This page contains a Flash digital edition of a book.
10 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011


Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Dal troseddwyr


YN ÔL y ffigurau diweddaraf mae camerâu CCTV yn Sir Gaerfyrddin yn helpu’r heddlu i ddal troseddwyr wrth eu gwaith. O Ebrill 1 y llynedd tan 31 Mawrth eleni, recordiwyd


230 o ddigwyddiadau yn nhair prif dref Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, gan arwain at arestio 210 o bobl. Roedd gweithwyr CCTV galluog yn medru gweld y


digwyddiadau ar y pryd, a chyfeirio adnoddau’r heddlu yno ar unwaith. Mae gweithredwyr y camerâu yn gweithio’n agos gyda’r


heddlu, ac fe dreuliwyd cyfanswm o 975 awr yn mynd ati i fonitro pobl benodol neu gerbydau o ddiddordeb. Wedyn defnyddir y ffilm yn y llys yn dystiolaeth. Mae’r


digwyddiadau’n cynnwys ymosodiadau, difrod troseddol, troseddau cysylltiedig â chyffuriau, pobl sydd ar goll, dwyn o eiddo a cherbydau, troseddau anhrefn cyhoeddus, dwyn o siopau a damweiniau traffig ar y ffyrdd. Meddai’r Cyng. Pam Palmer, yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros ddiogelwch cymunedol: “Mae CCTV yn gwneud cyfraniad aruthrol wrth fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol, yn ogystal â rhoi sicrwydd i’r trigolion. “Mae’r gweithwyr yn rhagweithiol dros ben, gan helpu i


ddarparu tystiolaeth o droseddau wrth iddynt gael eu cyflawni, ac maent yn aml yn cael eu cymeradwyo am eu gwaith da gan uwch swyddogion yr heddlu. Enghraifft ddiweddar oedd dau berson yng Nghaerfyrddin yn cael eu harestio am feddu ar gyffuriau a’u cyflenwi.”


Osgoi dioddef trosedd


MAE PRESWYLWYR yn cael eu rhybuddio ynghylch sicrhau nad yw eu gwyliau haf yn cael eu dinistrio gan ladron. Os ydych yn mynd i ffwrdd, sicrhewch fod


eich cartref yn ddiogel er mwyn osgoi bod yn ddioddefwr trosedd. Mae’r heddlu’n dweud bod nifer o


achosion o ddwyn o dai gwag yn ddiweddar gan gynnwys y rheiny sydd ag arwydd ‘ar werth’ y tu allan. Dywedodd Anthony George, Swyddog


Diogelwch Cymunedol: “Mae lladron yn targedu boeleri copr, pibellau a systemau gwres canolog gan fod pris metel sgrap yn uwch nag erioed. “Rydym yn cynghori perchnogion i


sicrhau bod eu tai’n ddiogel ac os oes modd, gofyn i gymydog gadw llygad ar eich tŷ. Ystyriwch osod larwm batri wrth y fynedfa neu hyd yn oed olau diogelwch. Yn ogystal, sicrhewch fod y brif bibell ar gyfer y dŵr wedi cael ei chau; mae rhai tai wedi cael eu difrodi’n ddifrifol gan lifogydd ar ôl i ladron dynnu’r pibellau dŵr a gadael i’r dŵr lifo allan, a hynny am ddyddiau weithiau.” I gael rhagor o gyngor edrychwch arwww.dyfed-powys.police.uk


neu


ffoniwch 101 i siarad â swyddog atal troseddau.


Eiddo’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yw’r


camerâu, ac maen nhw yng ngofal y Bartneriaeth. Maen nhw’n cael eu monitro yn yr ystafelloedd rheoli CCTV yng ngorsafoedd heddlu Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.


‘Yn wyllt yn y wlad’


MAE technoleg GPS yn cael ei defnyddio i dargedu pobl sy’n gollwng sbwriel yn anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r cynllun peilot wedi cael ei lansio gan Fly-tipping Action Wales i dracio achosion o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon ar draws y naw awdurdod lleol yn ardal Cymoedd De Cymru. Nod y cynllun, y cyntaf o’i fath yng


Nghymru, yw lleihau nifer yr achosion o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon, nodi tueddiadau a mannau problemus, a helpu i wella rhannu gwybodaeth yn gyffredinol


ar draws awdurdodau lleol. Os bydd yn llwyddiannus, gallai’r cynllun gael ei estyn i weddill Cymru. Dengys y ffigurau diweddaraf fod


mwy na 48,000 achos o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon wedi eu cofnodi yng Nghymru, gyda chost glanhau gysylltiedig o fwy na £2.7 miliwn. Mae Fly-tipping Action Wales yn


rhan o fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a ariannir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.flytippingactionwales.org


Pryd dylai galwyr ddefnyddio 101?


I roi gwybod am droseddu neu anhrefn llai brys neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, gydag ymholiadau cyffredinol, neu i siarad ag aelod lleol o’r heddlu. Er enghraifft: • Car wedi ei ddwyn • Difrod i eiddo


• Amheuon bod rhywun yn defnyddio cyffuriau neu’n delio mewn cyffuriau


• Rhoi gwybod am ddamwain fach ar y ffordd • Rhoi gwybodaeth i’r heddlu am droseddu yn eu hardal • Siarad ag aelod lleol o’r heddlu. Beth am niwsans mwy cyffredinol? Daliwch ati i ffonio’r cyngor am faterion fel: • graffiti


• cerbydau a adawyd • gollwng sbwriel yn anghyfreithlon • fandaliaeth.


AETH POBL ifanc yn ‘wyllt yn y wlad’ drwy fenter gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd hefyd yn eu dysgu am oblygiadau troseddau. Cynhaliwyd ‘wildcamp’ yng Nghanolfan Adnoddau Glanaman ar


gyfer 15 o bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed o bob rhan o Sir Gaerfyrddin. Roedd y rhaglen breswyl dros bum niwrnod yn cynnwys


gweithgareddau corfforol megis arfordira, bocsio/pysgota a beicio mynydd yn ystod y dydd a gweithdai ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau, gyrru’n beryglus a thân/llosgi bwriadol gyda’r hwyr. Yn ogystal lluniodd y bobl ifanc ddyddiadur fideo a chynhaliwyd


noson gyflwyno arbennig ar y diwrnod olaf. Roedd yr asiantaethau a oedd yn cymryd rhan yn cynnwys


gwasanaeth ieuenctid y cyngor, yr heddlu a’r gwasanaeth tân ac achub.


Ffon: 01269 598352 Ebost: communitysafety@carmarthenshire.gov.uk


Sut bydd hyn yn gweithio? Bydd 101 ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Pan fydd rhywun yn galw, caiff ei roi mewn cysylltiad â’r heddlu yn yr ardal honno. Os sylweddolir bod digwyddiad yn fater brys, bydd y gweithredydd neu’r aelod o’r heddlu sy’n trafod yr alwad yn trosglwyddo’r galwr i 999. Mewn argyfwng, dylech ffonio 999 bob amser – er enghraifft, os bydd angen ymateb ar unwaith oherwydd bod trosedd yn cael ei chyflawni, oherwydd bod rhywun yr amheuir ei fod yn gyfrifol am drosedd gerllaw, neu bod rhywun wedi ei anafu, yn cael ei fygwth neu mewn perygl.


www.sirgar.gov.uk


Atal tipio


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20