www.sirgar.gov.uk
Astudio Mandarin
Mae disgyblion o Ysgol Bro Myrddin yn astudio Mandarin ar lefel Prifysgol. Mae'r deg disgybl o flwyddyn 12 yn
astudio modiwl Mandarin fel myfyrwyr y Gyfadran Gysylltiol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'r modiwl a gynigir ar lefel 4 yn cyflwyno’r iaith a'r wybodaeth ddiwylliannol sy'n gysylltiedig i’w helpu i ddatblygu sgiliau sylfaenol wrth siarad, gwrando, ysgrifennu a darllen. Mae modiwlau achrededig eraill a gynigir drwy’r Gyfadran yn cynnwys: Meddyliau ar Gymru, Ewrop a'r Byd; Athroniaeth, Cymraeg Galwedigaethol; Meddwl a Dysgu Effeithiol ac O Homer i Harry Potter, sy'n edrych ar rai o'r prif dueddiadau ym maes diwylliant, athroniaeth a llenyddiaeth hynafol a modern Ewropeaidd.
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Pob Ysgol yn Eco-ysgol
Helpu'r gymuned
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi lansio dwy fenter newydd gydag Undeb y Myfyrwyr i gael myfyrwyr i wirfoddoli i helpu sefydliadau lleol. Mae'r Brifysgol wedi creu Cyswllt gyda CAVS
(Cymdeithas
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr) a CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion).Mae hi hefyd wedi adfywio’r cyswllt gyda Chlwb Rotari Caerfyrddin, o dan yr enw Rotaract, sy’n agored i unrhyw un rhwng 18 a 30 oed. Meddai, Gwilym Dyfri Jones,
Profost campws Caerfyrddin: "Mae'r mentrau hyn yn rhoi
MAE pob un o blith y 125 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin bellach wedi cofrestru ar gyfer Rhaglen Eco-ysgolion Sir Gaerfyrddin. Dyfarniad rhyngwladol yw Eco-ysgolion, ac mae
Cyngor Sir Caerfyrddin, Cadwch Gymru'n Daclus, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cydweithio i'w roi ar waith. Ymhlith y pynciau y mae'r disgyblion yn eu hastudio mae gwastraff, sbwriel, ynni, dŵr, trafnidiaeth, byw’n
Manylion am Brentisiaethau
Cynhelir digwyddiad a fydd yn cynnig gwybodaeth ynghylch cyfleoedd hyfforddiant prentisiaethau a sut y gall cwmnïau fanteisio drwy gefnogi cynlluniau prentisiaethau ym Mharc y Scarlets ym mis Chwefror. Mae Coleg Sir Gâr yn cynnal Ffair Prentisiaethau a Sgiliau
am yr ail dro yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau ac maent yn cynnig cyngor ynghylch pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael a pha fath o gyllid sydd ar gael ar gyfer busnesau sy'n cefnogi cynlluniau prentisiaethau. Mae sesiynau cyflwyno ymarferol yn cael eu trefnu mewn
nifer o feysydd prentisiaethau'r coleg sy'n cynnwys cyfrifeg, amaethyddiaeth, busnes a gweinyddiaeth, gofal, arlwyo a lletygarwch, adeiladu, peirianneg, astudiaethau ar dir, peirianneg, marchogaeth, trin gwallt, rheolaeth, plymwaith a weldio a gwneuthuro. "Nod y digwyddiad hwn yw darparu cyfle i'r sawl sy'n ystyried prentisiaeth siarad ag ymgynghorwyr hyfforddiant a staff addysgu," dywedodd Kim Rees, sef rheolwr cyswllt â chyflogwyr a datblygu prentisiaethau Coleg Sir Gâr. Bellach, mae nifer o bobl yn dewis prentisiaeth yn hytrach nag addysg mewn prifysgol oherwydd mae'r siawns o gael gwaith yn uwch. "Mae nifer yn mynd ymlaen i wneud gradd ar ôl gwneud
prentisiaeth gan ddefnyddio'r ethos 'ennill wrth ddysgu' o ran ennill cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan ddiwydiant a meithrin sgiliau dysgu ymarferol sy'n seiliedig ar waith. Gwahoddir cyflogwyr i fynychu'r digwyddiad er mwyn
trafod prentisiaethau ar gyfer eu busnes. Cynhelir y Ffair Prentisiaethau a Sgiliau ym Mharc y Scarlets ar 7fed Chwefror o 3.30pm i 5pm. Cysylltwch drwy ffonio 01554 748602 neu drwy e-bostio
kim.rees@
colegsirgar.ac.uk
iach, a dinasyddiaeth fyd-eang. Hyd yn hyn mae cyfanswm o 130 o Faneri Gwyrdd wedi cael eu dyfarnu yn Sir Gaerfyrddin, ac mae pedair ysgol wedi cael y Wobr Platinwm anrhydeddus – sy'n cyfateb i bedair baner werdd! Yn y llun mae staff a disgyblion Ysgol y Castell,
Cydweli, sef yr ysgol ddiweddaraf i gael Gwobr Platinwm.
cyfleoedd pellach i fyfyrwyr a phobl ifanc Sir Gâr i wasanaethu a helpu'r gymuned leol." "Ar hyn o bryd mae 91.4 y cant o'n
Cydnabod Cyfraniad Gwirfoddolwyr
myfyrwyr yn gweithio o fewn chwe mis ar ôl graddio – dyma’r ffigwr uchaf yng Nghymru. Rydym yn darparu profiad dysgu o ansawdd uchel i’n myfyrwyr. Ond mae addysg uwch yn llawer mwy na phroses o drosglwyddo gwybodaeth; mae'n fater o addysgu a grymuso myfyrwyr i ddod yn ddinasyddion gweithredol, gofalgar a chyfrifol."
Dementia: cymorth ar gael
Mae Hywel Dda wedi penodi Cyd- gysylltydd Dementia ar gyfer y sir fel rhan o’i ymrwymiad i Weledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia. Erbyn 2021, disgwylir i nifer y bobl
â dementia yng Nghymru gynyddu o 31% ac o gymaint â 44% mewn rhai ardaloedd gwledig. Rôl Tammy Morris, Cyd-gysylltydd
Joanne Yeo gyda Phil Jarrold.
Dathlwyd ymrwymiad gwirfoddolwyr yn Sir Gaerfyrddin mewn digwyddiad arbennig. Cyflwynodd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin dystysgrifau
Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i unigolion a grwpiau. Mae'r gwobrau a gynhelir yn flynyddol yn gwobrwyo pobl sydd wedi gwneud cyfraniad gwych i'w cymuned. Phil Jarrold, y siaradwr gwadd, sy'n Ddirprwy Brif Weithredwr Cyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru a gyflwynodd y tystysgrifau. Cafodd un ar bymtheg o grwpiau ac unigolion sy'n gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin ganmoliaeth arbennig ac roedd dau ohonynt yn enillwyr yn eu categori: Joanne Yeo, Glanymor a Thŷ-isha, Llanelli; a Grŵp Cymunedau Coll Bwlchygwynt a Machynys. Dywedodd Mair Stephens, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cymdeithas Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin: "Rwy'n gobeithio bod pawb yn cydnabod gwaith gwerthfawr y gwirfoddolwyr ac y bydd pobl yn parhau i enwebu gwirfoddolwyr eithriadol ac ymroddedig ar gyfer gwobrau yn sirol ac yn genedlaethol.
Dementia Sir Gaerfyrddin, yw gwella ansawdd bywyd pobl â dementia a’u teuluoedd drwy hyrwyddo gwaith partneriaeth gwell rhwng darparwyr gwasanaethau. Bydd Tammy yn cydweithio ag ysbytai a gwasanaethau iechyd meddwl a hefyd ym maes tai, y sector gwirfoddol a’r gymuned ehangach. Mae Llinell Gymorth Dementia
Cymru ar gael sy’n cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth am ddim i ofalwyr neu i bobl â dementia. Ffoniwch am ddim ar 0808 808 2235 neu anfonwch neges destun â’r gair HELP a’r manylion sydd eu hangen arnoch i 81066 (e.e. HELP cwnsela yn SA31).
13
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20