This page contains a Flash digital edition of a book.
16 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Profiad Oxfam i Charles


MAE myfyrwyr lleol yn clywed yn uniongyrchol am brofiadau o ddelio â gwrthdaro a thlodi yn y trydydd byd, gan fod eu darlithydd wedi gweithio gydag elusen Oxfam yn y gorffennol. Bu Charles Freitas-Smith, sydd


bellach yn darlithio ar Ddatblygiad y Byd i fyfyrwyr lefel A yng Ngholeg Sir Gâr, gynt yn gweithio fel cydlynydd logisteg ar gyfer Oxfam, ac yn teithio i wledydd fel Wganda, Tanzania a Rwanda. “Roedd fy ngwaith yn cynnwys


llawer o ddatrys problemau a sicrhau bod llwythi o ddŵr a chyflenwadau bwyd ar awyrennau yn cyrraedd y man cywir ac yn cael eu rheoli yn eu cyrchfannau,” meddai. “Mae angen bwydydd wedi eu


dethol yn ofalus ar bobl sy’n dioddef o gamfaethiad, a chan fod Oxfam yn enwog am drin dŵr ar frys, roedd angen i ni weld sut gallem ni lanhau’r systemau dŵr i atal colera a dysentri rhag ymledu’n helaeth.”


www.sirgar.gov.uk


Cyfleusterau Prifysgol i bawb


BETH sydd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i’w gynnig i chi Yn ogystal â chynnig nifer o gyrsiau


amrywiol yn ystod y flwyddyn sy’n apelio at bob diddordeb a gallu, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ystod eang o gyfleusterau y gall y gymuned leol eu defnyddio. Mae croeso i ymwelwyr wneud defnydd o’i llyfrgelloedd, ei bwytai a’i chaffis. Hefyd mae adnoddau ffitrwydd a chyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gael i’w llogi gan y cyhoedd ar hyd y flwyddyn. Ewch i www.ydds.ac.uk a chlicio ar Y Gymuned.


Sicrhau diogelwch ffyrdd


Llun: Charles Freitas-Smith, darlithydd ar Ddatblygiad y Byd yng Ngholeg Sir Gâr Yn ôl Charles mae’r myfyrwyr


wedi gwerthfawrogi dysgu am ei brofiadau fel rhan o’r cwrs. “Rydyn ni’n trafod achosion a gwrthdaro, sut mae newid sefyllfa gwlad a


thlodi, nid yn unig yn y byd sy’n datblygu, ond hefyd yn y wlad hon, ac mae’r myfyrwyr yn mwynhau cael eu dysgu o brofiad yn y maes.” I gael rhagor o wybodaeth am y


cwrs ar Ddatblygiad y Byd, cysylltwch


ag


enquiries@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch 01554 748118.


BOB HAF mae’r cyngor yn brysur yn sicrhau bod ffyrdd y sir yn ddiogel ar gyfer modurwyr a cherddwyr. Mae rhyw 8,000 tunnell o gerrig


Cynllun Gwella'r Cyngor Academi Llais


ar gyfer 2011/12 Ein 6 blaenoriaeth o ran amcanion Gwella Allweddol 2011/12


Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn iechyd a lles tenantiaid y cyngor drwy sicrhau bod eu cartrefi yn cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin


Byddwn yn darparu cymorth fel bod pobl yn gallu byw bywydau annibynnol


Yn ystod cyfnod o gyfyngiadau cyllidebol difrifol, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae ymwybyddiaeth o flaenoriaethau yn bwysig. Ni allwn wneud popeth.


Rydym wedi dynodi 6 prif blaenoriaeth am y flwyddyn


Darllenwch y canlynol i weld sut dewisiwyd y blaenoriaethau yma: Crynodeb o Gynllun Gwella'r Cyngor ar gyfer 2011/12 Cynllun Gwella 2011/12 ar


www.sirgar.gov.uk/performance


Byddwn yn moderneiddio'r ddarpariaeth ysgolion, ac yn mynd i'r afael a llefydd ysgol gwag trwy weithredu Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif


Byddwn yn lleihau defnydd y Cyngor o ynni


Byddwn yn lleihau gymaint a phosibl swm y gwastraff rydym yn ei anfon i'w dirlenwi


Byddwn yn cefnogi busnesau a'r economi leol yn yr hinsawdd ariannol bresennol


MAE’R FONESIG Kiri Te Kanawa a’r tenor operatig , Dennis O’Neill, wedi lansio Academi Llais Ryngwladol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Lansiwyd yr Academi – a sefydlwyd gan Dennis O’Neill – yn


Mae llawer o wasanaethau sy'n bwysig iawn i bobl leol sydd heb eu nodi fel Blaenoriaethau. Bydd y rhain yn parhau i fod yn wasanaethau pwysig yr ydym yn ceisio eu cynnal a'u gwella lle bynnag y bo modd.


Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ym mis Mehefin. Bydd yn darparu hyfforddiant llais pellach i gantorion opera proffesiynol ifanc o bob rhan o’r byd. Bydd y myfyrwyr cyntaf, sydd yn nyddiau cynnar eu gyrfa, yn cychwyn ar y rhaglen yn ystod Hydref 2011. Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Medwin Hughes: “Mae’n bleser o’r mwyaf cael gweithio gyda Dennis O’Neill. Bydd y sefydliad newydd, Academi Llais Ryngwladol Cymru, yn meithrin artistiaid opera o’r radd flaenaf yn nyddiau cynnar eu gyrfa a’r nod yw yr ânt yn eu blaenau i sicrhau llwyddiant rhyngwladol a pherfformio mewn tai opera ledled y byd.”


mân a 233,000 galwyn o emylsiwn bitwmen yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith hanfodol i osod wyneb newydd. Hefyd mae dros 6,000km o ymylon glaswellt yn cael eu torri, er mwyn peidio ag achosi rhwystr i yrwyr. Meddai’r Cyng. Philip Hughes, yr


aelod o’r bwrdd gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol: “Mae cynnal ymylon y ffyrdd yn wasanaeth pwysig. Mae llystyfiant wrth ymyl y ffordd yn cael ei dorri er diogelwch, er mwyn osgoi cuddio arwyddion a chyfyngu ar welededd. Mae cynnal priffyrdd yr un mor bwysig er mwyn helpu i atal tyllau a sicrhau bod wyneb y ffordd yn atal sgidio.” Gofynnir i fodurwyr ufuddhau i’r


arwyddion rhybudd a’r terfynau cyflymder er mwyn osgoi damweiniau neu ddifrod. Cynghorir cerddwyr hefyd i fod yn ofalus wrth gerdded yn ymyl unrhyw arwynebau sydd newydd eu trin.


A wyddech chi...


OEDDECH chi’n gwybod bod 194 o bobl wedi cael eu dirwyo am daflu sbwriel yn Sir Gaerfyrddin


yn ystod 2010/11? Cafodd 26 arall eu dirwyo am


beidio â glanhau baw eu cŵn. Swyddogion gorfodi amgylcheddol


gyflwynodd yr hysbysiadau tâl cosb am £75, sy’n gostwng i £50 os cânt eu talu o fewn 10 niwrnod. Mae’r arian yn mynd yn ôl i gyllideb glanhau’r strydoedd er mwyn helpu i gadw’r sir yn lân. Mae swyddogion gorfodi ar batrôl


yn rheolaidd er mwyn helpu i wella’r amgylchedd i drigolion ac ymwelwyr.


Page 1  |  Page 2  |  Page 3  |  Page 4  |  Page 5  |  Page 6  |  Page 7  |  Page 8  |  Page 9  |  Page 10  |  Page 11  |  Page 12  |  Page 13  |  Page 14  |  Page 15  |  Page 16  |  Page 17  |  Page 18  |  Page 19  |  Page 20