www.sirgar.gov.uk
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Partneriaeth Plant Am gadw eich plant yn brysur yr haf yma?
YDYCH chi’n chwilio am rywbeth i ddiddanu’r plant dros wyliau’r haf? Gall Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin
helpu rhieni i ddod o hyd i amrywiaeth o gynlluniau chwarae dros wyliau’r haf sy’n cynnig cyfleodd diogel i chwarae a gofal plant proffesiynol, gydag amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, chwaraeon, gemau, dawnsio ac ati. Rhoddir pwyslais hefyd ar chwarae yn yr awyr agored – felly efallai y gofynnir i’r plant ddod â
Cynllun Chwarae Dyffryn y Swistir Nicola Williams: 07974 760550
Clwb Dewi, Ysgol Dewi Sant Kim Broom: 01554 810424
Cynllun Chwarae Cross Hands Meinir Lewis: 01269 871600
Clwb Joio, Pen-y-groes Lisa Bean: 01269 831571
Cynllun Chwarae Meidrim Christine Jameson: 01994 230850
Clwb Gofal Ysgol Tre Ioan Cysylltwch â Siân Kavanagh Thomas: 01267 232830
Cynllun Chwarae Haf Llanybydder Nia Lewis: 01239 712934
chotiau ac esgidiau glaw! Bydd yr holl weithgareddau drwy gyfrwng
y Gymraeg. Caiff y cynlluniau chwarae eu goruchwylio gan staff cymwys sydd wedi cael archwiliad gan y CRB. Mae’r clybiau hefyd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.fis.carmarthenshire.gov.uk neu ffoniwch 01267 246555.
Cynllun Chwarae Haf Llanymddyfri Lynette Thomas: 01558 825336
Cynllun Chwarae Haf Ysgol y Castell Nerys / Meinir: 01269 871600
Cynllun Chwarae Haf Dinefwr: Kathy Collis: 01558 823477
Clwb y Bedol, Ysgol y Bedol, Garnant Z Llewelyn 01269 824048
Clwb Gofal Tywi Clwb Rygbi Llandeilo Cysylltwch â Lynette Thomas: 01558 825336
Cynllun Chwarae Haf Llanymddyfri Lynette Thomas: 01558 825336
Clwb Haf Plant Brynaman Rebecca / Louise: 07900 126165
Clwb Caredig 01267 290444
Breakthro’ Caerfyrddin Ceri Bassett: 01267 290136
Clwb y Ddwylan Sarah Powell: 07791 979275
Clwb Gwyliau Sbri-Ni Rachel Morgan: 07854 016498 / 01994 240238
Cynllun Chwarae Dewi Sant Kath Bowen: 01554 757599
Clwb Hwyl Pen-y-gaer Natasha Reilly: 07969 445189
11
Cystadleuaeth Lliwio
MAE chwe ardal yn Sir Gaerfyrddin yn elwa o brosiect chwarae Purple Routes, sydd ar gael yng Nghastell Newydd Emlyn, Llanymddyfri, Caerfyrddin, Glan-y-môr a Thŷ-isha, Porth Tywyn a Felin-foel. Nod y prosiect yw annog aelodau o’r gymuned i gefnogi datblygiad chwarae yn yr ardaloedd
lle maen nhw’n byw, cydnabod hawl plentyn i chwarae, effaith hynny ar fywyd, a phwysigrwydd hynny i bawb. Mae Purple Routes yn cynnig sesiynau chwarae mynediad agored yn ddi-dâl. Fe’i hariannwyd â £998,328 o linyn £13 miliwn ‘Chwarae Plant’ rhaglen £20 miliwn Teuluoedd
Iach Cronfa’r Loteri Fawr. Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i annog mwy o blant i fwynhau gweithgareddau awyr agored ac i ddatblygu cyfleoedd chwarae newydd i blant ar draws yr ardal. Meddai Cadeirydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), Mair
Stephens: “Wrth i blant ddysgu trwy chwarae, bydd y sgiliau maen nhw’n eu datblygu yno i’w helpu ar hyd eu hoes. Hefyd, wrth i deuluoedd a chymunedau ddarganfod sgiliau chwarae newydd byddan nhw’n gallu eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.”
Am ddechrau busnes gofal plant?
CYNIGIR help llaw i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes gofal plant yn Sir Gaerfyrddin. Gall y Bartneriaeth Plant helpu pobl i
ganfod bylchau yn y ddarpariaeth gofal plant, yn ogystal â helpu pobl i gychwyn busnes newydd a datblygu staff drwy hyfforddiant ac achredu. Meddai Amanda Toutt, Swyddog
Gwybodaeth y Bartneriaeth Plant: “Gall busnesau newydd fanteisio ar grantiau Cychwyn Busnes i helpu gyda chostau megis recriwtio, cyhoeddusrwydd, offer a lleoliad. Gellir eu rhoi mewn cyswllt â sefydliadau gofal plant hefyd, sy’n gallu cynnig arweiniad a chymorth ychwanegol. “Unwaith y bydd y busnes wedi cychwyn,
gall y Bartneriaeth helpu pobl i wneud cais am grantiau cynaliadwyedd, yn ogystal â helpu pobl i fanteisio ar hyfforddiant â chymhorthdal i gyflogeion mewn meysydd megis cymorth cyntaf, hylendid bwyd sylfaenol ac amddiffyn plant. “Gall y Bartneriaeth hefyd ddarparu
cyhoeddusrwydd am ddim i fusnesau gofal plant drwy ei Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.” Os oes gennych ddiddordeb mewn
cychwyn ar feithrinfa ddydd newydd, grŵp chwarae, clwb ar ôl ysgol neu gynllun chwarae yn ystod y gwyliau, ffoniwch Swyddfa’r Bartneriaeth Plant ar 01267 246555,
neu ewch
www.partneriaethplantsirgar.org.uk. i
• Caiff pecyn adeiladu ffau ei gynnig yn wobr i enillydd lwcus y gystadleuaeth liwio yn y rhifyn hwn. Rhoddir y pecyn gan Trysordy, y sefydliad celf a chrefft ecogyfeillgar, sy’n bartner yn y prosiect Llwybrau Porffor.
• Lliwiwch y llun hwn o fws Llwybrau Porffor ac anfonwch ef yn ôl i Joanna Owen, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin, 18 Heol y Frenhines, Caerfyrddin, SA31 1JT, erbyn Awst 15fed er mwyn cael cyfle i ennill y wobr.
Enw: ...................................................................................................... Cyfeiriad: ..............................................................................................
................................................................................................................ Oed: .......................................................................................................
Enillwyr y rhifyn diwethaf Rhiannon Rogers, 4 oed o Dryslwyn; Gethin Tomos Pugh, 5 oed o Brynaman; Carlyanne Thomas, 7 oed o Lanelli; Sarah O'Neill, 9 oed o Hendy; Kelly Busst 10 oed o Gydweli.
Purple routes
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20