4 NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Addewid i fyw bywyd iach
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi lansio ei gynllun cyfranogiad newydd, Siarad Iechyd, ac rydym am i chi ymuno heddiw i sicrhau dyfodol iachach, ac i gael lleisio barn ar sut caiff eich gwasanaethau iechyd lleol eu cynllunio, eu datblygu a’u darparu. Hywel Dda yw canolbwynt iechyd
lleol, ac mae’n ymroddedig i ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel i ymateb i anghenion ein pobl leol. Mae gan bobl yn ein hardal ni ffyrdd iachach o fyw yn gyffredinol nag sy’n
nodweddiadol ar draws Cymru. Ac eto, mae heriau o hyd, yn cynnwys gordewdra, smygu, ac yfed alcohol. Ein nod ni yw newid hynny, gyda deg adduned i gynnal pobl leol i fyw bywydau iachach, mwynhau gwell ansawdd bywyd a byw’n hwy. Yn ogystal ag addo helpu pobl, mae
arnom angen i bobl leol dderbyn mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain. Byddem ni’n hoffi i chi addo rhywbeth i chi eich hun – y byddwch yn gofalu am eich iechyd ac yn eich helpu eich hun i fyw bywyd hwy, iachach.
Cymerwch ran
Trwy fod yn rhan o Siarad Iechyd byddwch yn cael cyfleoedd i leisio barn, ac i helpu Hywel Dda i gynllunio, datblygu, adolygu, ac addasu gwasanaethau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli. Byddwch ymhlith y cyntaf i dderbyn gwybodaeth am wasanaethau Bwrdd
Iechyd Hywel Dda, diweddariad rheolaidd yn Llythyr Newyddion Siarad Iechyd, gwahoddiad i ddigwyddiadau, a chynigion arbennig a gostyngiadau. Gallwch ‘Fod yn Rhan’ o Siarad Iechyd os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
•Mae gennych ddiddordeb yn y gwasanaethau mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn eu darparu
•Rydych yn defnyddio gwasanaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda
•Chi yw gofalwr rhywun sy’n defnyddio gwasanaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda
•Rydych chi’n aelod o staff
•Rydych chi’n gynrychiolydd grp neu sefydliad sydd â diddordeb yng ngwasanaethau Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Cynllun Cymorth Treth y Cyngor i Bensiynwyr
Gall holl bensiynwyr Sir Gaerfyrddin sydd dros 65 sicrhau gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2011-12. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu eto y bydd yn defnyddio cyllid
a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu pensiynwyr gyda Threth y Cyngor. Bydd pobl dros 65 sydd eisoes yn derbyn peth cymorth trwy Fudd-dal Treth y
Cyngor yn derbyn gostyngiad pellach ar eu bil yn awtomatig. Does dim angen cyflwyno cais, gan y bydd cofnodion y Cyngor yn nodi’r bobl sy’n gallu hawlio help ychwanegol. Gall pobl dros 65 sydd ddim yn derbyn Budd-dal Treth y Cyngor, ac sy’n talu
bil Treth y Cyngor yn llawn ar hyn o bryd, dderbyn gostyngiad yn ogystal. Y cyfan mae’n rhaid i chi ei wneud yw llenwi a dychwelyd y ffurflen gais erbyn 30 Medi 2011, neu ffonio Galw Sir Gâr ar 01267 234567.
Cynllun Cymorth Treth y Cyngor i Bensiynwyr 2011-12
Enw’r sawl sy’n talu Treth y Cyngor: ............................................... (Printiwch os gwelwch yn dda)
Dyddiad Geni.....................................................................................
Cyfeiriad: ........................................................................................... ............................................................................................................ ............................................................................................................ Rhif ffon:............................................................................................
Cyfeirnod Treth y Cyngor (o’ch bil) ................................................. Datganiad :
• Rwy’n dymuno gwneud cais am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor fel rhan o’r cynllun uchod.
• Rwy’n cadarnhau fy mod dros 65 oed ac nad wyf yn derbyn Budd-dal Treth y Cyngor.
• Rwy’n deall y gall y Cyngor gysylltu â mi yn y dyfodol ynghylch hawlio mathau eraill o gymorth.
Llofnod: ............................................................................................. Dyddiad:.............................................................................................
Ar ôl ei lenwi, dychweler i : FREEPOST RRTG-TEEE-URUS, Carmarthenshire County Council, Customer Services Section, Town Hall, Town Hall Square, Llanelli, SA15 3AH
RHAID DERBYN EICH CAIS ERBYN 30 MEDI 2011
Bod yn glaf arbenigol
I YMUNO â’r Rhaglen Cleifion Arbenigol i’ch helpu i reoli cyflwr hir dymor, fel asthma neu ddiabetes, ffoniwch: 01554 779507 I gael gwybod â phwy dylech chi gysylltu i gael cyngor neu gymorth ar unrhyw un o’r pynciau yma, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 neu ewch i’w gwefan:
www.nhsdirect.wales.nhs.uk Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol ar gael yn:
www.heriechydsirgar.org.uk
www.sirgar.gov.uk
Mae’r Awgrymiadau Gorau yn cynnwys:
• Rhoi’r gorau i smygu • Bwyta’n iach • Yfed yn gyfrifol • Rheoli eich pwysau • Bod yn egnïol • Cadw meddwl iach • Gofalu am eich iechyd rhyw
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech fod yn rhan o Siarad Iechyd, cysylltwch â ni: E-bost:
siaradiechyd@wales.nhs.uk Gwefan:
www.siaradiechyd.wales.nhs.uk Rhif ffôn: 01554 779 510 Ysgrifennwch atom ni: Rhadbost Bwrdd Iechyd Hywel Dda
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.siaradiechyd.wales.nhs.uk
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20