www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012 Tudalen y Plant
Clybiau Bwrlwm yn cynnig hwyl a hamdden hanner tymor
11
Gall gwyliau hanner tymor fod yn llawn hwyl yng ngwersylloedd gweithgareddau Bizzy Bees yng Nghanolfannau Hamdden Sir Gaerfyrddin. Mae'r gweithgareddau ar draws chwe
chanolfan hamdden y sir yn cynnwys tenis bwrdd, nofio, caiacio, trampolinio, polo dŵr a mwy. Mae modd archebu un diwrnod neu wythnos
gyfan. Awgrymir cadw lle yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Mae hefyd sesiynau nofio am ddim
strwythuredig a rhydd yng nghanolfannau hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin a Llanelli, yn ogystal ag ym mhwll nofio Llanymddyfri yn ystod gwyliau hanner tymor. Mae nofio am ddim ar yr amserlen yn ystod
pob gwyliau ysgol. Mae sesiynau nofio dyddiol am ddim ym mhob canolfan. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu ewch i
www.actifsirgar.co.uk
Parti pen-blwydd? Dim problem.
NID yw trefnu partïon pen-blwydd yn dasg hawdd – ond mae cymorth ar gael gan dîm Actif Sir Gâr Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae cymaint i feddwl yn ei gylch - bagiau
parti i'w gwneud, adloniant i'w drefnu, a gwahoddiadau i'w hysgrifennu a'u hanfon. Gall y tîm drefnu hyn oll a mwy, a chynnig amryw o wahanol weithgareddau a themâu parti. Bydd cydlynydd y parti yno i'ch cyfarch pan
fyddwch yn cyrraedd y parti, a bydd yn sicrhau eich bod chi a'ch plant yn cael yr amser gorau posibl. Ar ddiwedd y parti bydd pob plentyn yn
cael bag parti a bydd y sawl sy'n dathlu ei ben- blwydd yn cael carden. Gall plant fwynhau amrywiaeth o
weithgareddau yng Nghanolfannau Hamdden Dyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanelli, Castellnewydd Emlyn, a Sanclêr, yn ogystal â phwll nofio Llanymddyfri, a chael parti pen- blwydd i'w gofio. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol
bartïon sydd ar gael, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol.
Enillwyr y gystadleuaeth lliwio yn rhifyn diwethaf Newyddion Sir Gar oedd
Sara Jones, 7 oed, Drefach Jenny Corcoran, 9 oed, Bynea
Mae cyfle i enillwyr cystadleuaeth liwio’r rhifyn hwn yn ennill 2 tocyn teulu i sinema Apollo Caerfyrddin.
Lliwich y llun hwn o’ch plismon lleol a danfonnwch at Cyfathrebu, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1 JP erbyn Dydd Llun 13 Chwefror i fod a chyfle i ennill y tocynnau, sef 2 docyn i oedolion a 2 docyn i blant.
6 sony 4k Digital screens • Bar gyda thrwydded lawn Costa Coffee • Gostynhgiadau ar gyfer tocyn teulu Llinell archebu 0871 220 6000
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20