleoedd i bobl, beth bynnag yw eu hamgylchiadau cymdeithasol.” I ddathlu arloesedd y bartneriaeth, mae cyflwyniad i'r


cyfryngau yn arddangos sut mae holl rannau ‘jigsô’ y bartneriaeth yn dod at ei gilydd er budd i bobl a busnesau lleol. Bydd ar gael ar-lein yn fuan.


Diddos a Chynnes


www.sirgar.gov.uk


Cadetiaeth y Cyngor i Saer Coed


Mae saer coed a enwyd yn ddiweddar yn Adeiladwr Ifanc y Flwyddyn y Deyrnas Unedig wedi cael cynnig lle ar gynllun Cadetiaeth Adeiladu'r Cyngor. Gwobrwywyd Shane Evans o Rydaman drwy'r cynllun


sy'n dathlu cyflawniadau pobl ifanc sydd wedi goresgyn rhwystrau personol er mwyn cael hyfforddiant a gweithio yn y diwydiant adeiladu. Mae Shane, sy'n dioddef o ffibrosis codennog, wedi bod yn benderfynol o lwyddo fel saer cymwys. Dechreuodd ei yrfa adeiladu drwy'r cynllun Rhannu


Prentisiaethau, sy'n cael ei reoli gan CCTAL a bellach bydd yn cael ei gefnogi gan y Cyngor i astudio ar gyfer HNC mewn rheolaeth adeiladu a thechnoleg yng Ngholeg Sir Gâr ac ar yr un pryd yn manteisio ar leoliadau mewn diwydiannau lleol. Ar ôl cwblhau'r HNC, bydd ei gymwysterau yn ei alluogi i wneud cais am swyddi uwch a swyddi rheoli. Dywedodd Shane: "Rwyf wedi gorfod gweithio


dwywaith, teirgwaith yn galetach er mwyn cyflawni'r gwaith mewn pryd yn sgil aros mewn ysbyty am hyd at bythefnos ar y tro ac apwyntiadau cyson ond dydw i erioed wedi gadael i'm salwch amharu ar fy uchelgais. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill; roedd cyrraedd y


Mae cannoedd o deuluoedd yn Sir Gaerfyrddin wedi mwynhau Nadolig cysurus yn sgil rhaglen inswleiddio helaeth. Mae adrannau Tai a Gwasanaethau Eiddo’r cyngor wedi bod yn cydweithio i


wella effeithlonrwydd ynni tai fel rhan o waith £203 miliwn Safon Tai Sir Gaerfyrddin. Er bod mwyafrif o gartrefi yn elwa o inswleiddio waliau ceudod, mae nifer o eiddo â waliau solet lle mae inswleiddio yn anoddach – cartrefi fel y rhain yn Nhregynnwr, Caerfyrddin. Nawr, yn sgil system gor-rendro arloesol, mae'r tai hyn hefyd yn cael eu hinswleiddio, gan leihau ôl-troed carbon aelwydydd, yn ogystal â'u biliau tanwydd. Meddai'r Cyng. Hugh Evans, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Dai a Gwasanaethau Eiddo: “Rydym yn ymroddedig i wneud cartrefi'n gynnes, yn gysurus ac yn fforddiadwy. Mae'n wych gweld llawer o aelwydydd yn elwa eisoes.”


Adeiladu eich Dyfodol


rownd derfynol yn gyflawniad." Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn credu mai y ni yw'r


cyngor cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno'r cynllun a ddatblygwyd yn wreiddiol yn Awstralia. O blith y pum cadét a oedd yn rhan o'r cynllun yn 2009, mae dau ohonynt eisoes wedi cael swyddi Arolygwyr Adeiladau.


Mae Adeiladu eich Dyfodol eich hun yn Sir Gâr, rhaglen sydd yn rhoi rhagflas o'r diwydiant adeiladu i bobl, wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Tai Cymru. Y cyngor, Coleg Sir Gâr, CCTAL a Chymunedau'n Gyntaf yw'r bartneriaeth


sy'n gyfrifol am y rhaglen. Gwelwyd ei bod yn meithrin hyder a dyheadau cannoedd o bobl, ac wedi golygu bod o leiaf 60 yn cychwyn ar swydd newydd neu gwrs coleg. Cyrhaeddodd y rhestr fer yn y categori Datblygu ac Adfywio Cymunedau.


Clod i Adeiladwyr Ystyriol


Mae contractwyr sy'n gweithio ar brosiectau gwerth miliynau i foderneiddio ysgolion uwchradd Dinefwr wedi cael canmoliaeth o dan y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol. Mae TRJ Ltd, sy'n gweithio ar Ysgol Dyffryn Aman, a Kier, sy'n gweithio ar Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, yn y 10% uchaf yn genedlaethol am eu gofal mewn meysydd megis yr amgylchedd, bod yn gymydog da, a diogelwch ar y safle.


Menter genedlaethol yw'r Cynllun Contractwyr


Ystyriol, a sefydlwyd i wella delwedd adeiladu. Caiff cwmnïau eu monitro yn ôl Côd Ymarfer Ystyriol, gyda'r bwriad o annog arfer gorau y tu hwnt i ofynion statudol. Meddai Hywel Harries, Rheolwr Dylunio Eiddo a Chydymffurfiaeth y cyngor: “Llongyfarchiadau i'r ddau gontractwr ar farciau eithriadol o uchel ar eu safleoedd adeiladu.”


Yn rhifyn diwethaf Newyddion Sir Gâr, cafodd llun o eiddo yng Ngholeg y Meysydd ei ddefnyddio mewn erthygl am gartrefi fforddiadwy. Yn anffodus, defnyddiwyd y llun anghywir sef llun o gartref nad oedd yn gartref fforddiadwy. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20