NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
Argraffwyd Newyddion Sir Gâr ar bapur ailgylchu Newyddion Sir Gâr Gweler tudalen 5 Gweler tudalen 9 Gweler tudalen 15 Gweler tudalen 20 Pen da Technolegol Rhagor o gyrsiau i bawb
Mae prif ddarparwyr addysg bellach Sir Gaerfyrddin wedi dod ynghyd i gynnig cyfleoedd hygyrch lleol i bobl ifanc a dysgwyr mewn oed. Mae Prifysgol Cymru y Drindod
Dewi Sant a Choleg Sir Gâr wedi sefydlu partneriaeth unigryw a fydd yn golygu bod modd i bobl gael mynediad i’w dewis gwrs heb orfod teithio y tu allan i Sir Gaerfyrddin. Bydd hyn o fudd i fyfyrwyr o 14 oed hyd at lefel ôl-raddedig. Ceir enghraifft gynnar o sut gall
Myfyriwr o Sir Gaerfyrddin yn cael ei ddewis ar gyfer Sgwad Prydain Fawr. Mae pencampwr cyfrifiadurol o Sir
Gaerfyrddin wedi cael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth ryngwladol o fri yn Llundain. Mae David Bowen, sy’n astudio ar
gyfer diploma cenedlaethol mewn TG yng Ngholeg Sir Gâr, wedi cael ei ddewis i gystadlu yn y categori dylunio gwe yng nghystadleuaeth WorldSkills ym mis Hydref. WorldSkills yw’r gystadleuaeth sgiliau ryngwladol fwyaf, lle mae 50 o wledydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Meddai David: “Mae fy holl waith a
hyfforddiant wedi dod â’r canlyniad gorau posib i mi. Bydd yn anodd, ond fydda i ddim ar fy mhen fy hun, gan y bydd rhyw 1000 o gystadleuwyr o dan yr un pwysau.” Mae David yn dilyn yn ôl traed
myfyrwyr eraill o Goleg Sir Gâr, Cliff Williams a Gareth Evans, a
ddewiswyd ar gyfer Sgwad y Deyrnas Unedig adeg cystadleuaeth WorldSkills 2009. Ers cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau oedd yn cael eu cynnal cyn iddo gael ei ddethol, mae David wedi newid o fod yn fyfyriwr tawel i un sy’n llawer mwy hyderus. Yn ddiweddar, ymunodd â chystadleuwyr o’r Deyrnas Unedig yn Ffrainc, lle bu’n cystadlu yn rowndiau terfynol cystadleuaeth genedlaethol Ffrainc fel rhan o raglen hyfforddi a baratowyd ar gyfer y rhai oedd am gystadlu yn WorldSkills. Mae David yn wynebu her 20 awr,
sef creu gwefan yn unol â manyleb benodol. “Y cyngor ges i oedd cael profiad gwaith, ac rydw i wedi bod yn gweithio mewn cwmni yn Abertawe i gael rhagor o wybodaeth a phrofiad,” meddai. “Fe wnaeth fy rheolwr hyfforddi hyd yn oed fy nghynghori i wella fy ffitrwydd corfforol, fel bod gen i ddigon o stamina, a gall hynny fod yn anodd pan fyddwch chi wrth y cyfrifiadur y rhan fwyaf o’r amser.”
Emma Brace - myfyrwraig fashiwn
myfyrwyr rannu cyfleusterau llyfrgell, dysgu a chymdeithasu yn y ddau sefydliad yn y cyrsiau gradd mewn celf a dylunio. Y nod yw creu darpariaeth ardderchog ym maes celf, dylunio, ffilm a’r cyfryngau yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd Pennaeth Coleg Sir Gâr, Barry Liles: “Darparu cyfleoedd hygyrch i’n dysgwyr yw’r nod. Mae addysg yn newid – rydym yn tynnu adnoddau ynghyd ac yn cynnig ystod
ehangach o raglenni dysgu i bobl eu hastudio. “Y dysgwyr sy’n arwain y
weledigaeth, ac rydym yn edrych ar anghenion dysgwyr yr holl ffordd o lefel un at amrywiaeth o bwyntiau gadael addysg, yn cynnwys lefel doethuriaeth. Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar ofynion, anghenion addysgol a bylchau a geir yn y rhanbarth.” Yn ôl yr Athro Medwin Hughes,
is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae creu’r brifysgol sector ddeuol yn adeiladu ar greu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, er mwyn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr o bob oed yn Ne-orllewin Cymru. Drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau gwell synergedd wrth gyflenwi sgiliau, ac yn sefydlu partneriaethau strategol llawer cryfach gyda busnes, cyflogwyr a darparwyr dysgu yn y gweithle.”
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20