www.sirgar.gov.uk HYSBYSEB CYHOEDDUS
Cyfeirnod Awdurdod Lleol RW2/41/CJF
HYSBYSIAD YNGHYLCH CADARNHAU GORCHYMYN
Deddf Priffyrdd 1980
GORCHYMYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (LLWYBR TROED 41/22 DANYBANC, CWRT HENRI)
DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS 2010
Cadarnhawyd y Gorchymyn uwchben gyda newidiadau, gan Arolygwr penodwyd gan y Gweinidogion Cymru, ar yr 17eg Mehefin 2011.
Effaith y Gorchymyn, fel y’i cadarnhawyd, yw dargyfeirio’r llwybr troed heibio Danybanc, Cwrt Henri; fel y dangosir ar fap y gorchymyn.
Mae copi o’r Gorchymyn, fel y’i cadarnhawyd, a map y gorchymyn wedi eu rhoi yn yr Uned Adloniant Cefn Gwlad, Parc Coetir Mynydd Mawr, Y Tymbl, Llanelli, a gellir eu harchwilio yn ddi-dâl rhwng 9:00 a.m. a 4:30 p.m. o ddydd Llun tan ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o’r Gorchymyn a’r Map yno am dâl o 50c.
Gall unrhyw un sy’n dymuno hawlio digollediad o dan Adran 28 (fel y’i cymhwyswyd gan Adran 121 (2)) o Ddeddf 1980 am golli gwerth neu iawn- dal am aflonyddwch a achosir trwy fod y Gorchymyn wedi dod i rym, ysgrifennu at Mr Ian Jones, Pennaeth Hamdden a Chwaraeon, Canolfan Adnoddau Busnes, Parc Amanwy, Heol Newydd, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3EP a chyflwyno’r hawliad trwy ei ddosbarthu
neu ei anfon trwy ddefnyddio post rhagdaledig i’r cyfeiriad hwnnw erbyn 31ain Ionawr 2011, fan hwyraf.
Daw’r Gorchymyn i rym ar 1af Gorffennaf 2011, ond gall unrhyw un a dramgwyddir gan y Gorchymyn ac sy’n dymuno cwestiynu ei ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn, am nad yw o fewn y pwer- au a roddwyd gan Ddeddf Priffyrdd 1980, fel y’i newidiwyd, neu am na chy- dymffurfiwyd ag unrhyw ofynion yn y Ddeddf, fel y’i newidiwyd, neu unrhyw reoliad a wnaed yn unol â hi mewn perthynas â’r Gorchymyn, wneud cais i’r Uchel Lys o dan Baragraff 2 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, fel y’i cymhwyswyd gan Baragraff 5 o Atodlen 6 i’r Ddeddf, o fewn 6 wythnos i’r 11eg Gorffennaf 2011, neud cais i’r Uwch Llys.
Cyfeirnod Awdurdod Lleol RW2/8/CJF
HYSBYSIAD GORCHYMYN DIWYGIO
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Adran 53
Map Diffiniol a Datganiad o Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar gyfer Sir Gaerfyrddin
“GORCHYMYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN (LLWYBR TROED 8/O/67 CWM RHAEADR, CILYCWM)
DIWYGIO MAP DIFFINIOL 2011”
Mae’r Gorchymyn uchod, a wnaed ar 10fed Mehefin 2011, wedi ei gadarn- hau, a bydd yn diwygio’r Map Diffiniol a’r Datganiad ar gyfer yr ardal drwy:- ddileu ohonynt, yr adran hyd 280 medr o lwybr troed syn esgyn Mynydd
Mallaen wrth ochor rhaeadr Craig Y Rhaeadr unol â Map y Gorchymyn a’r disgrifiad yn yr Atodlen i’r Gorchymyn.
Gellir darllen copi o’r Gorchymyn a’r Map un ddi-dâl yn Uned Adloniant Cefn Gwlad, Parc Coetir Mynydd Mawr, Y Tymbl, Llanelli, rhwng 9.00 a.m. a 4.30 p.m. dydd Llun i ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o’r Gorchymyn a’r Map yno am dâl o 50c.
Dylid anfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r Gorchymyn yn ysgrifenedig at Pennaeth o Hamdden a Chwaraeon, Canolfan Adnoddau Busnes, Parc Amanwy, Heol Newydd, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 3EP gan ddyfynnu’r cyfeirnod uchod, erbyn 8fed Medi 2011 fan hwyraf, gan nodi ar ba sail y’u gwneir.
Os na dderbynnir unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r Gorchymyn, neu os bydd unrhyw rai ohonynt yn cael eu tyn- nu’n ôl, gall Cyngor Sir Caerfyrddin, yn lle cyflwyno’r Gorchymyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gadarnhau’r Gorchymyn ei hun. Os bydd y Gorchymyn yn cael ei gyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl yn cael eu hanfon gydaf ef.
Dyddiedig: 11eg Gorffennaf 2011
Arwyddwyd:Mr Ian Jones Pennaeth Hamdden a Chwaraeon Canolfan Adnoddau Busnes Parc Amanwy, Heol Newydd Rhydaman Sir Gaerfyrddin SA18 3EP
I gael rhagor o wybodaeth gweler:
www.rnli.org.uk/what_we_do/lifeguards
Sefydliad y Rowan Cefnogi Annibyniaeth Trwy Ddewis
www.therowan.org
A oes gennych y sgiliau, y cymhelliant a brwdfrydedd i weithio yn un o'r ardaloedd mwyaf gwerth chweil o gyflogaeth? Ble gallwch orffen eich diwrnod gwaith gan wybod eich bod wedi galluogi rhywun i fod yn annibynnol, sy'n rhan enfawr o foddhad swydd.
Mae Sefydliad y Rowan yn cynorthwyo pobl anabl a phobl hŷn i recriwtio cynorthwywyr personol a fydd yn eu galluogi i fyw bywydau annibynnol. Gall fod:
l Helpu rhywun i gael mynediad i weithgareddau cymunedol a fyddai'n cael eu hynysu oddi wrth gymdeithas heb eich cefnogaeth.
l Darparu gofal personol gydag urddas a pharch ac yn anrhydeddu dymuniadau'r person rydych yn cynorthwyo.
l Seibiant i ofalwr di-dâl, sydd angen ychydig o amser iddyn nhw eu hunain â thawelwch meddwl gan wybod bod eu hanwylyd mewn dwylo da.
l Fel arall, gallech fod y pâr arall o ddwylo yn y teulu fel bod gweithgareddau teuluol yn cael ei gynnal.
Beth bynnag yw eich sgiliau, profiad a chefndir, bydd sîwr o fod swydd sy'n addas i chi.
Efallai y daladwy lwfans milltiroedd, hyfforddiant a treuliau parod, dibynnir ar manylion y swydd wag. Cyfraddau yr awr yn amrywio o swydd i swydd.
Am ragor o wybodaeth am bob swydd ar gael ar draws Sir Gaerfyrddin, ewch i
www.therowan.org/pacarmarthenshire
Gallwch wneud cais ar-lein lle gallwch cael disgrifiadau swydd llawn, manylebau person a ffurflenni cais.
Nodwch, nid Sefydliad y Rowan fydd eich cyflogwr; rydym yn sefydliad sy'n cefnogi bobl sy'n gyflogwyr o dan y cynllun Taliadau Uniongyrchol (menter Llywodraeth Cymru ac awdurdod lleol a sefydlwyd gyntaf yn 1997).
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011
19 Am fod yn achubwr bywyd?
Gall pobl y mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn bod yn achubwyr bywydau gael cyngor gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI). Yn sgil cynnal y Beach Break
Live yng Nghefn Sidan yn ddiweddar, mae llawer o bobl ifanc wedi mynegi diddordeb mewn bod yn achubwyr bywydau. Mae Cefn Sidan, sydd wedi ennill y Faner Las, yn cael ei gydnabod yn un o’r traethau gorau yn Ewrop ac mae tîm ymroddedig o achubwyr bywydau yr RNLI yn gweithio yno. Mae’n rhaid ichi fod yn 16 oed o leiaf i fod yn achubwr bywydau cyflogedig
gyda’r RNLI. Os ydych yn iau nag 16 oed ac am gael profiad gallwch fod yn rhan o’r elusen drwy wirfoddoli. Bydd yr elusen yn eich helpu i ennill y cymwysterau a’r safonau ffitrwydd angenrheidiol. Yna bydd yr elusen yn darparu rhagor o hyfforddiant safonol cynhwysfawr o’r radd flaenaf i sicrhau bod pob achubwr bywydau wedi cyrraedd yr un safon.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20