This page contains a Flash digital edition of a book.
6 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Gwasanaethau Adeiladau Y Cam Nesaf


Y CAM NESAF – mae cystadleuaeth ar droed eisoes i ddod o hyd i brentis adeiladu newydd ar gyfer cwmni adeiladu lleol. Mae’r beirniaid wedi llunio


rhestr fer ac arni chwe ymgeisydd a fydd yn cystadlu am y cyfle i ennill y brentisiaeth daledig. Mae’r Cyngor Sir yn cynnal y gystadleuaeth ar y cyd â Lloyd and Gravell sy’n gwmni adeiladu yn Llanelli, a Choleg Sir Gâr a Carmarthenshire Construction and Training Association Ltd (CCTAL) sy’n bartneriaid i’r Cyngor Sir. Mae’r ymgeiswyr wedi cael cyfnod sefydlu o bythefnos yng


Ngholeg Sir Gâr eisoes a byddant yn treulio 6 wythnos ar safle o ganol mis Gorffennaf ymlaen. Ar y safle, fe’u rhennir yn dimau o ddau, bydd pob un yn cael mentor a byddant yn dysgu hanfodion y crefftau adeiladu, gan gynnwys plastro, gwaith saer coed a gosod brics. Bydd y rhai sy’n dod i’r brig yn


ennill gwobrau’n gysylltiedig ag atyniadau twristiaeth Sir Gaerfyrddin gan gynnwys Parc y Scarlets. Bydd fforffedion ar gyfer y rhai na ddônt i’r brig. Cyhoeddir enw’r enillydd ddiwedd mis Awst a bydd ef – neu hi – yn dechrau ar brentisiaeth â chwmni Lloyd and Gravell.


Dywedodd Kevin Gravell,


Cyfarwyddwr cwmni Lloyd and Gravell: “Mae’n broses anodd, ond rwy’n sicr y bydd yr ymgeiswyr yn ei mwynhau. Roeddem wrth ein bodd â safon yr ymgeiswyr – mae’n ymddangos ei bod yn mynd i fod yn anodd dewis enillydd, ond yr hyn fydd yn cyfrif fydd y gwaith a wnânt ar y safle.” I gael gwybod pwy yw’r


ymgeiswyr ac i ddilyn eu hynt ar- lein,


ewch i


www.camnesafsirgar.co.uk ac edrychwch ar Facebook a Twitter i gael y newyddion diweddaraf un, fideos a blogiau.


www.sirgar.gov.uk


Dysgwr y flwyddyn


MAE prentis o Lanelli wedi ennill gwobr genedlaethol sy’n cydnabod ei ymrwymiad i hyfforddiant er gwaetha’r ffaith ei fod yn derbyn triniaeth yn sgil salwch difrifol. Mae Shane Evans, o’r Bryn, wedi


derbyn gwobr Dysgwr y Flwyddyn Colegau Cymru. Mae Shane, sy’n 23 oed, ac yn dioddef o ffibrosis cystig, ar leoliad prentisiaeth 12 wythnos gyda’r cyngor ar hyn o bryd. Mae hefyd yn astudio HNC mewn rheoli adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr. Meddai: “Rydw i wedi gorfod


gweithio ddwywaith – os nad teirgwaith – mor galed i gadw i fyny a chadw ar y blaen oherwydd apwyntiadau ysbyty, ond dydw i erioed wedi defnyddio hynny fel esgus i beidio â gwneud yr ymdrech.”


Rhagoriaeth Cymru


MAE gan Wasanaethau Eiddo’r Cyngor gyfle i ennill gwobr arobryn arall. A hwythau newydd ennill ‘Oscar’ y diwydiant adeiladu yng ngwobrau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yng Nghymru, mae staff yr is-adran yn gobeithio cyrraedd y brig unwaith eto yng ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru a gynhelir yng nghanol mis Gorffennaf. Mae Sir Gaerfyrddin ar y rhestr fer yn y categori


Integreiddio a Chydweithio am ei chais ar sail ei threfniadau fframwaith contractwyr. Mae’r Fframwaith wedi galluogi’r Cyngor i feithrin


perthynas dymor hir gref â llawer o gontractwyr lleol ac mae wedi bod yn fodd i rannu gwybodaeth a chymorth er mwyn helpu llawer o gyrff lleol i gydweithio. Yn ogystal fe’i defnyddir i gynyddu a chaboli


sgiliau’r gweithluoedd presennol ac i feithrin doniau newydd. Drwy gydweithio â phartneriaid megis Carmarthenshire Construction Training Association Ltd (CCTAL) a Choleg Sir Gar, mae wedi rhoi’r cyfle i 140 o brentisiaid weithio ar brosiectau adeiladu gwirioneddol a dysgu yn sgil hynny.


Archwiliadau diogelwch


MAE TENANTIAID sy’n byw mewn tai cyngor yn cael eu hatgoffa am bwysigrwydd caniatáu i staff gynnal archwiliadau diogelwch hanfodol. Mae timau’r Gwasanaethau Eiddo yn


ymweld yn rheolaidd â phob un o’r 9,200 o dai cyngor er mwyn sicrhau bod offer megis boeleri gwres canolog yn cael eu trin a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd. Bu cynnydd yn nifer yr achosion pryd yr ymwelodd gweithredwyr a chontractwyr cymeradwy ag eiddo yn unol â threfniadau a wnaed ymlaen llaw, heb lwyddo i gael mynediad i’r eiddo. Gofynnir bellach i denantiaid sicrhau eu


bod yn gallu bod yn bresennol fel y trefnwyd, neu hysbysu’r Cyngor os oes angen aildrefnu ymweliad. Dywedodd Mark Davies, Rheolwr y Gwasanaethau Adeiladau: “Mae’n angenrheidiol, unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, i’n staff neu ein contractwyr cymeradwy gael mynediad i eiddo’r tenantiaid er mwyn gwneud gwaith cynnal a


chadw a gwirio cyflwr offer. Rydym bob amser yn gwneud trefniad cyn ymweld, ac yn gofyn i’r tenantiaid sicrhau y byddant gartref ar yr adeg a drefnwyd er mwyn agor y drws inni. “Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y


gwiriadau hyn er mwyn sicrhau bod offer megis boeleri gwres canolog yn gweithio’n iawn – cynhelir y gwiriadau hyn i ddiogelu’r tenantiaid. Mae’n peri pryder inni pan nad ydym yn gallu cael mynediad i gartrefi – nid yn unig oherwydd y goblygiadau diogelwch, ond hefyd oherwydd yr amser yr ydym yn ei fradu a’r gost i’n staff pan fydd angen iddynt ailymweld ag eiddo.” Bydd staff y Cyngor a chontractwyr


cymeradwy yn barod bob amser i ddangos eu cerdyn adnabod pan fyddant yn ymweld â chartrefi tenantiaid. Os oes gennych unrhyw amheuon, neu os oes arnoch angen aildrefnu ymweliad, ffoniwch ganolfan gyswllt y Cyngor (01267 234567).


Gweithio mewn partneriaeth gyda cyngor Sir Gâr


Adeiladu am y dyfodol


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20