8 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Cwrdd â’r prynwr
CWMNÏAU lleol yw asgwrn cefn economi’r sir ac mae cadw cyfoeth yn lleol yn bwysig iawn i gwmnïau fel TRJ yn Rhydaman. Mae T Richard Jones (Betws) Ltd wedi’i sefydlu
ers 75 mlynedd ac mae wedi gweithio ar brosiectau enfawr gan gynnwys y contract presennol £12.5miliwn ar gyfer theatr newydd Llanelli a llawer o gontractau tai Gwalia. Dywedodd Owain Jones, cyfarwyddwr, eu bod
yn enwog am weithio’n agos â busnesau lleol a’u bod yn bwriadu parhau i wneud hynny am flynyddoedd i ddod. Gan gadw hynny mewn cof cynhaliwyd digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ yng Ngwesty’r Mountain Gate gan roi cyfle i fusnesau lleol gwrdd â’r cwmni adeiladu enfawr a dysgu sut y gallan nhw fod yn rhan o lyfr archebion llewyrchus y cwmni. Dywedodd Dafydd Jones cyfarwyddwr TRJ ei
bod yn wych cael sgwrsio â chymaint o bobl leol ddawnus, o grefftwyr a gweithwyr adeiladu i
baentwyr ac addurnwyr. Meddai Dafydd: “Rydym yn ymfalchïo yn
ffyddlondeb, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad staff. Mae digwyddiadau fel y rhain yn tynnu ein sylw at gwmnïau ac yn ein cyflwyno i rai sy’n arbenigo ar feysydd nad oeddem yn gwybod amdanynt. “Rydym yn gwmni lleol sy’n falch o gyflogi 170
o bobl o’r ardal gyfan sy’n cynnwys Bae Abertawe, Llanelli a Sir Gâr.”
Mwynhau bywyd coleg
YN ÔL Matthew Cooke, myfyriwr lefel A 17 oed yng Ngholeg Sir Gâr, roedd mynd i’r coleg yn gam cadarnhaol. “Mae’n anodd camu mlaen o lefel TGAU, ac mae rhaid i
chi allu rheoli eich amser,” meddai. “Ond mae’n gyfle i wthio eich hunan i wneud ffrindiau, ac rydych chi yn yr amgylchedd iawn i wneud hynny.” Mae Matthew, sy’n astudio ar gyfer lefel A yn y gyfraith,
Llun: Matthew Cooke
Saesneg a hanes, wedi defnyddio ei amser rhydd i chwarae i academi pêl-droed y coleg, ond mae wedi cadw ei astudiaethau dan reolaeth ofalus. “Mae lefel A yn mynd mor gyflym fel bod rhaid i chi gadw eich hunan dan reolaeth o’r diwrnod cyntaf, yn enwedig gan mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw rheoli’r llwyth gwaith. Ond rydw i wedi mwynhau dysgu pethau cwbl newydd fel y gyfraith - mae’r modiwlau yn berthnasol i fywyd pob dydd, felly mae dysgu yn dod â boddhad mawr.”
Gwe-ddarllediadau’r Brifysgol o’r Urdd
CHWARAEODD Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ran bwysig yn un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop eleni, sef Eisteddfod yr Urdd, a gynhaliwyd yn Abertawe. Bu myfyrwyr o Ysgol y
Celfyddydau Perfformio yn gwe- ddarlledu bob dydd o’r Eisteddfod fel rhan o’u prosiect Soffa Siarad. Roedd y gwe-ddarllediadau’n cynnig golwg wahanol ar y digwyddiadau, y bobl a’r gweithgareddau yn yr Eisteddfod. Roedd cyfle hefyd i bobl ifanc ac
oedolion ymweld â stondin y Brifysgol i weld sut roedd y rhaglen yn cael ei rhoi at ei gilydd ac i gymryd rhan mewn hyfforddiant oedd yn cyfuno’r dechnoleg ddiweddaraf
a sgiliau
trosglwyddadwy megis gweithio fel tîm, gweithio o fewn terfynau amser caeth, a gwrando, sydd oll yn sgiliau hanfodol ym myd gwaith ac addysg. Meddai’r Dirprwy Is-Ganghellor,
Meri Huws: “Mae’r Brifysgol yn rhan annatod o’r gymuned ac rydym yn ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r ardal mewn amryw ffyrdd. I ni, mae ymgysylltu â’r gymuned yn ymwneud â gweithio gyda phobl o’r tu allan i’r Brifysgol fel y gallwn ddeall ein gilydd yn well.” Roedd y prosiect yn rhan o fenter i
ehangu mynediad i addysg uwch gyda’r nod o godi dyheadau a meithrin hunanhyder ymhlith y disgyblion.
www.sirgar.gov.uk
Stroc - Gweithredu'n Gyflym Deialwch 999
F.A.S.T Wyneb Breichiau Lleferydd Amser
BELLACH gall trigolion Sir Gaerfyrddin derbyn triniaeth hanfodol 24 awr y dydd i chwalu clotiau ar ôl cael strôc. Mae dros 500 o bobl yn dioddef strôc yn Sir Gaerfyrddin bob blwyddyn, ac mae ymyrraeth
thrombolysis bellach ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, yn Ysbytai Cyffredinol y Tywysog Philip a Glangwili i gleifion addas sydd wedi cael strôc. Mae strôc yn digwydd fel arfer oherwydd clot gwaed yn yr ymennydd, ac mae thrombolysis
yn gweithio trwy adfer llif y gwaed yn gyflym, gan helpu i gyfyngu ar anableddau parhaol. Dyma un o’r triniaethau mwyaf addawol ar gyfer strôc ischaemig aciwt, ond mae’r canlyniadau’n llawer gwell os rhoddir y driniaeth o fewn tair awr.
Mae rhaid gweithredu ar FRYS os byddwch yn amau bod rhywun wedi cael strôc. Edrychwch am y canlynol:
Gwendid yn yr wyneb Gwendid yn y fraich Anhawster siarad Peidiwch ag oedi: Deialwch 999
Lle i’w gosod?
MAE’R galw cynyddol am le ar ddau gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arwain at brinder llety i fyfyrwyr. Os hoffech osod ystafell yn eich
cartref i fyfyriwr o’r Drindod Dewi Sant, gall y Brifysgol wneud y trefniadau i gyd ar eich rhan. Neu, os oes gennych dŷ i’w osod, gallwch gael incwm rhent wrth osod trwy’r Brifysgol. Cysylltwch â David Doyle ar 01267 neu
676747 ebostiwch
d.doyle@
ydds.ac.uk i gael rhagor o fanylion.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20