20
NEWYDDION SIR GÂR • Rhifyn 2 Gorffennaf - Medi 2011 Gwrando i chi
www.sirgar.gov.uk Goryrru yn flaenoriaeth
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl a gafodd eu holi eu bod nhw’n hapus â’u cymuned ac nad oedden nhw’n cael llawer o broblemau. Nododd 20% o ymatebwyr bod goryrru
yn broblem fawr iawn a nododd 23% arall bod goryrru yn broblem eithaf mawr. Mae mwy o bobl yn teimlo’n fwy diogel
nawr nag yr oeddynt bum mlynedd yn ôl (21% o’i gymharu ag 16%). Serch hynny, mae 60% o bobl yn credu bod lefelau torcyfraith
ac
MAE pobl ledled Sir Gaerfyrddin wedi rhoi eu barn ar fywyd a gwasanaethau yn y sir. Cynhaliwyd arolwg annibynnol helaeth i ganfod barn y trigolion am amrywiaeth o faterion, yn
cynnwys gwasanaethau’r cyngor, diogelwch yn eu cymuned, eu hysbyty leol, trafnidiaeth a’u cymunedau. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio gan yr holl brif sefydliadau wrth gynllunio gwasanaethau a datblygiadau ar gyfer y dyfodol. Dywedodd bron yr holl ymatebwyr – 94%- eu bod yn fodlon ar eu cymdogaeth, ac ar Sir Gaerfyrddin
fel lle i fyw ynddo. Dywedodd hanner eu bod yn fodlon ar y cyfleusterau hamdden, roedd rhyw 56% yn fodlon ar y gwasanaethau trafnidiaeth a bysus, ac roedd 77% yn fodlon ar y cyfleusterau siopa. Cwmni BMG a gynhaliodd yr arolwg cyfrinachol, gan ddefnyddio sampl cynrychioliadol o 1,000 o
drigolion. Meddai Arweinydd y Cyngor, Meryl Gravell: “Rydyn ni eisiau gwybod beth yw barn pobl am y cyngor, ein gwasanaethau a’u cymunedau lleol. Dim ond trwy gasglu’r wybodaeth yma y gallwn ni nodi ble mae modd gwella’r gwasanaethau, y cyfleusterau a’r wybodaeth rydyn ni’n eu darparu.”
Iechyd ymddygiad
gwrthgymdeithasol wedi parhau’r un peth dros y 12 mis diwethaf (60% y ddau achos). O ran camau gweithredu er mwyn gwella
eu teimlad o ddiogelwch, mae tair rhan o bump (60%) o bobl wedi awgrymu o leiaf un gwelliant. Nododd 10% o bobl: gwell goleuadau stryd, mwy o gamerâu teledu cylch cyfyng a gorfodi terfynau cyflymder. Roedd bron i hanner (49%) yr ymatebwyr
yn gwybod yr ymdrinnir â phob galwad di- argyfwng i Heddlu Dyfed-powys bellach drwy un rhif (101). Yn ogystal, roedd oddeutu 35% yn ymwybodol y gellir rhoi
gwybod
am ymddygiad
gwrthgymdeithasol drwy ffonio 101. Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Steven
Mears, “Rydym wedi defnyddio’r adborth o’r arolwg trigolion fel rhan o’n hymgynghoriad ehangach i’n helpu ni i ddeall ac i fynd i’r afael â’r materion sy’n achosi’r pryder mwyaf yn y gymuned. Mewn rhai achosion, mae hyn wedi cadarnhau adborth arall rydym yn ei gael, er enghraifft ynghylch goryrru. Rydym eisoes yn gwybod o’n cyfarfodydd PACT cyson bod goryrru yn bryder. Ac rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn. Yn aml, gall canfyddiadau ynghylch goryrru fod yn wahanol i realiti ac am y rheswm hwnnw, caiff dyfeisiau mesur cyflymder eu defnyddio er mwyn sicrhau ein bod ni’n targedu’r ardaloedd cywir. “Yn ogystal, rwy’n credu bod y gwaith
rydym ni wedi ei wneud yn defnyddio plant ysgol i siarad â modurwyr sy’n goryrru ar ochr y ffordd wedi gweithio’n dda o ran addysgu’r gyrwyr.”
Gwasanaeth y cyngor
Dengys canlyniadau fod dros bedwar o bob pump o bobl – 83 y cant – yn fodlon ar y gwasanaethau mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu darparu. Dim ond cyfran fach – pump y cant – fynegodd anfodlonrwydd.
Amlygodd o leiaf 9 o bob 10 ymatebydd fod nifer o wasanaethau yn bwysig, sef:
• Casglu sbwriel 96% • Goleuadau stryd 94% • Cynnal/atgyweirio ffyrdd 93% • Cynnal palmentydd 90%
Mae canlyniadau’r arolwg wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar wasanaethau iechyd lleol. Gofynnwyd i ymatebwyr ynghylch oddeutu pum
gwasanaeth iechyd gyda’r rhan fwyaf o bobl yn rhoi adborth cadarnhaol. Roedd canran yr ymatebwyr a oedd yn fodlon neu’n
fodlon iawn ar wasanaethau unigol fel a ganlyn: meddyg teulu - 88%; deintydd - 72%; fferyllydd - 93%; optegydd - 75%; ysbyty lleol - 83%.
Dywedodd Linda Williams, Cyfarwyddwr Sir
Gaerfyrddin, “Mae’n newyddion gwych bod mwyafrif aelodau’r panel yn Sir Gaerfyrddin gyfan yn fodlon iawn neu’n fodlon ar y gofal a’r gwasanaethau maent yn eu derbyn. Serch hynny, nid ydym yn hunanfodlon a thrwy staff ein hysbytai a’n gwasanaethau cymunedol, byddwn ni’n parhau i weithio’n galed er mwyn darparu’r gwasanaethau a gofal o safon y mae Sir Gaerfyrddin yn eu haeddu.”
• Cyfleusterau ailgylchu 90% Mae o leiaf dri phumed o ddefnyddwyr gwasanaeth yn fodlon ar y gwasanaeth maen nhw, neu aelod arall o’u teulu, yn ei ddefnyddio. Mae’r lefelau boddhad yn 90% o leiaf yn achos saith gwasanaeth, sef ysgolion cynradd ac uwchradd, addysg feithrin, parciau a mannau agored, budd- dal tai, mynediad i gefn gwlad, cyfleusterau ailgylchu a llyfrgelloedd.
Page 1 |
Page 2 |
Page 3 |
Page 4 |
Page 5 |
Page 6 |
Page 7 |
Page 8 |
Page 9 |
Page 10 |
Page 11 |
Page 12 |
Page 13 |
Page 14 |
Page 15 |
Page 16 |
Page 17 |
Page 18 |
Page 19 |
Page 20