This page contains a Flash digital edition of a book.
www.sirgar.gov.uk Hysbysu'r Heddlu – cynllun newydd


Mae heddlu yn Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno menter ymladd trosedd yn y flwyddyn newydd - RIPORTIWCH. Bwriad y fenter yw diogelu aelodau bregus ein


cymuned, gan ganolbwyntio ar yr aelodau unig a’r rhai sy’n agored i niwed a sicrhau eu bod yn derbyn gofal da ac yn ddiogel yn ein cymunedau. “Weithiau, targedir y rhai sy’n agored i niwed


gan droseddwyr diegwyddor. Yn aml mae galwyr ffug a masnachwyr twyllodrus yn eu targedu,” meddai’r Arolygydd Steve Lee. “Byddwn yn gweithio gyda’n pwyllgorau preswylwyr lleol, grwpiau cymunedol, cynlluniau Gwarchod Cartrefi ac asiantaethau partner, gan ofyn iddynt gadw llygad allan am eu cymdogion, eu cwsmeriaid, a’i cleientiaid.” “Bydd Timoedd Plismona Bro Sir Gaerfyrddin


yn gofyn i’w cymunedau am eu cefnogaeth. Gellir gwneud hyn yn syml iawn drwy siarad â ffrindiau, perthnasau a chymdogion am beryglon gadael dieithriaid i mewn i’w cartrefi, a’r angen i gymryd rhagofalon syml. • Riportiwch unrhyw beth amheus, waeth pa mor fach y mae’n ymddangos.


• Anogwch eich staff i nodi disgrifiadau a manylion unrhyw unigolyn a/neu gerbyd sy’n ymddangos yn amheus


NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 5 Ionawr - Chwefror 2012


3


Eich Iechyd, Eich Dyfodol - cymerwch ran


Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi lansio yn swyddogol ymarfer gwrando ynglŷn â’i Strategaeth Gwasanaethau Clinigol, sydd â’r nod o ddarparu gofal iechyd sydd gyda’r gorau yn y byd. Bydd yr ymarfer hwn yn rhoi cyfle i’r Bwrdd Iechyd


drafod â’r cyhoedd y sefyllfa bresennol, yr achos dros newid a ffyrdd posibl o gynnal gofal iechyd yn y dyfodol, a gwrando ar eu barn. Gallwch fynd i unrhyw ddigwyddiad sy’n gyfleus.


• Diogelwch eich cwsmeriaid sy’n agored i niwed drwy ei Riportio.


• Cynigwch gysylltu â’r heddlu ar ran eich cwsmer os ydynt yn datgelu rhywbeth rydych yn credu y dylem wybod amdano.


• Sicrhewch fod bathodynnau adnabod gyda’ch staff bob amser.


• Mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm.


Cefnogwch y fenter hon a RIPORTIWCH


unrhyw beth amheus i’ch heddlu lleol ar y rhif 101, neu 999 mewn argyfwng. Peidiwch â herio unrhyw un. Ffoniwch yr heddlu’n syth, a byddwn ni’n ymdrin â’r mater.”


Y Gwasanaeth Tân a'r Bwrdd Iechyd yn Cydweithio


Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cydweithio i leihau'r risgiau tân mae unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Mae'r Nyrs Iechyd Meddwl, Alison Evans,


bellach yn gweithio i'r Gwasanaeth Tân, ac yn ei rôl newydd mae'n ceisio sicrhau bod pobl agored i niwed yn derbyn cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref, cyfarpar, a chymorth lle bynnag y bo modd. Meddai Alison: "Gellir cysylltu hyd at 90% o danau yn y cartref â phobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl. Rwyf fi'n gweithio'n agos gyda'r ddau wasanaeth i'w helpu i ddysgu


oddi wrth ei gilydd. “Mae staff iechyd yn cael eu hyfforddi i ymdrin â


risgiau tân, ac mae staff tân yn cael eu hyfforddi i greu cysylltiad effeithiol â chleientiaid iechyd meddwl mewn sefyllfaoedd argyfwng ac o ddydd i ddydd. Byddwn yn estyn y prosiect hwn i Sir Gaerfyrddin yn 2012 er mwyn sicrhau bod cynifer o gleientiaid iechyd meddwl â phosibl yn derbyn ymyrraeth diogelwch tân." Mae'r Gwasanaeth Tân yn cynnig Gwiriad Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim. I drefnu un, ffoniwch 0800 169 1234 neu ewch i www.mawwfire.gov.uk.


Mae digwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal ledled Ceredigion a Sir Benfro. Ceir manylion ar ein gwefan: www.bihyweldda.cymru.nhs.uk.


11.00am - 6.00pm 3 Chwefror 2012


11.30am - 6.30pm 14 Chwefror 2012


12.00pm - 7:00pm 16 Chwefror 2012


Digwyddiad Iechyd Teifi, Tywi, Taf Myrddin


Canolfan Addysg Caerfyrddin, Heol y Ffwrnais, Caerfyrddin, SA31 1EU


Digwyddiad Iechyd Llanelli


Swît Lliedi, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli, SA15 3AE


Digwyddiad Iechyd Aman Gwendraeth


Neuadd Goffa Llandybie, Heol Woodfield, Llandybie, SA16 3UR


Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.bihyweldda.cymru.nhs.uk/eichiechyd- eichdyfodol. Mae hyn yn cynnwys dogfen drafod, ffilm fer, cwestiynau cyffredin a gwybodaeth am roi eich adborth.


Dwy wobr i dîm y celfyddydau perfformio


Mae tîm celfyddydau perfformiadol Coleg Sir Gâr yn dathlu ennill dwy wobr am eu cyfraniad yng nghyfres 'Made in Wales' y BBC a oedd yn cynnwys James Bolam, yr actor enwog, Enillodd Jordanna Moran, sef cyn-fyfyriwr diploma cenedlaethol yn y celfyddydau perfformiadol yn y coleg, yr Actores Ategol Orau yng ngwobrau 'It's my Shout' sef dathliad mawreddog, blynyddol o dalent newydd. Cynllun hyfforddi yw hwn sy'n cefnogi talent newydd ar gyfer y diwydiannau creadigol ac sydd wedi bod yn fan


cychwyn i yrfaoedd awduron, actorion a chyfarwyddwyr. Enillodd Mike Waters wobr am y Sgript Ffilm orau ar gyfer y ffilm 'Tentboy' a oedd yn cynnwys James Bolam, sef cyn-seren y 'Likely Lads' a wnaeth actio ochr yn ochr â myfyrwyr celfyddydau perfformiadol Coleg Sir Gâr yn y ffilm. Dywedodd Eleanor Shaw, arweinydd cwrs y


celfyddydau perfformiadol: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael gwobrau eto eleni. Mae hwn yn gyfle ac yn brofiad gwych i'n myfyrwyr a dyna'r rheswm rydym yn cymryd rhan bob blwyddyn."


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20