www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
7
Cartref newydd i ddisgyblion
Contractwyr Adeiladu a Pheirianneg Sifil
• Masnachol • Addysg • Iechyd
• Diwydiannol • Mân-werthu
• Cynhyrchu Ynni
Casnewydd – 01633 244955
www.kier.co.uk
Disgyblion i ddysgu DIY
MAE DISGYBLION wedi symud i’w hysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd o’r radd flaenaf, gwerth £6.7 miliwn, yn Llanelli. Cafodd Ysgol Gymraeg Brynsierfel,
Llwynhendy ei hadeiladu drwy Raglen Moderneiddio Darpariaeth Addysg y Cyngor. Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob plentyn yn gallu manteisio ar gyfleusterau ac adeiladau o’r radd flaenaf. Cafodd yr ysgol newydd sydd â lle ar gyfer 210
Mae canolfan dysgu galwedigaethol newydd yn agor yn Llanelli er mwyn dod â budd i ysgolion uwchradd ac oedolion sydd am ddysgu sgiliau DIY a gwaith adeiladu. Mae’r ganolfan yn rhan o safle Gwaith
Temple Adeiladwyr TAD yn Ffwrnes, ac mae wedi cael ei datblygu trwy bartneriaeth rhwng Coleg Sir Gâr, ysgolion uwchradd Llanelli, dysgu cymunedol i oedolion Cyngor Sir Caerfyrddin a TAD. Bydd yn golygu bod disgyblion yn ardal Llanelli yn gallu dilyn cyrsiau cysylltiedig â gwaith adeiladu trwy eu cwricwlwm ysgol, ac yn darparu cyrsiau adeiladu rhan amser gyda’r hwyr i oedolion, yn ogystal â chyrsiau byr mewn cynnal a chadw cartref.
Meddai Paul White, pennaeth Ysgol St
John Lloyd a chadeirydd Clwstwr Rhwydwaith 14-19 Llanelli: “Ar hyn o bryd, dim ond i gampws y coleg yn Rhydaman y gallwn ni anfon plant o ysgolion Llanelli, ac mae’r costau cludiant a’r amser teithio yn achosi trafferthion, felly mae cael canolfan yn y dref yn newyddion gwych.” Meddai Anthony Jones, Rheolwr
Gyfarwyddwr Adeiladwyr TAD: “Bydd y plant yn elwa o fod ar safle diwydiannol gweithredol wrth iddyn nhw ddysgu amrywiol grefftau yng nghyswllt ein gwaith beunyddiol ar y safle. Rydyn ni’n gobeithio recriwtio prentisiaid o’r ganolfan yn flynyddol, felly byddwn ni’n gweithio’n agos iawn gyda’r fenter newydd.”
Capiau rygbi Cymru dan 20 oed
Mae Sam Parry o Benfro ac Adam Warren o Borth Tywyn, sy’n chwarae yn academi rygbi Coleg Sir Gâr, wedi derbyn eu capiau rygbi Cymru i rai o dan 20 oed mewn cyflwyniad ffurfiol. Pennaeth/Prif Swyddog Gweithredol y coleg,
Barry Liles, gyflwynodd eu capiau i’r chwaraewyr o Glwb Rygbi Llanymddyfri, ac maen nhw’n ymuno â 10 chwaraewr rygbi arall yn y coleg y tymor yma sydd wedi derbyn anrhydeddau rhyngwladol. “Mae Adam a Sam wedi bod yn llysgenhadon
gwirioneddol dros Goleg Sir Gâr, a chan mae dyma oedd eu capiau rhyngwladol cyntaf, rydym ni fel academi yn ymfalchïo’n fawr yn eu camp,” meddai cyfarwyddwr yr academi rygbi, Euros Evans. “Yn yr academi, byddwn yn parhau i gefnogi eu gêm rygbi a’u datblygiad ochr yn ochr â’u hastudiaethau.”
o ddisgyblion cynradd a 26 o ddisgyblion meithrin ei chwblhau yn gynt na’r disgwyl gan y contractwyr, Kier Western. Y nodwedd fwyaf eiconig yw’r coridor ar wahanol lefelau sy’n dod â golau i’r adeilad ac yn creu lle er mwyn i ddisgyblion arddangos eu gwaith. Mae
athrawon, cynghorwyr lleol, llywodraethwyr a disgyblion ysgol i gyd wedi bod ynghlwm wrth ddatblygiad yr ysgol newydd ac wedi mwynhau ymweliadau cyson â’r safle adeiladu. Dywedodd y Cynghorydd Gwynne
Wooldridge, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: “Mae hwn yn adeilad gwych â chynllun arloesol a fydd yn darparu’r math priodol o amgylchedd ar gyfer y plant a’r staff. Yn ogystal, bydd yr ysgol yn ein helpu ni i ddiwallu’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Llanelli ac mae’n enghraifft wych o beth yw’r Rhaglen Moderneiddio Addysg sef gwella’r cyfleoedd a’r cyfleusterau ar gyfer pob plentyn yn Sir Gaerfyrddin.”
Lansio gwefan y bartneriaeth ddysgu
Mae’r newyddion diweddaraf a datblygiadau
partneriaeth ddysgu yn Sir Gaerfyrddin bellach ar gael drwy glicio botwm. Mae Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol De-
orllewin Cymru wedi lansio gwefan newydd -
www.rlpsww.org.uk - sy’n egluro ei hanes, ei
Llun: Adam Warren a Sam Parry.
nodau a’i chyflawniadau, yn ogystal â chyflwyno ei phartneriaid ar draws ardaloedd Sir
Gaerfyrddin, Ceredigion, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Mae hefyd yn cynnwys digwyddiadau a newyddion rhanbarthol sy’n effeithio ar addysg, sgiliau a’r economi. Ariannir y Bartneriaeth yn rhannol gan Gronfa
Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru. Ei nod yw trawsnewid sut mae cyflogwyr a darparwyr addysg yn cydweithio er budd i ddysgwyr.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20