10 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
Cyfradd droseddu’r sir yn gostwng 10%
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn dal i fod yn un o'r llefydd mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr. Eleni rhwng Ebrill a Thachwedd
roedd 554 yn llai o drigolion wedi dioddef trosedd o gymharu â'r un cyfnod y llynedd sy'n ostyngiad o bron 10%. Cyfanswm nifer y digwyddiadau a gofnodwyd oedd 5,157. Mae ffigurau swyddogol hefyd yn
dangos cyfradd ddatrys gyffredinol o 55.6% sy'n un o'r uchaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn dangos bod cyfraddau
troseddu yn dal i ostwng (cafwyd gostyngiad o 25% dros y pum mlynedd diwethaf ) a chyfraddau datrys yn dal i fod yn uchel.
Mae troseddau treisgar wedi
gostwng 36% (o 401 i 256); mae nifer y byrgleriaethau domestig wedi gostwng 26% (o 208 i 155); mae difrod troseddol wedi gostwng 12% (o 1057 i 932); mae achosion o ddwyn yn gyffredinol wedi gostwng 13% (o 1282 i 1113) ac mae nifer y byrgleriaethau eraill wedi gostwng 31% (o 398 i 273). Hefyd mae gostyngiad o 18% sef o
8,579 i 7,031 yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol y cafodd yr heddlu wybod amdanynt. Mae hyn yn golygu bod plismona
rhagweithiol, gweithio’n gryf drwy bartneriaeth a mentrau aml- asiantaeth sy'n cael eu targedu'n ofalus yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae ymddygiad gwrthgym-
deithasol yn brif flaenoriaeth i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ac mae ymyrraeth gynnar yn effeithiol. Anfonwyd 288 o lythyrau rhybuddio yn ystod y cyfnod er mwyn atal rhagor o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Meddai’r Cyng. Pam Palmer, yr
Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol: “Mae'n bwysig bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn y gymuned maent yn byw ynddi. Rydym yn treulio llawer o amser yn edrych ar y mathau o droseddau sy'n digwydd a lle maent yn digwydd, ac yna rydym yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i fynd i'r afael â hyn. Rydym ni eisiau gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle mwy diogel i fyw, i weithio ac i ymweld â hi."
Cymorth i Bobl Hŷn – Diogelwch yn y Cartref
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi uno er mwyn gwneud archwiliadau diogelwch yn y cartref am ddim ar gyfer pobl hŷn. Bydd y Fan Bobi yn ymweld â chartrefi lle bydd saer coed
cymwys yn edrych ar ddiogelwch ac yn gosod cloeon, larymau a chadwyni drws os oes angen ynghyd â chynnig cyngor er mwyn lleihau'r risg o ddioddef trosedd. Diolch i gyllid gan y Cyngor Diogelwch Trydanol, bydd
staff y gwasanaeth tân yn ymuno ag ef er mwyn cyflenwi a gosod larymau tân a rhoi gwybodaeth ymarferol ynghylch adnabod peryglon tân yn y cartref. Dywedodd Jan Morgan, 68 oed o Stryd Robinson,
Llanelli: "Gosodwyd twll ysbio yn y drws ffrynt ac archwiliwyd pob clo yn y tŷ. Gosodwyd larwm tân newydd ar y landin, archwiliwyd y tan a rhoddwyd cyngor imi ynghylch gorlwytho socedi pŵer. Rwy'n teimlo'n fwy diogel nawr ac mae hyn wedi gwneud imi fod yn fwy gofalus." Mae'r Prosiect yn rhan o ymgyrch y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol i gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.
Jan Morgan, sydd wedi manteisio ar y gwasanaeth, gyda Colin Taylor, Saer Coed Fan Bobi a Steve Winstone o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud apwyntiad, ffoniwch 0800 1691234 neu 101.
Rhybudd: sgam nid cymorth cyfrifiadurol
Mae pobl y Sir yn cael eu rhybuddio ynghylch galwyr ffôn sy'n cynnig cymorth cyfrifiadurol ffug. Mae'r sgam yn cynnwys pobl yn
ffonio preswylwyr yn ddi-wahoddiad ac yn dweud wrthynt eu bod nhw'n cynnig cymorth technegol a bod problemau â'u cyfrifiadur y gallant eu datrys. Y nod yw annog pobl i roi manylion eu cyfrifiadur er mwyn i'r twyllwyr
gael rheolaeth dros dro ar y cyfrifiadur a chael mynediad i fanylion personol a manylion banc. Mae'r heddlu a Safonau Masnach y
Cyngor wedi derbyn nifer o gwynion. Dywedodd Philip Davies, Pennaeth
Diogelu'r Cyhoedd: "Ni ddylech byth ganiatáu i rywun sy'n eich ffonio chi'n ddi-wahoddiad gael rheolaeth dros eich cyfrifiadur. Ymgais yw hwn i geisio cael manylion personol sy'n
gallu cael eu defnyddio er mwyn dwyn arian. "Ni fyddai Microsoft nac unrhyw
beiriannydd cyfrifiadurol arall yn cysylltu â defnyddiwr cyfrifiadurol dros y ffôn i ddatrys unrhyw broblemau cyfrifiadurol I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Galw Sir Gâr ar 01267 234567.
www.sirgar.gov.uk
Carmarthenshire Community Safety Partnership ˆ
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gar
Mae cyflymder yn lladd
Disgyblion o Ysgol Peniel yn defnyddio Dyfais Dangos Cyflymder i ymdrin â gyrru’n rhy gyflym. Yn y llun hefyd mae’r Cynghorydd Pam Palmer, Bethan Hodgkinson sef un o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, yr Arolygydd Steve Lee a Nicola Olsson sef Swyddog Cynorthwyol Diogelwch Ffyrdd.
Mae gyrru'n rhy gyflym yn un o'r ffactorau fwyaf cyffredin mewn damweiniau ffyrdd angheuol ac mae ymgyrch fawr ar waith er mwyn annog pobl i arafu. Mae'r gwahaniaeth rhwng ychydig o filltiroedd yr awr yn gallu golygu'r
gwahaniaeth rhwng byw neu farw. Po gyflymaf y byddwch chi'n gyrru, lleiaf yw'r amser sydd gennych chi i arafu. Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynyddu ymwybyddiaeth
ynghylch canlyniadau gyrru'n rhy gyflym fel rhan o'i hymgyrch 'Byddwch yn Gall, Gyrrwch yn Gall.' Meddai’r Cyng. Pam Palmer, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros
Ddiogelwch Cymunedol: “Mae'r Bartneriaeth yn gweithio'n galed i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu'u hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd ond mae terfynau cyflymder yno am reswm. Os byddwch chi'n lladd rhywun drwy yrru'n rhy gyflym, bydd yn rhaid ichi fyw â'r canlyniadau emosiynol tymor hir. Mae nifer y bobl sy'n cael eu
hanafu ar y ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf a nodwyd mai'r ffordd sydd wedi'i gwella fwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran Diogelwch oedd yr A40 yn arbennig rhwng Caerfyrddin a Llanymddyfri. Mae'r ffigurau'n dangos bod nifer y damweiniau difrifol neu angheuol ar yr
hyn a ystyrid fel y ffordd fwyaf peryglus yng Nghymru ar un adeg wedi gostwng 74 y cant. Mae hyn wedi digwydd yn sgil camau peirianegol eithaf rhad ond camau a allai arbed nifer o fywydau megis gwaith gosod wyneb newydd, gwell system ddraenio a chyffyrdd mwy diogel. "Mae gennym lawer o fentrau ar waith er mwyn lleihau nifer y modurwyr
sy'n goryrru ac un o'r mentrau hynny yw gweithio gydag ysgolion lleol," meddai'r Arolygydd Steve Lee. Yn ogystal, mae addysg yn bwysig dros ben. "Mae gennym lawer o fentrau ar
waith er mwyn lleihau nifer y modurwyr sy'n goryrru ac un o'r mentrau hynny yw gweithio gydag ysgolion lleol," meddai'r Arolygydd Steve Lee.
Y Ffeithiau:
•Lladdwyd neu anafwyd 4,187 o bobl yn ddifrifol yn 2009 mewn damweiniau lle'r oedd y gyrwyr yn gyrru'n rhy gyflym.
•Mae risg marwolaeth oddeutu pedair gwaith yn fwy pan fo cerbyd yn bwrw cerddwr ar gyflymder o 40mya nag ar gyflymder o 30mya.
•Mae hi bedair gwaith yn fwy tebygol y bydd damweiniau difrifol yn digwydd ar ffyrdd gwledig nag ar ffyrdd trefol.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20