14 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Hamdden yn Sir Gâr Cae rasio Ffos Las yn cynnig hwyl i'r teulu cyfan
CAE Rasio Ffos Las yn Sir Gaerfyrddin yw un o'r atyniadau mwyaf newydd yng Nghymru, ac mae'n lle hynod o boblogaidd gan deuluoedd i dreulio'r diwrnod. Yn 2009 hwn oedd y cwrs rasio cyntaf o'i fath i agor ym
Mhrydain ers mwy na 70 o flynyddoedd. Enwyd y cwrs yn 'Gwrs Rasio Bach Gorau' y De-orllewin yn ystod 2 o'r 3 blynedd diwethaf. Mae'r cwrs yn fan cynnal ar gyfer ffilmiau gwylio o'r car,
nosweithiau 'gourmet' a chomedi, ffeiriau priodas, ac arwerthiannau cist car. Bydd 26 o ddigwyddiadau rasio'n cael eu cynnal ar y cwrs yn
ystod 2012, yn cynnwys rasio ar y gwastad a rasio dros y clwydi. Ni chodir tâl mynediad ar rai o dan 16 oed os ydynt yng nghwmni oedolyn, felly gall teuluoedd fforddio mynd i'r rasys am ddiwrnod neu noson. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae diwrnod 'Pencampwriaeth
William Hill Cymru dros y Clwydi', chwe noson yn ystod y gwanwyn a'r haf, gŵyl haf ym mis Awst, a Gŵyl San Steffan. Bydd hyd yn oed rasio yn y cyfnod sy'n arwain at Ŵyl Banc dydd Mawrth 5 Mehefin, adeg dathliadau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines. Mae rhagor o wybodaeth a thocynnau ar gael ar-lein,
www.ffoslasracecourse.com, neu drwy ffonio 01554 811092.
www.sirgar.gov.uk
Y brif ras yn Ffos Las yn 2012 yw 'Pencampwriaeth Cymru dros y Clwydi' ar Chwefror 4. Enillwyd y ras ym mis Chwefror 2011 gan geffyl rasio o'r enw 'Oscar Whisky', y mae Dai Walters (Cadeirydd Ffos Las) yn berchen arno, ac mae'r ceffyl hwnnw'n mynd amdani eleni eto. Yn y llun (o'r pen chwith) mae'r hyfforddwr Nicky Henderson, y joci Barry Geraghty a Dai Walters.
Dysgu nofio – cyfle i bawb o bob oed Gwobrau lu i'n nofwyr ni
Rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dŵr ar gyfer y sir yw Aqua Sir Gâr, a hynny i bobl o bob oedran a gallu. Mae pyllau nofio canolfannau hamdden
y sir yn lle gwych i'r teulu cyfan dreulio amser gyda'i gilydd. Mae'r rhaglen Dysgu Nofio yn llwyddiant ysgubol, a hon yw'r ffordd orau i blant ddysgu. Hefyd nid oes angen i'r rheiny na ddysgodd nofio yn blant boeni na chânt byth gyfle i wneud hynny, oherwydd mae Rhaglen Dysgu Nofio i Oedolion ar gael yn ogystal. Caiff cyfleoedd i nofwyr mwy profiadol
eu darparu drwy'r Clwb Nofio Meistri, Fitswim, ac Aquafit, sef aerobeg dŵr. Mae rhaglen deulu y ganolfan hamdden
yn rhoi cyfle i rieni gael rhan flaenllaw yn natblygiad sgiliau dŵr eu plant. Gan fod dosbarthiadau rhieni a babanod ar gael, nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau mynd â'r rhai bach i'r pwll. Ceir sesiynau Nofio i'r Teulu ar y penwythnos, y mae plant yn gallu mynd iddynt am ddim. Hefyd mae nifer cynyddol o bobl yn y garfan sirol lle mae'r
athletwyr ifanc gorau yn cael hyfforddiant proffesiynol ac yn cystadlu yn erbyn y doniau ifanc gorau ym Mhrydain.
Cafodd carfan nofio, Nofio Sir Gâr ddiweddglo llwyddiannus iawn i flwyddyn arbennig yn 2011 gyda’g ambell i ganlyniad yn profi fel y rhai gorau erioed iddyn nhw. Mae nofwyr ifanc gorau’’r sir yn hyfforddi gyda charfan
Nofio Sir Gar. Y prif hyfforddwr yw y nofiwr cyn- ryngwladol, Austyn Shortman. Maen’t yn cystadlu ar lefel ranbarthol Cymru a Phrydain. Nod y garfan yw i gynhyrchu athletwyr a fydd yn medru nofio dros Gymru mewn gemau Cymanwlad y dyfodol. Cyflawnodd y garfan ei cyfrif medalau gorau erioed ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Gaeaf Cymru ym mis Rhagfyr. Cafodd Jonah Lewis, sydd yn hyfforddi gyda Nofio Sir Gar a gyda Chlwb Nofio Caerfyrddin gyfnod nodedig iawn, wrth ennill wyth medal aur. Ennillodd Iestyn Cole dwy fedal aur, a medal aur i Victoria Moulson a medal efydd i Steffan Morris. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt ac i bawb arall a wnaeth gystadlu. Roedd carfan Austyn hefyd wedi cystadlu yng
I gael rhagor o wybodaeth am raglen nofio Aqua Sir Gâr ac i gael amserlen eich pwll lleol, ewch i
www.actifsirgar.co.uk
Nghynrair Derfynol Fawreddog Cenedlaethol ym mis Rhagfyr. Canlyniad gorau erioed ir tîm, a wnaeth orffen yn 2il allan o holl dimoedd Cymru. Mae’r flwyddyn newydd yn addo i fod yr un mor llwyddiannus.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20